Mae TB Davies, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn fusnes teuluol pedwaredd genhedlaeth a sefydlwyd yn y 1940au. Erbyn heddiw mae’n un o brif gyflenwyr offer mynediad yn y DU.  

Mae’r cwmni’n cynhyrchu ac yn dosbarthu amrywiaeth eang o gynnyrch dringo, gan gynnwys grisiau, ysgolion, tyrrau, a phodia ar gyfer defnyddwyr proffesiynol, masnachol a domestig. Mae’n ymfalchïo ei fod wedi aros un cam ar y blaen drwy arloesi ers iddo ddod yn un o’r cwmnïau cyntaf yn y DU i gyflwyno cyfres o ysgolion alwminiwm newydd chwyldroadol at ei ddewis o gynnyrch yn y 1960au.  

Heddiw, mae arloesedd yn dal i fod wrth wraidd ei gynnyrch, ac mae’n cynnig ysgolion ysgafn, bach sy’n hawdd eu gosod a’u defnyddio’n ddiogel wrth weithio mewn mannau uchel.  

Mae i'r cwmni enw da am gynnyrch sydd wedi’i ddylunio a’i saernïo’n dda, ac ymhlith ei gwsmeriaid mae Screwfix, Arco ac Amazon. Mae hefyd yn gwerthu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr, marchnad a welodd dwf mawr yn ystod COVID wrth i ddeiliaid tai fynd ati o’r diwedd i daclo'r prosiectau DIY hynny oed wedi bod ar y gweill ganddynt ers tro.  

Mae TB Davies yn cyflogi 21 o bobl yn ei safle yn Heol Lewis, Sblot, ac yn 2022 roedd trosiant y cwmni yn £8 miliwn.  

Fel busnes teuluol sy’n ymfalchïo mewn bod yn rhan annatod o'r gymuned yng Nghaerdydd, mae’r cwmni wastad wedi bod ag ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb cymdeithasol, gan gynnwys ymrwymiad i gynaliadwyedd. Yn 2019, cymerodd y cam cyntaf i ddatblygu cynllun gweithredu i leihau ei effaith ar yr amgylchedd. Roedd y prosiect hwnnw’n cynnwys ystyried meysydd sydd o fewn ei reolaeth uniongyrchol, fel defnyddio ynni solar ar gyfer ei weithrediadau, lleihau deunydd pacio plastig a chyflwyno cerbydau hybrid.  

Fodd bynnag, roedd y cwmni’n cael trafferth mesur ei allyriadau cwmpas dau a thri ac roedd angen cymorth ac adnoddau pwrpasol arno i hyrwyddo ei waith. Pan soniodd Howard Jones, Rheolwr Cysylltiadau Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru y cwmni, am Gynllun Peilot Lleihau Allyriadau Carbon Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru,  manteisiodd y cwmni ar y cyfle i gymryd rhan.  

 

 

Yma, mae’r Cyfarwyddwr Mat Gray yn egluro sut mae’r busnes wedi elwa o’r rhaglen beilot ac yn rhannu’r gwersi a ddysgwyd.  
 

Dywedwch wrthym sut yr aethoch chi ati i ddatblygu eich cynllun lleihau allyriadau carbon?
Fel cam cyntaf, fe wnaethom nodi pa ddata oedd gennym eisoes a lle gallem wella. Er enghraifft, rydym yn defnyddio paneli solar i gyflenwi’r rhan fwyaf o’n trydan, a dydyn ni ddim yn defnyddio nwy ar y safle, felly roeddem yn gwybod ein bod yn “lân” iawn o ran llygredd.  

Yn y gorffennol, roeddem yn cael trafferth mesur allyriadau Cwmpas Tri, nad ydym yn eu creu. Yn hytrach, mae’r allyriadau hyn yn berthnasol i’r rheini rydym yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt, i fyny ac i lawr ein cadwyn gyflenwi.

Mae cynhyrchu ysgolion alwminiwm yn defnyddio cryn dipyn o ynni a charbon. Ac mae llawer yn dibynnu ar o ble daw’r deunyddiau crai.  

Ar ôl cael ein data mewn trefn, fe wnaethom ofyn am ragor o ddata gan ein cadwyn gyflenwi, gan gynnwys cwmnïau cludo. Yna, fe wnaethom gasglu'r holl ddata at ei gilydd a llunio siart gylch a dadansoddi honno wedyn er mwyn gweld lle gallem wneud yr arbedion mwyaf o ran carbon o fewn yr amserlen fyrraf. 

Fel rhan o'r peilot, lleolwyd intern gyda ni – myfyriwr Gradd Meistr – a fu’n allweddol o safbwynt ein helpu i gasglu a dadansoddi’r data. Diolch i’w arbenigedd a’i arweiniad ef, gwnaethom gynnydd sylweddol yn gyflym.

