BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhybudd rhag sgamiau wrth i ddyddiad cau Hunanasesiad nesáu

Laptop - warning sign, exclamation mark in a red triangle

Mae CThEF yn atgoffa cwsmeriaid Hunanasesiad i fod yn effro i sgamiau a thwyllwyr posibl cyn y dyddiad cau ar gyfer ffeilio ar 31 Ionawr 2025.

Gyda miliynau o bobl i fod i lenwi eu ffurflen dreth Hunanasesiad a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2025, mae twyllwyr yn targedu pobl gyda chynigion o ad-daliadau treth neu fynnu eu bod yn talu treth er mwyn cael gafael ar eu gwybodaeth bersonol a’u manylion bancio. Roedd tua hanner yr holl adroddiadau am sgamiau (71,832) yn y flwyddyn ddiwethaf yn hawliadau ffug am ad-daliad treth.

Os bydd rhywun yn derbyn gohebiaeth sy'n honni ei fod gan CThEF sy'n gofyn am eu gwybodaeth bersonol neu sy'n cynnig ad-daliad treth, gwiriwch y cyngor ar GOV.UK er mwyn helpu i wybod a yw'n weithgaredd sgam neu beidio.

Ni fydd CThEF byth yn gadael negeseuon llais yn bygwth camau cyfreithiol neu arestio nac yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol dros neges destun - dim ond twyllwyr a throseddwyr fydd yn gwneud hynny.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Scams warning as Self Assessment deadline loom - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.