BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Farchnadle Syniadau

Mae'r Farchnad;e Syniadau yn llwyfan cydweithio ar-lein sy'n cynnig cyfleoedd i sefydliadau amddiffyn a diogelwch arloesol rwydweithio a chydweithio â rhanddeiliaid llywodraeth y DU, defnyddwyr terfynol, arloeswyr, diwydiant a'r byd academaidd.

Gellir defnyddio'r llwyfan i greu perthnasoedd newydd a meithrin cydweithrediad rhwng sefydliadau deinamig o bob lliw a llun.

Mae'r llwyfan wedi cael ei gynllunio i alluogi cydweithredu ag arloeswyr eraill ledled y DU ac i helpu sefydliadau i ennill arbenigedd a chefnogaeth arbenigol i ddatblygu eu technolegau i'w gwneud yn llwyddiannus.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Ideas Marketplace

Gall arloesi helpu'ch busnes i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant a mynd i mewn i farchnadoedd newydd. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Arloesi | Innovation (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.