1. Cyflwyniad

Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld fod y busnesau y maen nhw’n ymwneud â nhw yn gwneud yr un fath.

Mae yna sawl ffordd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol ac ar yr un pryd gadw eu cwsmeriaid yn hapus. Fe allwch chi gymryd rhan:

  • rhoi’ch amser
  • cyfrannu arian
  • darparu adnoddau 

Mae beth fyddwch chi’n ei wneud yn dibynnu ar natur eich busnes a’r adnoddau sydd gennych chi ar gael. Beth bynnag fyddwch chi’n dewis ei wneud, mae cymryd rhan yn eich cymuned yn llesol i’ch busnes:

  • gwella’ch delwedd gyhoeddus a’ch enw da, yn ogystal â chreu ymddiriedaeth a dealltwriaeth
  • codi ymwybyddiaeth o’ch busnes a denu cwsmeriaid newydd
  • codi ysbryd eich gweithwyr  a’u gwneud yn fwy bodlon a brwdfrydig
  • helpu’ch gweithwyr i ddatblygu sgiliau ychwanegol fel meddwl yn greadigol, datrys problemau a rheoli prosiectau
  • gwella recriwtio a chadw staff

2. Ymwneud â’ch cymuned leol

Dechreuwch trwy edrych ar eich cymuned leol a nodi ymhle y gallwch chi ‘wneud gwahaniaeth’. Siaradwch gyda sefydliadau cymunedol lleol a holwch nhw am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu a’r math o gymorth maen nhw ei angen.

Dyma 2 ffordd syml i ddechrau cymryd rhan:

  • Gwneud cyfraniad ariannol. Neilltuwch naill ai ganran o’ch elw neu swm penodol bob mis i grŵp cymunedol neu elusen o’ch dewis. Mae’r math hwn o gymorth yn hawdd iawn ei gynnig ac yn caniatáu i’r sawl sy’n ei dderbyn ddefnyddio’r arian yn y ffordd sydd fwyaf addas i’w hanghenion.
  • Cynnal digwyddiadau codi arian neu heriau noddedig. Yn ogystal â chodi arian, mae hon yn ffordd ardderchog o gael eich staff i gymryd rhan. Mae hefyd yn gyfle da o ran cysylltiadau cyhoeddus.

Gall ffyrdd eraill o gymryd rhan olygu mwy o ymroddiad ond hefyd roi cyfle ymarferol i weithwyr helpu eraill.

  • Noddi ddigwyddiad neu dîm lleol.
  • Gweithio gydag ysgolion lleol – rhoi sgyrsiau neu gynnig profiad gwaith.
  • Cymryd rhan mewn ymgyrch leol.
  • Cynnig cyflogi grwpiau difreintiedig.
  • Rhoi defnyddiau sydd dros ben neu offer sydd wedi dyddio i ysgolion, elusennau neu grwpiau cymunedol.
  • Cynnig adnoddau’r cwmni, fel llungopïwr neu ystafelloedd cyfarfod, i grwpiau cymunedol.
  • Cynnig eich cynhyrchion neu wasanaethau i’r gymuned am ddim neu gyda disgownt ‘lleol’.
  • Cyflwyno cynllun ‘Rhoi wrth Ennill’ - mae hyn yn galluogi’ch gweithwyr i wneud cyfraniadau i unrhyw elusen Brydeinig yn uniongyrchol o’u cyflog gros. Gallwch hefyd wneud taliadau cyfatebol i gyfraniadau’ch gweithwyr trwy Roi Cyfatebol.
  • Annog eich gweithwyr i wirfoddoli.

Meddyliwch am ymgysylltu cymunedol fel rhan o ethos eich busnes a’i wneud yn rhan o’ch strategaeth farchnata. Gall buddsoddi wedi ei gynllunio’n dda ddod â manteision hirdymor i’r gymuned ac i’ch busnes.  

Darllenwch am fuddsoddi cymunedolar wefan Busnes yn y Gymuned.

3. Gwirfoddoli yn y gymuned

Mae cael gweithwyr i wirfoddoli yn golygu eu hannog i wneud hynny a rhoi amser rhydd iddyn nhw ar gyfer eu gweithgareddau gwirfoddol. Nid yn unig mae hyn yn ffordd effeithiol a grymus i fusnesau fuddsoddi yn eu pobl a’u cymunedau lleol, mae hefyd yn dod â manteision gwirioneddol i’r gwirfoddolwyr ac i’r sefydliadau cymunedol y maen nhw’n eu cefnogi.

