BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Yma i gefnogi busnesau drwy'r argyfwng costau byw

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle.


Meysydd Allweddol

Cewch hyd i wybodaeth isod am yr ystod o gymorth a all fod ar gael i helpu busnesau i dorri costau a gwella cynaliadwyedd.

Canllawiau i Fusnesau ar Leihau Defnydd Ynni

Effeithlonrwydd Adnoddau

Rheoli Llif Arian

Addewid Twf Gwyrdd

Yr Ymddiriedolaeth Garbon

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Meysydd Allweddol

Cymorth ariannol a allai fod ar gael i'ch helpu chi

Gallwch chwilio am gyllid fel grantiau, benthyciadau ac opsiynau cyllid eraill sy'n berthnasol i'ch busnes gan ddefnyddio Canfyddwr Cyllid Busnes Cymru

Cyngor annibynnol am ddim i bobl sy'n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnes yng Nghymru

Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn fenthycwyr unigryw i fusnesau yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru drwy ei gwneud hi'n haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.