BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Trefniadau Pontio’r DU – gweithredwch nawr

Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio ar ôl i Brexit orffen eleni. Gwiriwch y rheolau newydd o fis Ionawr 2021 a gweithredwch nawr.

Busnesau sy’n mewnforio ac allforio nwyddau

O 1 Ionawr 2021, bydd y broses ar gyfer mewnforio ac allforio nwyddau yn newid.

Gwybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wneud er mwyn parhau i allu:

Parhau i fyw a gweithio yn yr UE

Mae byw a gweithio yn un o wledydd yr UE yn dibynnu ar y rheolau yn y wlad honno. Efallai y bydd angen i chi gofrestru neu wneud cais i breswylio yno. Dylech wirio eich bod yn gallu cael gofal iechyd. Hefyd, efallai y bydd angen i chi gyfnewid eich trwydded yrru y DU am drwydded gan y wlad rydych yn byw ynddi yn yr UE. Gwiriwch beth sy'n rhaid i chi ei wneud yn y wlad rydych chi'n byw ynddi.

Teithio i’r UE

Gallwch ddal ati i deithio i’r UE fel arfer yn ystod y cyfnod pontio. O 1 Ionawr 2021, bydd rheolau newydd ar gyfer teithio i’r UE, neu i’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein. Gwiriwch beth sydd angen i chi ei wneud i deithio i Ewrop o 2021

Aros yn y DU os ydych chi’n ddinesydd yr UE

Gwiriwch a oes angen i chi wneud cais i’r cynllun preswylio’n sefydlog os ydych chi neu’ch teulu o’r UE, neu o’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein. Gwiriwch beth sydd angen i chi ei wneud i aros yn y DU.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am y camau y gallai’ch busnes eu cymryd ym Mhorth Brexit Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.