Mae gweithwyr yn cael y cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’w cymuned, wrth ddefnyddio a datblygu eu sgiliau. Maen nhw’n aml yn dysgu sgiliau newydd hefyd, yn enwedig mewn meysydd fel rheoli amser, cyfathrebu, dylanwadu ac arwain, gan ddod â’r rhain yn ôl i’r gweithle. 

Dyma sut i fynd ati:

  • chwilio am achosion lleol a allai ddefnyddio’ch sgiliau
  • trafod gwirfoddoli gyda’ch gweithwyr ac anogwch nhw i gymryd rhan
  • rhoi amser iddyn nhw ar gyfer gwirfoddoli
  • cydnabod sgiliau a ddatblygwyd pan fyddwch chi’n arfarnu
  • rhoi cyhoeddusrwydd i’r gweithgareddau

4. Gweithio gydag elusennau

Gall cyfrannu at achos lleol teilwng fod o les i’r rhoddwr yn ogystal â’r derbynwyr. Pan fydd yn cael ei wneud yn strategol, mae cyfrannu elusennol yn llesol i fusnes - o ran y posibilrwydd o ostyngiadau treth a’r ewyllys da o fewn y gymuned leol.

Wrth ddewis pa elusen i’w chefnogi, dylech:

  • chwilio am elusen leol sy’n berthnasol i’ch busnes
  • rhoi llais i’ch gweithwyr a holi pa elusennau neu achosion maen nhw’n teimlo’n gryf yn eu cylch
  • chwilio am elusennau fydd yn dod â sylw ystyrlon i chi
  • gwneud yn siŵr fod yr elusen a ddewiswch yn elusen ddilys trwy edrych ar Wefan y Comisiwn Elusennau

Cyn i chi ddechrau gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliad, dylech:

  • Wneud yn siŵr eich bod yn gwneud rhywfaint o ymchwil ar eich darpar bartneriaid - ydi eu gwerthoedd nhw’n cyfateb i werthoedd eich busnes?
  • Bod yn glir ynghylch
  • eich amcanion busnes ar gyfer y bartneriaeth, a’r.
  • canlyniadau a ddisgwylir oddi wrth y bartneriaeth ar gyfer yr elusen a’ch busnes.
  • Gweithio allan ryw syniad o amseriad a hyd y bartneriaeth.
  • Gwneud cytundeb ffurfiol ar gyfer y trefniadau, gan gynnwys isafswm disgwyliadau, lefelau a mathau o weithgareddau a fydd yn cael eu gwneud a sut bydd y bartneriaeth yn cael ei gwerthuso.

I gael mwy o wybodaeth ewch i

5. Cyhoeddusrwydd i’ch gwaith gydag elusennau

Wrth roi cyhoeddusrwydd i’ch gwaith gydag elusennau, dylid:

  • gofio gynnwys unrhyw ddigwyddiadau elusennol yng nghylchlythyrau’r cwmni, ar y cyfryngau  cymdeithasol ac mewn deunyddiau marchnata
  • ysgrifennu blogiau am eich gwaith elusennol a phwysleisiwch sut y gall eraill helpu
  • sôn am eich gweithgaredd gyda theulu a ffrindiau
  • rhoi dolen i wefan yr elusen ar wefan eich cwmni
  • gofyn i’r elusen gynnwys enw’ch busnes yn eu deunyddiau marchnata

Mae llawer o arolygon gweithwyr yn dangos fod staff yn ymfalchïo mewn cymryd rhan ac yn gwerthfawrogi gweithgareddau elusennol eu cwmni. Mae hyn yn wir hefyd am gwsmeriaid. Pan fyddan nhw’n teimlo’n dda ynglŷn â busnes maen nhw’n debycach o roi gair da iddo ymhlith eu teulu a ffrindiau.

Mae cymryd rhan yn eich cymuned leol neu roi i achosion gwerth chweil yn gwneud synnwyr o ran busnes. Gwnewch hyn yn rhan o’r strategaeth fusnes a buan y gwelwch y manteision.