Ym mis Rhagfyr 2021, fe wnaeth Defra ymrwymo i archwilio trefniadau amgen ar gyfer cofrestriadau pontio er mwyn cefnogi busnesau cemegol, tra'n cynnal lefel uchel o ddiogelwch iechyd dynol ac amgylcheddol yn unol â'n hymrwymiadau rhyngwladol.
Bydd yn cymryd amser i ddatblygu model cofrestriadau pontio amgen yn llawn ac, os penderfynir bwrw ymlaen i ddatblygu a phasio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol. mae angen caniatáu amser hefyd i'r diwydiant gydymffurfio â threfniadau newydd. Felly, ymrwymodd Defra hefyd i ymgynghori ar ymestyn y terfynau amser ar gyfer darparu'r data cofrestru llawn.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar opsiynau i ymestyn y terfynau amser presennol hynny ar gyfer cofrestru. Mae hefyd yn ceisio barn ar ymestyn dyddiadau'r Asiantaeth (HSE) i gynnal gwiriadau cydymffurfio ar 20% o'r goflenni cofrestru.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 1 Medi 2022. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: Consultation on Extending the UK REACH Submission Deadlines - Defra - Citizen Space
Mae Defra hefyd wedi cyhoeddi datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Defra ar gysondeb y gwelliannau a gynigir yn yr ymgynghoriad gyda nodau deddfwriaeth UK REACH.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: UK REACH: Article 1 consistency statement on extending submission deadlines for transitional registrations - GOV.UK (www.gov.uk)