Masnach Drawsffiniol

Cyd-destun

Mae'r DU wedi dod i gytundeb gyda'r UE – gelwir hyn yn Gytundeb Masnach a Chydweithredu. Os byddwch yn symud nwyddau ar draws ffiniau yna bydd angen i chi ddilyn y rheolau newydd ar gyfer mewnforio ac allforio.

Y cam cyntaf i fewnforwyr ac allforwyr yw sicrhau bod gennych rif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd Prydain Fawr (EORI). Bydd angen hyn arnoch i gwblhau datganiadau tollau ar gyfer mewnforion ac allforion. Os nad oes gennych un eto, gallwch gofrestru am ddim drwy fynd i Cael rhif EORI (Saesneg yn unig)

Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn galluogi masnach ‘dim tariffau, dim cwotâu’ rhwng y DU a'r UE ar gyfer nwyddau sy'n bodloni gofynion Rheolau Tarddiad.  I hawlio cyfraddau ffafriol ar dollau, rhaid i'ch cynnyrch ddeillio o'r UE neu'r DU.

Bydd angen i chi wybod sut i ddosbarthu eich nwyddau wrth wirio'r rheolau sy'n benodol i'r cynnyrch.

Os nad yw eich nwyddau'n bodloni'r gofynion rheolau tarddiad (neu os na allwch brofi bod y nwyddau'n eu bodloni) bydd angen i chi neu'ch cwsmer dalu Toll Dramor o hyd. I gael gwybod cyfradd y tollau, bydd angen i chi ddosbarthu eich nwyddau'n gywir.
 


Rheolaethau a seilwaith ffiniau ar ôl ymadael â'r UE

Mae'r canllawiau canlynol yn amlinellu'r hyn y mae angen i chi ei wybod am gyflwyno safleoedd rheoli ffiniau ym mhorthladdoedd Cymru.

Mae'r canllawiau hefyd yn rhoi trosolwg o'r gofynion ar ôl gadael yr UE ar gyfer gwiriadau ar y ffin ar nwyddau sy'n symud rhwng yr Undeb Ewropeaidd (UE) a'r Deyrnas Unedig (DU).

Am ragor o wybodaeth ewch i Rheolaethau a seilwaith ffiniau ar ôl ymadael â'r UE | LLYW.CYMRU
 

Mewnforio nwyddau o’r UE

Cofrestrwch eich busnes ar gyfer mewnforio

Gofalwch fod gennych rif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd Prydain Fawr (EORI). Bydd angen hyn arnoch i gwblhau datganiadau tollau. Os nad oes gennych un eto, gallwch gofrestru am ddim drwy fynd i Cael rhif EORI (Saesneg yn unig)

Penderfynu sut byddwch chi’n gwneud datganiadau tollau

O 1 Ionawr 2021 ymlaen, bydd angen i chi wneud datganiadau tollau wrth fewnforio nwyddau o’r UE. Dyma’r un rheolau sy’n berthnasol i fewnforio nwyddau o weddill y byd ar hyn o bryd.

Gallwch gyflogi rhywun i ymdrin â thollau a chludo’r nwyddau i chi, neu gallwch ei wneud eich hun. Mae’r rhan fwyaf o fusnesau sy’n mewnforio nwyddau yn defnyddio cludwr neu asiant tollau.

Dosbarthu'r nwyddau

Rhaid i chi ddod o hyd i’r cod nwyddau cywir i ddosbarthu’r nwyddau yr ydych chi’n eu mewnforio. Bydd hyn yn dweud wrthych beth yw’r gyfradd dollau y mae angen i chi ei thalu ac os oes angen trwydded fewnforio arnoch chi.

Efallai y bydd eich asiant tollau neu gludwr yn gallu eich helpu gyda hyn.

    Sefydlu tarddiad y nwyddau

    Rheolau Tarddiad sy'n pennu 'cenedligrwydd economaidd' cynhyrchion pan fydd y rhain wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio cydrannau neu ddeunyddiau a wnaed mewn mwy nag un wlad ac mae angen sicrhau bod y cynhyrchion sy'n elwa o delerau'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu naill ai:

    • wedi'i gael yn gyfan gwbl neu wedi'i weithgynhyrchu yn yr ardal fasnach rydd ei hun (yn yr achos hwn, yr UE a'r DU), neu 
    • wedi'i weithio neu ei brosesu'n ddigonol yno (e.e. drwy osod terfyn ar werth deunyddiau nad ydynt yn tarddu oddi yno ond y gellir eu defnyddio er mwyn elwa o'r cytundeb).

    Er mwyn sefydlu a yw eich nwyddau'n gymwys ar gyfer cyfraddau ffafriol ar dollau i'w mewnforio o'r UE, bydd angen i chi gael y cod nwyddau cywir ar gyfer eich cynnyrch. 