Mae cam cyntaf y daith wedi arwain at Gynllun Datgarboneiddio, gydag ymrwymiad i fod yn Sero Net erbyn 2050. Mae’r cynllun yn pennu nifer o nodau er mwyn trawsnewid y cwmni ar ei hyd a newid meddylfryd ein rhanddeiliaid, gan gynnwys cyflenwyr, dosbarthwyr a defnyddwyr, o un sy’n ‘defnyddio a gwaredu’ i un o ‘atgyweirio ac ailddefnyddio’, gan fuddsoddi mewn economi gylchol sy’n seiliedig ar egwyddorion sylfaenol ansawdd, gwydnwch a’r gallu i ailgylchu. 

Sut cawsoch chi’r data oedd eu hangen arnoch i gyfrifo eich allyriadau llinell sylfaen?
Yn ffodus, roedd rhywfaint o’r data eisoes o fewn cyrraedd. Cawsom rywfaint ohonynt drwy anfonebau ein system ac adroddiadau o wahanol ffynonellau. Ond, yn gyntaf, roedd yn rhaid i ni ymchwilio i safonau’r diwydiant ar gyfer elfennau fel metelau a chynhyrchu deunydd crai oherwydd nad oedd y data hwnnw’n hawdd ei gael. Yna, roedd yn rhaid i ni siarad â phobl yn ein cadwyn gyflenwi. Felly, er enghraifft, un o’r pethau cyntaf roeddem ni wedi’i wneud oedd siarad â’n cludwr dan gontract oherwydd ein bod yn cludo sympiau enfawr o ysgolion bob dydd i'n cwsmeriaid ledled y DU.  

Roedd yn galonogol clywed bod ein prif gludydd eisoes yn y broses o edrych ar ei allyriadau ei hun. Oherwydd ei fod yn gwneud llawer o waith i’r sector cyhoeddus, mae ganddo ddogfen PPN 06/21. Mae hwn yn ofyniad caffael cymharol newydd gan y Llywodraeth sy’n mynnu bod cyflenwyr yn rhoi manylion eu hymrwymiad i gyflawni Sero Net drwy gyhoeddi Cynllun Lleihau Carbon manwl. Fel rhan o gynllun ein cludydd, mae’n newid i fflyd gwbl drydanol i wneud danfoniadau yn fwy glân a gwyrdd.  

Roedd gweithio gyda phartneriaid i gael y data roedd eu hangen arnom weithiau yn syml ac weithiau yn fwy heriol. Ond roedd yn werth yr ymdrech.  

 

Beth oedd eich heriau neu eich rhwystrau mwyaf wrth ddatblygu eich cynllun?
Roedd rhai o’r heriau’n ymwneud â mynd i’r afael â fformatau data newydd! Rydym i gyd wedi arfer gweithio yn ôl milltiroedd y galwyn – ond nid yw gweithio yn ôl cilogramau o garbon y filltir mor gyfarwydd! Felly roedd hynny’n galw am gryn dipyn o feddwl cyn roeddem yn gallu mewnbynnu ein data i’r porth gwe a ddarparwyd i ni fel rhan o’r Peilot.  

Her arall oedd ennill ymrwymiad y gadwyn gyflenwi. Roedd ein cwsmeriaid mawr, fel Screwfix a Toolstation, eisoes ar y trywydd iawn o ran cynaliadwyedd. Maen nhw wedi gofyn i ni am amrywiadau’r data hyn ar gyfer y 18 mis diwethaf. Ond mae ceisio cael ein cadwyn gyflenwi i ymrwymo i hyn wedi bod yn heriol oherwydd eu bod yn llai cyfarwydd â’r gofyniad hwn.  

Y pellaf i fyny'r gadwyn gyflenwi rydych chi’n mynd, y mwyaf newydd ydyw i’r bobl rydych chi’n gweithio â nhw. Y rheswm am hyn yw nad ydynt yn deall pam fod angen i chi gael yr holl ddata newydd hyn. 

 

Sut gwnaethoch chi fynd ati i gynnwys eich tîm yn y broses o ddatblygu eich cynllun lleihau allyriadau carbon?
Daeth ein hysbrydoliaeth yn gynnar yn y Peilot pan aethom i weminar oedd yn cael ei chyflwyno gan yr arbenigwr cyfathrebu, Sara Robinson. Roedd hi’n argymell ein bod yn cynnwys ein staff yn hyn yn gynnar, ac roedd hynny wedi taro tant â mi. Felly, y diwrnod canlynol, galwais y tîm at ei gilydd ac egluro beth roeddem yn ceisio ei wneud a pham ei fod yn bwysig. Roedd hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr oherwydd roedd y tîm yn teimlo eu bod yn gwybod beth oedd beth, ac roeddem i gyd yn gytûn wedyn.  

Po fwyaf ymwybodol oedd pobl o’r hyn roeddem yn ceisio’i gyflawni, y mwyaf roeddent yn meddwl am y gwahaniaethau y gallent eu gwneud gyda’u penderfyniadau bob dydd. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cynwysyddion cludo i gludo rhai deunyddiau i mewn. Felly, fe wnaeth ein tîm edrych ar ein danfoniadau cynwysyddion cludo a gweld y gallai’r cwmni cludo ddarparu adroddiad ar allyriadau ar gyfer llwybrau ein cynhwysydd.  

