Cymorth a chyllid i fusnesau
Mae cymorth a chyllid ar gael i ddarparu cymorth i fusnesau o Gymru a sefydliadau ymchwil i fasnacheiddio cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd a ddatblygwyd drwy waith ymchwil, prosesau datblygu ac arloesi.
Os ydych chi’n ystyried rhoi syniadau newydd ar waith, creu cynnyrch newydd, deinamig neu wella’ch gwasanaethau presennol, gallech fod yn gymwys am gymorth oddi wrth Arloesedd SMART.
Caiff y gefnogaeth ei chynnig gan dîm o Arbenigwyr, Rheolwyr Datblygu Ymchwil, Arbenigwyr Gweithgynhyrchu a Dylunio, Rheolwyr Masnacheiddio ac Arbenigwyr Eiddo Deallusol, sydd oll yn brofiadol iawn. Mae gan bob un ohonynt brofiad helaeth o gefnogi busnesau a sefydliadau ymchwil â chynnal gweithgareddau ymchwil, datblygu ac arloesi.
Am wybodaeth ynglŷn â’r cynnig SMART, cliciwch yma
Cliciwch yma er mwyn dod o hyd i arbenigwr yn eich ardal. Siardwch a rhywun.