    Cael gwybod a allwch chi oedi neu leihau eich taliad tollau

    Os nad yw eich nwyddau'n bodloni gofynion rheolau tarddiad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (neu os na allwch brofi bod y nwyddau'n eu bodloni) bydd angen i chi neu'ch cwsmer dalu Toll Dramor o hyd. Efallai y gallwch ohirio neu leihau faint o doll rydych yn ei thalu yn seiliedig ar darddle’r nwyddau a’r hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud â nhw.

    Pennu gwerth eich nwyddau

    Mae angen i chi dalu tollau tramor a TAW ar unrhyw fewnforion. Mae faint o TAW a thollau rydych chi’n eu talu yn dibynnu ar werth eich nwyddau a chyfradd y doll y mae angen i chi ei thalu.

    Cael trwydded neu dystysgrif os oes angen un

    Efallai y bydd angen i chi gael trwydded neu dystysgrif os ydych chi’n mewnforio cynhyrchion planhigion neu anifeiliaid, bwyd neu borthiant risg uchel, meddyginiaethau, tecstilau, cemegion neu arfau tanio.

    Efallai y bydd eich asiant tollau neu gludwr yn gallu eich helpu gyda hyn.

    Cael eich nwyddau drwy’r gwasanaeth tollau

    Os ydych wedi penodi rhywun i ymdrin â thollau’r DU ar eich rhan, byddant yn gwneud y datganiad ac yn cael eich nwyddau drwy ffin y DU.

    Yna, dywedir wrthych faint o TAW a tholl i’w thalu. Byddwch hefyd yn cael Tystysgrif TAW Mewnfori (C79) yn y post fel prawf eich bod wedi talu.

    Gwirio a allwch chi wneud y broses fewnforio’n gyflymach

    Mewn rhai sefyllfaoedd, gallwch oedi cyn gwneud datganiad am hyd at 6 mis ar ôl i chi fewnforio’r nwyddau.

    Hawlio ad-daliad TAW

    Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, gallwch hawlio unrhyw TAW a dalwyd gennych ar y nwyddau rydych chi wedi’u mewnforio. Bydd angen eich C79 arnoch chi.

    Os gwnaethoch chi dalu’r swm anghywir o doll neu wrthod y nwyddau

    Cadw anfonebau a chofnodion

    Rhaid i chi gadw cofnod o anfonebau masnachol ac unrhyw waith papur tollau, gan gynnwys eich C79. Os gwnaethoch chi fewnforio nwyddau rheoledig, er enghraifft arfau tanio, cadwch y gwaith papur sy’n dangos pwy sy’n berchen ar y nwyddau.

     

    Allforio nwyddau i’r UE

    Mae'r broses o allforio nwyddau i’r UE wedi newid. Mae angen i fusnesau yng Nghymru gwblhau’r camau canlynol i barhau i allforio i wledydd yr UE o 1 Ionawr 2021 ymlaen.

    Cofrestru eich busnes ar gyfer allforio

    Sicrhewch fod gennych rif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd Prydain (EORI). Bydd angen hyn arnoch i gwblhau datganiadau tollau. Os nad oes gennych un eto, gallwch gofrestru am ddim drwy fynd i Cael rhif EORI (Saesneg yn unig)

    Penderfynu sut y byddwch chi’n gwneud datganiadau tollau

    O 1 Ionawr 2021 ymlaen, bydd angen i chi wneud datganiadau tollau wrth allforio nwyddau i’r UE. Dyma’r un rheolau sy’n berthnasol i allforio nwyddau i weddill y byd ar hyn o bryd.

    Gallwch wneud y datganiadau eich hun neu gyflogi rhywun arall fel cludwr, anfonwr nwyddau neu asiant tollau.

    Cael gwybod a yw trwyddedau allforio a rheolau arbennig yn berthnasol

    Efallai y bydd angen trwydded arnoch neu y bydd angen i chi ddilyn rheolau arbennig i allforio nwyddau cyfyngedig neu i werthu rhai gwasanaethau dramor a bydd hyn yn cynnwys gwerthiannau i’r UE o 1 Ionawr 2021 ymlaen ac yn berthnasol i:

    Dilyn y safonau marcio, labelu a marchnata cywir

    Mae’r marciau cynnyrch sy’n ofynnol ar gyfer nwyddau a weithgynhyrchwyd a roddir ar farchnad yr UE (Saesneg yn unig) o 1 Ionawr 2021 ymlaen yn dibynnu ar y math o nwyddau y byddwch chi’n eu rhoi ar y farchnad:

    • Nwyddau dull newydd sy’n gallu defnyddio’r Marc CE
    • Nwyddau a reoleiddir o dan yr hen ddull (fel cemegion, meddyginiaethau a cherbydau)
    • Nwyddau heb eu cysoni a gwmpesir gan ddeddfwriaeth genedlaethol

    Bydd safonau labelu newydd yn berthnasol i:

    Bydd safonau marchnata’n berthnasol i:

    Dosbarthu eich nwyddau

    Rhaid i chi ddod o hyd i’r cod nwyddau cywir (Saesneg yn unig) er mwyn dosbarthu’r nwyddau rydych chi’n eu hallforio. Bydd angen hyn arnoch chi er mwyn gwneud eich datganiad tollau.

