Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn nodi y byddwn yn 2022-2023, yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw. Ac wrth i’r cynnydd mewn Yswiriant Cenedlaethol a’r cap ar bris ynni wthio pobl yn bellach i sefyllfa o galedi, mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans wedi rhoi manylion y pecyn cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddatblygu i helpu’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae nhw hefyd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy.
Am ragor o wybodaeth, ewch i £380m i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw yng Nghymru | LLYW.CYMRU