Fe wnaethom hefyd weld y gallem ddefnyddio llwybrau cludo “glanach”. Drwy gynnwys y tîm o’r cychwyn cyntaf, roeddem yn grymuso’r aelodau i awgrymu gwelliannau, ac roedd hyn wedi cyfrannu’n fawr at ein llwyddiant yn y prosiect hwn.  

Dim ond un o’r ffyrdd roedd y rhaglen beilot wedi ein helpu ni i wneud penderfyniadau strategol da oedd hyn. Roedd wedi ein helpu mewn sawl ffordd arall - gormod i’w crybwyll yma! 

Roedd ennill gwobr ‘Cynllun Lleihau Carbon Busnesau Bach Gorau’ yn hwb gwych i’r tîm gan fod pawb wedi gweithio’n galed i ddatblygu ein cynllun. Rydym i gyd yn falch eithriadol o’n llwyddiant. Mae wedi rhoi hwb i ni i gyd i barhau i weithio’n galed i leihau ein heffaith amgylcheddol. 

 

Beth yw’r camau nesaf ar gyfer eich busnes ar eich taith lleihau allyriadau carbon?
Mae arnom eisiau cynyddu ein set ddata a’i gwneud yn fwy cywir. Felly byddwn yn gofyn mwy gan ein staff a’n cadwyn gyflenwi ac yn sicrhau ein bod yn cofnodi cymaint â phosibl. Allwn ni ddim rheoli’r hyn na allwn ei fesur, wedi’r cyfan! 

Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cadwyn gyflenwi gyfan a’n sylfaen cwsmeriaid. Rydym yn awyddus i raeadru ein hymdrechion i’n cwsmeriaid drwy ddangos pa gamau rydym yn eu cymryd i wneud ein cynnig yn fwy cynaliadwy. Drwy farchnata mwy rhagweithiol, rydym yn gobeithio addysgu ein cwsmeriaid er mwyn iddynt allu mynnu mwy gan eu cyflenwyr eraill. Mae’n ymwneud â chynyddu ac ehangu ein heffaith. Po fwyaf y mae’r ecosystem yn gweithio tuag at leihau allyriadau, po fwyaf yr effaith y gallwn ei chael. Felly, o’n rhan ni, rydym am dynnu sylw at yr hyn rydym yn ei wneud. Bydd cael gwobr gan y rhaglen beilot yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o’n gwaith a phwysigrwydd mesur a lleihau allyriadau.  

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n cychwyn ar y daith i leihau eu hallyriadau carbon?
Mae’n gallu bod yn llethol pan nad ydych chi’n gwybod ble i ddechrau, ond fy nghyngor i yw dechrau nawr ac optimeiddio yn hwyrach ymlaen. Wedi dweud hynny, cyn gynted ag y gwnaethom ddechrau ar y rhaglen beilot, fe wnaethom sylweddoli bod yn haws cael gafael ar lawer o’r data nag yr oeddem wedi’i dybio.  

Rhywbeth arall sy’n allweddol i lwyddiant yw ennill ymrwymiad pobl. Os gallwch ennill calonnau a meddyliau ar draws eich sefydliad a’r gadwyn gyflenwi, mae hynny’n hanner y frwydr.  

 

Beth oedd y manteision mwyaf o gymryd rhan yng nghynllun peilot Rhaglen Lleihau Allyriadau Carbon Cyflymu Twf Busnes Cymru?
Wrth gymryd rhan yn y peilot Lleihau Allyriadau Carbon, roeddem yn gallu canolbwyntio ar y genhadaeth hollbwysig hon. Cyn ymuno, roedd gennym ni fwriadau da ond roeddem yn ei chael hi’n anodd gwneud cynnydd. Roedd y cyfle i gael intern penodol i weithio gyda ni yn amhrisiadwy, felly hefyd arbenigedd yr hyfforddwyr cynaliadwyedd. Roedd y gweminarau hefyd yn wych ar gyfer dysgu dwys mewn camau bach. Fe wnaethom ddysgu cymaint mor gyflym, ac roedd hyn wedi ein helpu i symud ymlaen yn gyflym.  

Gallaf ddweud, â fy llaw ar fy nghalon, dydw i ddim yn meddwl y gallem fod wedi gwneud cynnydd mor gyflym heb y gefnogaeth a gawsom. Roedd y rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer busnesau fel ni ac roedd wedi rhoi’r arbenigedd a’r adnoddau i ni gymryd y camau nesaf. 

Mae'r fantais gennym ni nawr ac rydym mewn sefyllfa ragorol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd masnachol gan gyflenwyr a chwsmeriaid o’r un anian.  

 

Dewiswch yma i ddysgu mwy am TB Davies a'r hyn maen nhw'n ei wneud.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.


 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen Cymru gyfan sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Share this page

Print this page