1. Crynodeb

Yn dilyn pandemig y Coronafeirws a’r rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin, mae costau olew a nwy wedi cynyddu’n sylweddol, sydd wedi arwain at gostau trydan uwch. Disgwylir i brisiau ynni fod dwy neu dair gwaith yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig tan 2030, yn ôl rhai amcangyfrifon.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i lawer o fusnesau ddefnyddio llai o ynni er mwyn lleihau eu costau. Bydd effaith cynnydd mewn costau ynni yn dibynnu ar natur pob busnes - maint, gweithgarwch, defnydd o danwydd ac ati. Bydd gan gyfleuster gweithgynhyrchu mawr flaenoriaethau a galluoedd gwahanol i siop fach, yn amlwg.

Bydd gan lawer o fusnesau ddealltwriaeth dda o faint o ynni maen nhw’n ei ddefnyddio, ond efallai na fydd eraill wedi rhoi llawer o sylw i gostau ynni tan y cynnydd diweddar. Os gall cwmnïau gynnal archwiliadau ynni a/neu gomisiynu cyngor arbenigol ar sut i ddefnyddio llai o ynni, dylent wneud hynny. 

Bwriedir i’r canllawiau hyn eich ysgogi i ystyried rhai camau a rhoi gwybod ble i geisio cyngor arbenigol megis:

Cefnogi busnesau yng Nghymru | Busnes Cymru (llyw.cymru)

Cynlluniau Gweithredu ar yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd Busnes | Yr Ymddiriedolaeth Garbon

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Mae’n bwysig i fusnesau feddu ar ddealltwriaeth dda o’u defnydd o ynni, ar draws eu holl weithgareddau. Gallai archwiliad ynni fod yn ddefnyddiol iawn wrth amlygu meysydd lle y gellir arbed ynni.

Mae Busnes Cymru yn darparu canllawiau defnyddiol ar reoli ynni: Ynni | Busnes Cymru (llyw.cymru).

2. Rheoli Tymheredd

Mae Rheoliadau’r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992 yn mynnu bod y tymheredd gweithio y tu mewn i weithleoedd yn rhesymol:

Y tymheredd mewn gweithleoedd dan do

  1. Yn ystod oriau gwaith, bydd y tymheredd ym mhob gweithle y tu mewn i adeiladau yn rhesymol.
  2. Ni fydd dull gwresogi nac oeri’n cael ei ddefnyddio sy’n achosi i fygdarthau, nwy neu anwedd, o’r fath natur ac i’r fath raddau sy’n golygu eu bod yn debygol o fod yn niweidiol neu’n annymunol i unrhyw unigolyn, ddianc i weithle.
  3. Bydd nifer ddigonol o thermomedrau’n cael eu darparu i alluogi unigolion sy’n gweithio i bennu’r tymheredd mewn unrhyw weithle y tu mewn i adeilad.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cyhoeddi Cod Ymarfer Cymeradwy sy’n awgrymu y dylai’r tymereddau isaf ar gyfer gweithio dan do fod yn 16oC neu’n 13oC pan fydd natur y gwaith yn cynnwys ymdrech gorfforol egnïol: Iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle. Rheoliadau’r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992. Cod Ymarfer Cymeradwy a chanllawiau L24 (hse.gov.uk) Er nad oes tymheredd uchaf awgrymedig, y gofyniad yw bod tymereddau gweithleoedd dan do yn rhesymol. Mae’r HSE wedi cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar gysur thermol: HSE – Cysur Thermol: Tudalen Hafan

Dylai busnesau sicrhau bod systemau gwresogi ac aerdymheru yn cael eu haddasu i ddarparu tymereddau rhesymol mewn gweithleoedd, yn unol â’r gofynion, ac nad ydynt yn arwain at weithleoedd cynhesach nac oerach na’r hyn sy’n ofynnol.

Efallai bydd modd awyru ac oeri rhai gweithleoedd trwy awyru goddefol (e.e., agor ffenestri) yn hytrach nag aerdymheru.

Yn y gaeaf, gall drafftiau oer effeithio ar bobl, gan achosi anghysur. Gallai atal drafftiau, lle y bo’n ymarferol, arwain at amgylchedd gweithio mwy cyfforddus ac osgoi gwastraffu gwres.

