BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Saith peth efallai na wyddoch am derfyn cyflymder diofyn 20mya newydd Cymru

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i basio deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya pan bleidleisiodd y Senedd o blaid hynny ym mis Gorffennaf eleni.

Mae'r gwaith bellach yn mynd rhagddo i sicrhau bod Cymru’n barod am y newid, gyda'r terfyn cyflymder newydd yn dod i rym ar 17 Medi 2023.

Dyma saith peth efallai na wyddoch am y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya:

1. Bydd y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya yn achub bywydau: Mae'r dystiolaeth yn glir – mae gostwng terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau. Mae gwaith ymchwil blaenorol (Sefyllfa’r dystiolaeth ar derfynau cyflymder 20mya mewn perthynas â’r effeithiau ar ddiogelwch ar y ffyrdd, teithio llesol a llygredd aer: Awst 2018) wedi dangos bod 40% yn llai o wrthdrawiadau mewn ardaloedd 20mya, o'u cymharu ag ardaloedd 30mya. Yng Nghymru, drwy gyflwyno 20mya yn eang, amcangyfrifwyd y byddai 6 i 10 o fywydau'n cael eu hachub a 1200 i 2000 o anafusion yn cael eu hosgoi bob blwyddyn (Twenty miles per hour speed limits: a sustainable solution to public health problems in Wales). Mae atal yr anafusion hyn yn werth rhwng £58 miliwn a £94 miliwn bob blwyddyn.

Yn ogystal â gwneud gwrthdrawiadau'n llai difrifol pan fyddant yn digwydd, mae'r cyflymder arafach hefyd yn cynyddu'r siawns o osgoi gwrthdrawiad yn y lle cyntaf. Yn ei dro, mae hynny’n lleihau'r baich ar y GIG. Gwell rhwystro’r clwy na’i wella!

2. Mae pobl sy'n byw mewn cymunedau 20mya yn cefnogi'r terfyn cyflymder newydd: Mae pobl sy'n byw mewn cymunedau lle mae 20mya eisoes yn derfyn cyflymder diofyn yn gadarnhaol am y newid. Yn ôl tystiolaeth gan arolwg a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, roedd 80% o bobl yn cefnogi terfyn cyflymder o 20mya yn eu hardal, sef pedwar o bob pum oedolyn. Ac mewn mannau ar draws y DU lle mae 20mya wedi'i roi ar waith, mae'r gefnogaeth wedi cynyddu ar ôl ei weithredu.

3. Bydd yn gwella'r amgylchedd ac yn helpu i greu cymunedau mwy diogel: Pa bynnag gar sydd gennych, mae angen mwy na dwywaith cymaint o ynni i gyrraedd 30mya, o’i gymharu â chyrraedd 20mya. Mewn gwirionedd, mae tystiolaeth yn awgrymu o ganlyniad i arddulliau gyrru llyfnach, lleihau brecio a chyflymu, gwell llif traffig, a gostyngiadau posibl o ran y defnydd o danwydd, mae 20mya yn cynhyrchu llai o lygredd aer na 30mya. Mae pobl a holwyd yn dweud (Arolwg o Agweddau’r Cyhoedd at Orchmynion Traffig a Therfynau Cyflymder 20mya Astudiaeth Omnibws Cymru) bod cyflymder traffig yn rhwystr rhag cerdded a beicio ar gyfer teithiau byr, felly drwy ostwng y terfyn cyflymder, rydym yn helpu i greu amgylchedd mwy diogel, tawelach, a mwy dymunol lle mae pobl yn teimlo'n fwy diogel wrth gerdded a beicio. Felly, mae’n lleihau llygredd aer ymhellach ac o fudd i iechyd pobl a'r economi leol. Bydd cymunedau Cymru'n datblygu i fod yn llefydd gwell i fyw ynddynt.

4. Mae'r terfynau cyflymder newydd yn lleihau cyflymder: Gosodwyd terfyn cyflymder o 30mya ar gyfer ardaloedd preswyl cyn yr Ail Ryfel Byd, pan oedd llawer llai o geir ar y ffyrdd, a gosodwyd terfynau cyflymder heb yr holl gyfoeth o waith ymchwil a data sydd gennym nawr. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod y mwyafrif o yrwyr yn cadw at derfynau cyflymder ar strydoedd preswyl. Dangosodd canlyniadau o waith monitro cyflymder un o'r cynlluniau peilot 20mya yng Nghymru mai dim ond tua 6% o yrwyr yr oedd angen cymryd camau gorfodi yn eu herbyn ar ffurf cyngor, cwrs addysg cyflymder neu gamau eraill.

5. Nid yw'n derfyn cyflymder cyffredinol: Ar hyn o bryd, 30mya yw'r terfyn cyflymder diofyn ar gyfer strydoedd sydd â goleuadau stryd, ond mae amrywiadau i'r terfyn hwnnw wedi'u marcio gan arwyddion ar y ffordd. Yn yr un modd, o dan y ddeddfwriaeth newydd 20mya, gall cynghorau lleol ddefnyddio'u gwybodaeth leol i gadw terfyn o 30mya lle mae achos dros wneud hynny. Bydd y ffyrdd 30mya hyn yn cael eu marcio gan arwyddion yn yr un modd ag y defnyddir amrywiadau ar y terfyn cyflymder diofyn presennol.

6. Mae terfynau cyflymder 20mya eisoes yn cael eu defnyddio mewn gwledydd eraill: Mae manteision lleihau cyflymder yn cael eu cydnabod mewn rhannau eraill o'r byd. Gwnaeth 120 o wledydd o bob cwr o'r byd lofnodi Datganiad Stockholm ar Ddiogelwch Ffyrdd yn 2020, gan gytuno y bydd lleihau'r terfyn cyflymder i 20mya yn gwella diogelwch ar y ffyrdd. Yn 2021, gosododd Sbaen derfynau cyflymder mewn strydoedd trefol i 30kmya (sy'n cyfateb i 20mya) ac erbyn hyn mae gan wledydd Ewropeaidd eraill derfynau 30kmya ar gyfer y rhan fwyaf o'u ffyrdd trefol/pentrefol. Yn nes at adref, mae ardaloedd fel canol Llundain, hanner y 40 awdurdod trefol mwyaf yn y DU a chynghorau gwledig cyfan fel Gororau'r Alban, Swydd Gaerhirfryn a Gorllewin Swydd Gaer eisoes wedi gwneud 20mya y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer strydoedd preswyl. Mae Swydd Rydychen a Chernyw hefyd yn cyflwyno terfyn o 20mya ar draws y siroedd ar gyfer ffyrdd o'r fath.

7. Bydd y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya yn dod i rym ym mis Medi 2023: Gwnaeth y Senedd basio'r ddeddfwriaeth (Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022) i ddod â'r terfyn cyflymder diofyn newydd ledled Cymru o fwyafrif o bron i ddwy ran o dair. O fis Medi 2023, bydd tua 35% o'r ffyrdd yng Nghymru (yn ôl hyd) yn dod yn 20mya. Gellir dadlau mai hwn fydd y newid mwyaf i ffyrdd Cymru ers i wisgo gwregys diogelwch gael ei wneud yn orfodol yn 1983. Mae'n newid, ond dros amser bydd fel gwisgo gwregys diogelwch mewn car, bydd addasu eich gyrru i'r terfyn cyflymder newydd yn dod yr un mor naturiol ag y mae gyrru ar gyflymder o 30mya nawr!

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.