BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheolau sy’n garreg filltir yn gwneud gweithgynhyrchwyr yn gyfrifol am wastraff sy’n cael ei greu gan eu cynhyrchion

Mae Cymru – sy’n drydydd yn y byd am ailgylchu domestig – wedi ymuno â gwledydd eraill y DU i gyflwyno rheolau ‘y llygrwr sy’n talu’ newydd i wneud i fusnesau sy’n gosod nwyddau wedi’u pecynnu ar y farchnad dalu am ailgylchu eu gwastraff.

Ond mae Cymru, ochr yn ochr â’r Alban, yn mynd un cam ymhellach drwy ymrwymo i sicrhau bod cwmnïau sy’n gyfrifol am yr eitemau sbwriel mwyaf cyffredin sy’n anharddu strydoedd, cymunedau a chefn gwlad yn talu’r costau glanhau.

O dan y rheolau newydd, bydd angen logo ailgylchu safonol ar bob pecyn i helpu defnyddwyr i wybod beth allant ei roi yn eu biniau ailgylchu.

Bydd perchnogion brand, mewnforwyr, dosbarthwyr a marchnadoedd ar-lein yn talu ffi yn ôl y swm a'r math o ddeunydd pecynnu maent yn ei roi ar y farchnad.
Bydd diwydiant yn cael ei gosbi os yw ei becynnu'n anos ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu neu os yw’n methu cyrraedd targedau ailgylchu. Bydd y ffioedd fydd yn cael eu talu’n cael eu defnyddio i ariannu gwell casgliadau ar ochr y ffordd o wastraff pecynnu o gartrefi.

Bydd taliadau i awdurdodau lleol ar gyfer trin gwastraff pecynnu yn dechrau yn 2024.

Mae Cymru hefyd yn ymuno â Lloegr a Gogledd Iwerddon i gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes, a fydd yn cynnwys poteli gwydr PET, a chaniau dur ac alwminiwm. Fodd bynnag, mae Cymru, ochr yn ochr â’r Alban, yn mynd gam ymhellach eto drwy ymrwymo y bydd poteli gwydr yn cael eu cynnwys yn y cynllun hefyd.

Bydd rhagor o fanylion am ddyluniad y Cynllun Dychwelyd Ernes yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Bydd yn ofynnol hefyd i siopau coffi mwy a chadwyni bwyd cyflym gael biniau ailgylchu pwrpasol yn eu siopau o 2024 ymlaen ar gyfer casglu cwpanau papur tafladwy.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Rheolau sy’n garreg filltir yn gwneud gweithgynhyrchwyr yn gyfrifol am wastraff sy’n cael ei greu gan eu cynhyrchion | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.