BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig

Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai pedwerydd grant ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig ac y byddai’r grant yn cwmpasu’r cyfnod rhwng Chwefror 2021 ac Ebrill 2021.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod yn unigolyn hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth. Bydd y meini prawf yn ystyried ffurflenni treth 2019-2020 a bydd yn agored i’r rhai a ddaeth yn hunangyflogedig yn ystod blwyddyn dreth 2019-2020. Mae gweddill y meini prawf cymhwysedd yn parhau'r un fath.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU hefyd y byddai pumed grant (sef y grant olaf) yn cwmpasu’r cyfnod rhwng Mai 2021 a Medi 2021; byddwch yn gallu hawlio o ddiwedd Gorffennaf 2021 os ydych yn gymwys am y pumed grant a bydd rhagor o fanylion yn dilyn maes o law.

I wybod a ydych yn gymwys am y pedwerydd grant ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.