BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£110 miliwn yn ychwanegol i helpu busnesau fydd yn teimlo effeithiau’r cyfyngiadau newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £110m o gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau diweddaraf, a ddaeth i rym ddydd Sul 20 Rhagfyr 2020.

Bydd busnesau lletygarwch, manwerthu dianghenraid, twristiaeth, hamdden a busnesau y gadwyn gyflenwi yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol.

Bydd rhagor o fanylion am y cyllid yn cael eu cyhoeddi ar wefan Busnes Cymru maes o law.

I ddarllen y cyhoeddiad ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.