BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

StartUp UK

Nod StartUp UK yw addysgu, dathlu a chynrychioli entrepreneuriaid newydd ac mae'n darparu'r dechnoleg, y cyngor a'r offer hanfodol ar gyfer bancio a chyfrifyddiaeth sydd eu hangen i ddechrau a thyfu busnes.

Dyma bum ffordd y gallwch chi elwa ar ymuno â'r rhaglen:

  1. Mynychu digwyddiad – ymunwch â StartUp Saturday wyneb yn wyneb neu weminar Cinio a Dysgu ar-lein i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod yn fos arnoch chi’ch hun. Archwliwch ddigwyddiadau
  2. Offer arbed arian – Ydych chi’n dechrau ar gyllideb fach?  Dewch o hyd i gynigion gwych ar yr offer rydych chi wedi bod yn chwilio amdanynt i roi hwb i'ch busnes. Cyrchwch gynigion
  3. Lawrlwytho’r StartUp Kit – Angen cymorth ymarferol i droi eich syniad da yn fusnes gwych? Dyma'r canllaw i chi. Lawrlwythwch nawr
  4. Gwyliwch e-ddysgu am ddim – Cyrchwch gyrsiau a fideos am ddim a fydd yn addysgu’r holl hanfodion dechrau busnes i chi. Dechreuwch ddysgu
  5. Cael eich ysbrydoli – Dewch o hyd i weminarau wedi'u recordio a chynnwys ymarferol. Rydym hefyd yn tynnu sylw at aelodau sydd wedi cael llwyddiant gyda'u mentrau newydd. Darganfyddwch fwy

I gael mwy o wybodaeth, ewch i StartUp UK: Free resources to start a business | Enterprise Nation

P'un a ydych bob amser wedi bod eisiau dechrau eich busnes eich hun neu os yw eich amgylchiadau'n gofyn i chi ystyried hunangyflogaeth, rydym yma i helpu. Ewch i Dechrau a Chynllunio Busnes | Busnes Cymru (gov.wales) i gael mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am ddysgu ar-lein am ddim i'ch busnes, ewch i Hafan | Boss (gov.wales) 
 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.