    I raddau helaeth y ffordd mae gwahanol nwyddau’n cael eu dosbarthu sy’n pennu pa dollau a rheolaethau sy’n berthnasol iddynt. Hefyd, mae adrannau eraill y llywodraeth yn dibynnu ar ddosbarthiad Tariffau ar gyfer trwyddedau a dogfennau eraill.

    Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cod nwyddau a’ch trwyddedau’n gywir, hyd yn oed os ydych chi’n defnyddio asiant. Gall Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi eich dirwyo, ymafael yn eich nwyddau ac oedi eu rhyddhau o’r gwasanaeth tollau os ydych chi’n allforio nwyddau gyda’r cod neu drwydded anghywir.

    Defnyddir codau nwyddau i bennu’r tollau mewnforio priodol sy’n daladwy yng ngwlad eich prynwr hefyd. Rhowch gynnig ar yr adnodd defnyddiol (Saesneg yn unig) hwn ar ein Hyb Allforio.

    Sefydlu tarddiad eich nwyddau

    Mae Rheolau Tarddiad yn bodoli i nodi'r trefniadau i allforwyr eu defnyddio er mwyn profi statws gwreiddiol eu nwyddau a'u cynnyrch.  Maent yn pennu 'cenedligrwydd economaidd' cynhyrchion pan fydd y rhain wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio cydrannau neu ddeunyddiau a wnaed mewn mwy nag un wlad ac mae angen sicrhau bod y cynhyrchion sy'n elwa o delerau'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu naill ai:

    • wedi'i gael yn gyfan gwbl neu wedi'i weithgynhyrchu yn yr ardal fasnach rydd ei hun (yn yr achos hwn, yr UE a'r DU), neu 
    • wedi'i weithio neu ei brosesu'n ddigonol yno (e.e. drwy osod terfyn ar werth deunyddiau nad ydynt yn tarddu oddi yno ond y gellir eu defnyddio er mwyn elwa o'r cytundeb).

    Er mwyn sefydlu a yw eich nwyddau'n gymwys ar gyfer cyfraddau ffafriol ar dollau i'w mewnforio o'r UE, bydd angen i chi gael y cod nwyddau cywir ar gyfer eich cynnyrch. 

    Cytuno ar Incoterms® gyda’ch prynwr

    Mae Telerau Masnachol Rhyngwladol (‘Incoterms’) yn delerau masnach safonol a gydnabyddir yn rhyngwladol ac a ddefnyddir mewn contractau gwerthu. Fe’u defnyddir i wneud yn siŵr bod prynwr a gwerthwr yn gwybod:

    • pwy sy’n gyfrifol am y gost o gludo’r nwyddau, gan gynnwys yswiriant, trethi a thollau
    • ymhle y dylid casglu’r nwyddau ac i ble y dylid eu cludo
    • pwy sy’n gyfrifol am y nwyddau ar bob cam wrth eu cludo

    Ewch i’n Parth Allforio i gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Incoterms®

    Noder nad yw TAW yn dod o dan Incoterms® felly bydd angen i chi nodi pwy sy’n talu’r TAW (neu gyfwerth) yn y wlad sy’n derbyn y nwyddau.

    Cael gwybod a allwch chi godi TAW ar gyfradd o 0%

    Oni bai eich bod wedi cytuno fel arall gyda’ch prynwr (gweler uchod) byddwch yn gallu cymhwyso TAW gradd sero i nwyddau a allforir i’r UE o 1 Ionawr 2021 ymlaen. Ceir rhagor o wybodaeth am sut a phryd i wneud hyn (gan gynnwys y cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw) yn Hysbysiad TAW 703 (Saesneg yn unig).

    Paratoi’r anfoneb a’r dogfennau ar gyfer eich nwyddau

    Rhaid i’r anfoneb wedi’i chwblhau ac unrhyw drwyddedau neu dystysgrifau deithio gyda’r nwyddau.

    Os ydych yn hawlio cyfraddau ffafriol ar dollau ar gyfer eich nwyddau, yna mae'n rhaid i chi gynnwys Datganiad Cyflenwr i gadarnhau bod y nwyddau o darddiad y DU neu'r UE.

