BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pam bod yn Gefnogwr Busnes y Criw Mentrus?

Pam bod yn Gefnogwr Busnes y Criw Mentrus?

Fel cefnogwr Her Y Criw Mentrus bydd eich sefydliad yn ysbrydoli plant Cymru i feithrin archwaeth am fusnes; dysgu sgiliau bywyd pwysig, llythrennedd a rhifedd, wrth gael llawer o hwyl ac ymdeimlad o gyflawniad a chyflawni Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CCC) eich cwmni ar yr un pryd.

Gallwch helpu mewn ffordd sy’n addas i chi a’ch busnes. Gallech fod yn brif noddwr ac amlygu eich brand fel un sy’n gwerthfawrogi’r cyfraniad a wneir gan bobl ifanc yn ogystal ag addysg entrepreneuraidd. Neu fe allech roi o’ch amser i ymweld â’ch ysgol gynradd leol i gefnogi eu her, neu roi anrhegion i wobrwyo cynnydd a chyflawniad.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.