
Cyhoeddwyd nifer o newidiadau i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol a threthi yng nghyllideb hydref 2024, a fydd yn dod i rym o 6 Ebrill 2025, gan gynnwys:
- Cynydd o 1.2% yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr ar enillion gweithiwr i 15%.
- Gostyngiad yn nhrothwy’r pwynt lle mae cyflogwyr yn dechrau talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mi fydd yn gostwng o £9,500 i £5,000.
- Addasiadau i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol: Bydd yr adolygiad blynyddol o gyfraddau isafswm cyflog yn effeithio ar gostau staffio i lawer o fusnesau.
Gweler diwedderiadau a gwybodaeth bwysig am y newidiadau hyn ac eraill yn Rhifyn mis Chwefror 2025 o Fwletin y Cyflogwr: Rhifyn mis Chwefror 2025 o Fwletin y Cyflogwr - GOV.UK
Ceir adnoddau a chefnogaeth ymarferol drwy’r ddolen ganlynol: Cost Gwneud Busnes | Busnes Cymru
Am gyngor personol ynghylch heriau penodol eich busnes, trefnwch gyfarfod gydag ymgynghorydd busnes trwy linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000, rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg, neu cwblhewch y ffurflen ‘Cael cefnogaeth’ drwy’r ddolen ganlynol: Gwasanaeth Busnes Cymru | Busnes Cymru