BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru

Person making a coffee

Mae meddyliau entrepreneuraidd disgleiriaf Cymru yn cael eu hannog i achub ar y cyfle i gyflymu gweithrediad eu syniadau busnes. Bellach mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn derbyn ceisiadau ar gyfer ei Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes 10 wythnos arloesol, sy’n rhaglen drochi ac a fydd yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2025.

Bydd Rhaglen Cyflymu Busnesau Newydd Busnes Cymru yn darparu cyfres o sesiynau rhithwir i ddarparu profiad cychwyn busnes cynhwysfawr a chyflym. Bydd cyfranogwyr yn derbyn arweiniad fesul cam ar droi eu syniadau'n fusnesau cwbl weithredol, gyda chymorth wedi'i deilwra sydd wedi'i gynllunio i'w helpu i gaffael cwsmeriaid sy'n talu a datblygu model busnes cynaliadwy.

Mae'r cyflymydd hwn yn agored i bob darpar entrepreneur yng Nghymru sydd â syniad busnes cyn-refeniw. Dylai'r syniad busnes anelu at gyflawni dros £1 miliwn mewn trosiant blynyddol a chreu deg swydd amser llawn erbyn 2029, gyda chyfleoedd allforio posibl. Mae cymorth hefyd ar gael i helpu i oresgyn rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan yn y rhaglen.

Bydd y rhaglen flaengar hefyd yn trosoli pŵer Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wella creadigrwydd ac ymchwil i'r farchnad, lleihau’r amser i gyrraedd y farchnad, a hybu effeithlonrwydd. 

Mae'r rhaglen yn cynnig cyfuniad o weminarau, dosbarthiadau meistr a sesiynau mentora un-i-un a gynhelir gan fodelau rôl busnes ac arbenigwyr twf busnes. Mae rhwydweithio yn gonglfaen i'r rhaglen, gyda sesiynau cymar wrth gymar wedi'u cynllunio i hwyluso twf busnes a chynnig canfyddiadau amhrisiadwy. Bydd cyfranogwyr hefyd yn elwa o gyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus a gynlluniwyd i godi proffiliau busnes a sbarduno twf cyflym, a bydd y rhaglen yn dod i ben gyda digwyddiad gwobrwyo proffil uchel.

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y rhaglen erbyn dydd Llun 28 Hydref 2024. Bydd y cyflymydd yn dechrau ddydd Mawrth 7 Ionawr 2025 ac yn rhedeg tan ddydd Gwener 14 Mawrth 2025.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gofrestru eu diddordeb drwy glicio ar y ddolen isod: Cyflymu Dechrau Busnes (newable.co.uk).

Os nad yw eich busnes yn barod ar gyfer y lefel hon o dwf, mae Busnes Cymru yn cynnig ystod eang o gyngor ac arweiniad am ddechrau busnes a thwf busnes. I ddysgu rhagor ac i siarad â chynghorydd arbenigol, ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch i Cysylltu â ni | BusnesCymru (llyw.cymru) 

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.