    Wrth lenwi gwerth eich nwyddau ar yr anfoneb, defnyddiwch y pris rydych chi’n eu gwerthu amdano. Rhestrwch unrhyw yswiriant cludo nwyddau neu allforio y gwnaethoch ei gynnwys yn y pris ar wahân. Ar gyfer samplau am ddim, defnyddiwch werth marchnadol y nwyddau.

    Cael eich nwyddau drwy’r gwasanaeth tollau

    Os ydych chi wedi penodi rhywun i ymdrin â thollau’r DU ar eich rhan, byddant yn gwneud y datganiad ac yn cael eich nwyddau drwy ffin y DU. Os ydych chi wedi dewis gwneud eich datganiadau eich hun, rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwneud hyn cyn i’r nwyddau gyrraedd y man allforio.

    Gall y gwasanaeth tollau oedi’r broses o symud y nwyddau, er enghraifft:

    • os nad yw’r trwyddedau cywir ar gyfer y nwyddau neu’r busnes gennych chi
    • os na wnaethant basio archwiliad
    • os ydynt wedi’u cyfuno â llwyth sydd wedi’i oedi

    Os bydd hyn yn digwydd, cewch wybod pam. Cysylltu â’r Ganolfan Clirio Genedlaethol i gael cymorth (Saesneg yn unig)

    Paratoi eich busnes ar gyfer symud nwyddau i’r UE neu wledydd Tramwy Cyffredin

    Bydd y DU yn parhau yn y Confensiwn Tramwy Cyffredin (CTC) o 1 Ionawr 2021 ymlaen. Drwy ddefnyddio Tramwy Undeb a Chyffredin, gallwch symud eich nwyddau’n gyflymach i wledydd yr UE a gwledydd Tramwy Cyffredin (Saesneg yn unig) oherwydd:

    • nid oes angen datganiadau tollau a thalu tollau wrth groesi pob ffin
    • gallwch gwblhau rhai prosesau tollau mewn man heblaw’r ffin

    Dylech gael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud i baratoi eich busnes (Saesneg yn unig) i symud nwyddau gan ddefnyddio Tramwy Undeb a Chyffredin

    Symud nwyddau rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon

    Cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr newydd, os ydych chi’n symud nwyddau rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon

    Bydd y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (TSS) am ddim yn ymdrin â’r prosesau newydd sy’n codi o dan Brotocol Gogledd Iwerddon i chi o 1 Ionawr 2021 ymlaen.

    I gofrestru eich diddordeb ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth hwn, ewch i: Cofrestrwch ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (Saesneg yn unig)

    Symud nwyddau i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr: Camau gweithredu ar gyfer busnesau ym Mhrydain Fawr. (Saesneg yn unig)

    Check if you need to pay tariff on goods brought into Northern Ireland from Great Britain – Mae’n rhaid i fusnesau sy’n dod â nwyddau i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) gyflwyno datganiadau ar gyfer y nwyddau hynny. Os nad ydych chi’n gwybod faint o doll y bydd yn rhaid i chi ei dalu, gallwch wirio ar y Trade Tariff Tool.

    Noder nad yw TSS ar gael ar gyfer nwyddau a symudir rhwng Prydain a’r UE.

    Canllawiau ar gyfer cwmnïau cludo nwyddau a gyrwyr masnachol

    Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer cwmnïau cludo nwyddau a gyrwyr masnachol sy’n symud nwyddau rhwng Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) a’r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae’n egluro beth fydd angen i chi ei wneud ar ôl 1 Ionawr 2021.

    Mae’n egluro:

    • pa ddogfennau y bydd eu hangen arnoch
    • sut i ddilyn rheolau newydd i reoli traffig sy’n teithio i borthladdoedd
    • prosesau rheoli ffiniau newydd

    Ewch i wefan GOV.UK i weld y canllawiau llawn ar gyfer cwmnïau cludo nwyddau a gyrwyr masnachol sy’n Cludo Nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r UE ar ôl 1 Ionawr 2021. 

    Cymorth Busnes Cymru

    Mae ystod gynhwysfawr o gymorth ar gael drwy Busnes Cymru ac mae ein Parth Allforio Busnes Cymru yn darparu cyfoeth o wybodaeth a chyngor am allforio.

    Masnachu a buddsoddi

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi busnesau drwy ein rhwydwaith estynedig o weithrediadau tramor a gellir cael gafael ar y cymorth hwn drwy ein gwefan Trade and Invest Wales (Saesnaeg yn Unig)  Mae'r wefan yn esbonio sut y byddwn yn helpu cwmnïau i gipio marchnadoedd newydd ac arddangos Cymru fel cyrchfan ar gyfer masnach a buddsoddi.