Os nad yw ffenestri’n rhai gwydr dwbl, dylid ystyried gosod gwydro eilaidd. Gall defnyddio bleindiau ar ffenestri helpu i reoli’r tymheredd hefyd.
Mae cyflwr ffisegol y safle’n effeithio ar yr holl fesurau hyn. Bydd yn haws rheoli faint o ynni a ddefnyddir mewn safle sy’n cael ei gynnal a’i gadw’n dda, sydd wedi’i inswleiddio’n iawn ac sy’n cynnwys mesurau atal drafftiau (ac eithrio prosesau gweithgynhyrchu). 

Gall materion effeithio ar wella safleoedd, gan gynnwys y berthynas rhwng y tenant a’r landlord. Lle bynnag y bo’n bosibl, dylai landlordiaid gydweithio i sicrhau bod safleoedd mewn cyflwr da a bod tenantiaid busnes yn gallu defnyddio llai o ynni. 

Archwilir y materion hyn a mwy yn fanwl mewn canllawiau gan Fusnes Cymru: Gwresogi | Busnes Cymru (llyw.cymru)
 

3. Goleuadau

Gellir arbed hyd at 80% trwy newid o fylbiau golau gwynias confensiynol a hyd at 50% trwy newid o oleuadau fflworoleuol. Mae goleuadau LED yn para’n hirach na ffynonellau eraill hefyd. Goleuadau LED | Busnes Cymru (llyw.cymru)

Dylai goleuadau gael eu diffodd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
 

4. Offer Trydanol

Bydd gan y rhan fwyaf o fusnesau swyddogaethau swyddfa sy’n dibynnu ar offer trydanol, gan gynnwys defnyddio cyfrifiaduron ac offer cysylltiedig (llwybryddion, argraffyddion ac ati). Mae mesuryddion deallus yn un ffordd o anfon darlleniadau mesurydd mwy cywir at gyflenwyr ynni a monitro defnydd.

Dylai offer trydanol gael eu diffodd yn hytrach na’u gadael yn y modd segur pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
 

5. Ynni Adnewyddadwy ar y Safle

I rai busnesau, gallai gosod technoleg adnewyddadwy eu helpu i leihau biliau tanwydd, lleihau eu hôl troed carbon a rhoi sicrwydd iddynt rhag methiannau yng nghyflenwad y grid.

Bydd yn haws i’r busnesau hynny sy’n berchen ar eu safleoedd osod technoleg adnewyddadwy ar y safle. Pan fydd busnesau’n prydlesu eu safleoedd, mae sawl ffactor sy’n effeithio ar fuddsoddiad posibl mewn technoleg adnewyddadwy ar y safle:

  • Pa mor hir y mae’r busnes yn bwriadu aros yn y safle?
  • Beth yw’r amser arwain ar gyfer gosod offer?
  • Sut bydd y buddsoddiad yn cael ei ariannu?
  • Pa mor ffafriol yw’r berthynas rhwng y landlord a’r tenant?

Mae ffactorau eraill a fydd yn dylanwadu ar unrhyw fuddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy a bydd angen i fusnesau ystyried y rhain wrth bwyso a mesur y posibiliadau. Mae technolegau addas yn cynnwys:

  • Paneli solar (ffotofoltaig)
  • Paneli solar (thermol)
  • Pympiau gwres (o’r aer)
  • Pympiau gwres (o’r ddaear)

6. Mynediad at Gyllid

Os oes gan fusnesau ddiddordeb, ar ôl cynnal gwerthusiad, mewn buddsoddi mewn offer i ddefnyddio llai o ynni neu gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle, argymhellir eu bod yn archwilio’r gwasanaethau a ddarperir gan Fanc Datblygu Cymru: Cyllid Busnes ar gyfer Cwmnïau yng Nghymru – Banc Datblygu (developmentbank.wales) sy’n rheoli’r cronfeydd canlynol: Cronfeydd a Reolir Gennym – Banc Datblygu (developmentbank.wales).

Mae gwefan Busnes Cymru hefyd yn gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth ar gyfer darparwyr preifat a a ffynonellau eraill o gyllid. Gweler y ddolen benodol isod
Canfod Cyllid | Busnes Cymru (llyw.cymru)

Yn ogystal, mae Banc Busnes Prydain yn llunio contractau â phartneriaid cyflawni sy’n darparu gwahanol fathau o gyllid ar gyfer nifer o wahanol ddibenion. Gallai’r ddolen atodedig fod o ddiddordeb, gan ei bod yn ymddangos fel petai’n ymwneud â’r hyn rydych yn edrych arno.
Beth yw Hyb Hinsawdd Busnes y Deyrnas Unedig? – Banc Busnes Prydain (british-business-bank.co.uk)