BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn dyddiad cau i allforwyr ar gyfer y Gwasanaeth Datganiadau Tollau

Cyhoeddodd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) y bydd gan allforwyr fwy o amser i symud ar draws i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau.

Yn dilyn ymgynghoriad â'r diwydiant ar y ffiniau, bydd gan allforwyr hyd at 30 Tachwedd 2023 i symud ar draws i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS), 8 mis yn ddiweddarach na'r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Ar ôl 30 Tachwedd 2023, bydd angen i fusnesau ddefnyddio CDS i wneud datganiadau allforio ar gyfer nwyddau y maent yn eu hanfon allan o'r DU, fel y maent eisoes yn ei wneud ar gyfer datganiadau mewnforio.

Bydd CThEF yn rhoi mwy o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer allforion CDS erbyn diwedd mis Ionawr 2023. Mae mwy o wybodaeth am ddefnyddio'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau ar GOV.UK

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Customs Declaration Service exporter deadline extended - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.