BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth y DU yn cefnogi diwygiadau newydd sy'n ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr gadw cildyrnau oddi wrth staff

Bydd deddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr gadw cildyrnau oddi wrth staff, ac yn golygu y bydd cwsmeriaid yn gwybod yn sicr y bydd pob cildwrn yn mynd i weithwyr sy'n gweithio'n galed. Bydd y Bil Cildwrn o fudd i fwy na 2 filiwn o weithwyr ac, am y tro cyntaf, bydd yn rhoi'r hawl iddynt weld cofnod cildwrn cyflogwr.

Er bod y rhan fwyaf o weithwyr lletygarwch – llawer ohonynt yn ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol - yn dibynnu ar gildyrnau i ychwanegu at eu cyflog, gwaetha’r modd, mae gormod o fusnesau o hyd, yn gywilyddus, yn methu trosglwyddo taliadau gwasanaeth gan gwsmeriaid i'w staff. 

Bydd y Bil Cyflogaeth (Dyrannu Cildyrnau) yn sicrhau bod pob cildwrn yn mynd i staff drwy ei gwneud yn anghyfreithlon i fusnesau gadw taliadau gwasanaeth haeddiannol rhag eu gweithwyr.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Cash boost for millions of workers as government backs new law to ensure all staff keep their tips - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.