BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Tirluniau Newydd: Cynllun Grant Catalydd Ymchwil a Datblygu

Mae ceisiadau ar gyfer rownd nesaf Tirluniau Newydd: Cynllun Grant Catalydd Ymchwil a Datblygu Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg bellach ar agor.

Bydd Tirluniau Newydd: Cynllun Grant Catalydd Ymchwil a Datblygu Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg yn darparu pum grant cydweithredol o hyd at £6,000 o arian a gwerth hyd at £15,000 o gymorth arall i gynigion sy’n:

  • Tyfu rhwydweithiau byd-eang i alluogi datblygu ymarfer, arbrofi a phrofi atebion dylunio a chynhyrchu cynaliadwy sy'n ysbrydoli newid amgylcheddol cadarnhaol.
  • Cefnogi busnesau bach a chanolig (BBaCh) i gyfnewid dulliau o ddylunio a chynhyrchu mewn ffordd fwy cynaliadwy a chysylltiedig yn gymdeithasol.
  • Cefnogi dylunwyr ifanc i ddod yn eiriolwyr dros ffasiwn, tecstilau a thechnolegau cysylltiedig cynaliadwy, moesegol a chysylltiedig yn gymdeithasol.

Y dyddiad cau i wneud cais yw 23:59 ar 6 Chwefror 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Call for proposals for Fashion, Textiles and Technology partnership with British Council | UAL (arts.ac.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.