BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yr Help Llaw Mawr 2024

Young volunteer painting in the community

Eleni, cynhelir Yr Help Llaw Mawr dros y penwythnos 7 Mehefin tan 9 Mehefin 2024, a bydd mwy o bobl nag erioed yn rhoi help llaw!

Mae Yr Help Llaw Mawr yn gyfle cenedlaethol i gael mwy o bobl i wirfoddoli trwy annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli rhagarweiniol.

Mae gan fusnesau mawr a bach ran hanfodol mewn gwneud Yr Help Llaw Mawr yn llwyddiant. O’r miloedd o siopau a gwasanaethau lleol sy’n ffurfio asgwrn cefn ein cymunedau, i’r brandiau mwyaf, gall pawb wneud gwahaniaeth.

Os yw eich cwmni’n angerddol ynglŷn â chysylltu â chymunedau eich cwsmeriaid a gwella bywydau, gall Yr Help Llaw Mawr eich helpu i wneud gwahaniaeth parhaol.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol:

Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld fod y busnesau y maen nhw’n ymwneud â nhw yn gwneud yr un fath.

Mae yna sawl ffordd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol ac ar yr un pryd gadw eu cwsmeriaid yn hapus. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gweithio gyda’ch cymuned leol | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.