BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Taith 2024

Abertawe

Bob blwyddyn mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cynnal taith genedlaethol ar hyd a lled y DU.

Bydd y Daith yn dychwelyd eto fis Tachwedd eleni i dynnu sylw at, a chefnogi busnesau bach ledled y wlad a'u cymunedau ac i gyfri’r dyddiau yn swyddogol hyd Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 7 Rhagfyr 2024.

Bydd y Daith yn ymweld â thri ar hugain o wahanol drefi a dinasoedd, gan ymweld â busnesau bach, mynd y tu ôl i'r llenni a chwrdd â'r bobl sy'n eu rhedeg, er mwyn tynnu sylw at eu cyfraniad amhrisiadwy i gymunedau lleol ac economi ehangach y DU.

Bydd hefyd yn cynnig rhaglen ddyddiol llawn dop o hyfforddiant a mewnwelediad ar-lein - gan gynnwys gweminarau, mentora a straeon entrepreneuraidd ysbrydoledig - sy'n agored i bob busnes bach.

Bydd y Daith yn teithio dros 3,000 milltir ar draws y DU am bum wythnos mewn fan drydan i gyfyngu ar allyriadau ac adlewyrchu'r newidiadau cynaliadwy y mae llawer o berchnogion busnesau bach yn eu gwneud fel rhan o'u rôl hanfodol yn y ras i sero net.

Bydd y Daith yn ymweld ag Abertawe ar 20 Tachwedd 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Small Business Saturday UK | Another year making a Big Difference!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.