Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (RTG)
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn elfen graidd o gynnig Cymru ym maes arloesi ac ymchwil a datblygu ar gyfer busnesau. Maent yn cysylltu sefydliadau blaengar â’r timau academaidd o’r radd flaenaf yn y DU er mwyn cyflawni prosiectau arloesedd a gaiff eu harwain gan raddedigion ysbrydoledig.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig prosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ar lefel uwch dros dair blynedd sy’n unigryw i Gymru er mwyn creu cyfle i gynnwys elfen ryngwladol o waith trosglwyddo gwybodaeth neu rannu gwybodaeth.
Rydym yn cefnogi prosiectau o’r sector preifat, mentrau cymdeithasol, sefydliadau nid-er-elw ac elusennau a all ddangos manteision economaidd a/neu gymdeithasol i Gymru.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Cyhoeddiad
Mae Llywodraeth Cymru yn gostwng costau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth ar gyfer prosiectau sydd â BBaChau yng Nghymru.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.