BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi rhwng 18 a 30 oed ac yn chwilio am gymorth i'ch busnes?

Mae cwmni Innovate UK wedi lansio rhaglen newydd dros gyfnod o 3 blynedd ar gyfer Arloeswyr Ifanc o’r enw ‘Ideas Mean Business’.

Bydd y rhaglen ar agor i bobl rhwng 18 a 30 oed sy’n meddu ar syniad busnes creadigol ac arloesol er mwyn eu helpu nhw i wireddu eu breuddwyd. Bydd hefyd yn cefnogi hyd at 100 o bobl ifanc dros gyfnod o 3 blynedd, gydag unigolion yn elwa o grant o £5,000, sesiwn hyfforddiant un-i-un, yn ogystal â lwfans i helpu gyda chostau byw.

I gael  rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK .

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.