I entrepreneuriaid, gall manteisio ar arbenigedd busnes penodol fod yn amhrisiadwy pan fydd ganddyn nhw fusnes sy’n tyfu ac yn datblygu.

Mae Business Butler yn blatfform ar gyfer talent ar alw yng Nghymru, ac maent yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau busnes i wneud hynny drwy eu rhoi mewn cysylltiad â phanel o arbenigwyr busnes – sydd wedi cael eu fetio – drwy eu porth ar-lein. Mae'n wasanaeth hanfodol mewn byd lle mae rhwydweithio wyneb yn wyneb wedi bod ar stop ers dechrau 2020.

Mae Business Butler wedi cael eu cefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r Rhaglen hon yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Yma mae'r Prif Swyddog Gweithredol a'r sylfaenydd Bhupinder Sidhu yn dweud wrthon ni am wreiddiau Business Butler, y rhwystrau mae'r cwmni wedi'u goresgyn hyd yn hyn a'u cynlluniau ar gyfer tyfu.

 

 

Dwedwch wrthon ni am Business Butler.
Rydyn ni’n gwmni ifanc, ac rwy'n credu bod ein twf yn dangos y galw am yr hyn rydyn ni’n ei gynnig. Rydyn ni’n cynnig cynnyrch gwych ac ateb gwych i rywbeth sydd yn aml yn peri pen tost i entrepreneuriaid. Mae gennyn ni arbenigwyr sy'n cynnig mwy na 120 o wasanaethau ar draws 15 maes busnes allweddol, gan gynnwys cyfrifyddu, gwasanaethau ariannol, marchnata ac adnoddau dynol.

Mae dwy ochr i’n model ni: ar un ochr mae’r busnesau bach sy’n defnyddio'r platfform i geisio cyngor yn rhad ac am ddim – ac ar yr ochr arall mae’r ymgynghorwyr busnes a’r darparwyr gwasanaethau a reolir gan berchennog sy'n talu ffi i gael eu fetio a'u rhestru ar y platfform. Mae gennyn ni fasnachfreintiau sy'n gweithredu yn Abertawe, Caerdydd, Bryste, Rhydychen – ac yn Richmond yn y DU a Johannesburg yn Ne Affrica. Mae gennyn ni gynlluniau i ehangu ein busnes i gynnwys mwy na 150 o diriogaethau.

Yn y chwe mis ers ein lansiad swyddogol, mae mwy na 100 o arbenigwyr wedi ymuno â'n panel ni, gydag 80% ohonyn nhw wedi derbyn o leiaf un apwyntiad i gwrdd neu i weithio gyda chleient newydd drwy blatfform Business Butler.

 

Beth yw eich adegau mwyaf balch ym myd busnes hyd yn hyn?
Mae'n ddyddiau cynnar inni, ond rydyn ni wedi cael llawer o resymau dros ddathlu – agor ein masnachfraint gyntaf ym Mryste, er enghraifft.

Roedd ein buddsoddwr angel cyntaf yn ymuno â ni yn garreg filltir arall inni. Roedd yn hwb hyder i'n model busnes, yr hyn rydyn ni’n ei wneud a'r hyn rydyn ni am ei gyflawni.

Rydyn ni wedi addasu ein model busnes i fod yn gwbl ddigidol, ac rydyn ni’n cynhyrchu lefelau uchel o weithgarwch drwy wefan rydyn ni wedi'i hadeiladu i fod yn gyflym ac yn ddiogel i'w defnyddwyr.

 

Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes?
Mae codi'r cyllid sydd ei angen arnon ni i dyfu'r busnes ar y gyfradd yr hoffen ni ei gweld wedi bod yn heriol. Rwyf am fanteisio ar y bwlch yn y farchnad a chyflymu ein trawsnewidiad digidol, felly mae amser wedi bod yn hanfodol inni!

Roedd datblygu ein technoleg a sicrhau'r buddsoddi yr oedd ei angen arnon ni i rentu swyddfeydd addas yn rhwystrau eraill inni yn y dyddiau cynnar.

Mae'r pandemig wedi arwain at gyfleoedd inni, yn ogystal â heriau.

Mae recriwtio arbenigwyr wedi bod yn anoddach oherwydd y pandemig, ac rydyn ni’n arloesi dyfodol rhwydweithio a datblygu busnesau. Mae angen perchnogion busnesau â gweledigaeth i fod y cyntaf i fabwysiadu’r syniadau newydd hyn. Mae llawer o berchnogion busnes wedi gorfod troi at blatfformau digidol am y tro cyntaf, sydd wedi creu cyfleoedd newydd. Mae wedi denu defnyddwyr sydd am gwrdd ag arbenigwr o bell, ac wedi denu arbenigwyr mae angen ateb digidol arnynt i gwrdd â chleientiaid newydd.

Credaf y bydd y ffaith bod busnesau bach wedi bod yn mabwysiadu technoleg ddigidol yn gyflymach yn ystod y cyfyngiadau symud yn fuddiol yn y tymor hir.

 

Pe baech chi’n gorfod dechrau unwaith eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Bydden ni wedi ceisio codi arian yn gyflymach i gyflymu ein twf. A chyda'r cyllid hwnnw, bydden ni wedi gallu buddsoddi'n fwy helaeth mewn datblygu technoleg yn gynharach yn ein cylch busnes, yn hytrach na dysgu mewn modd mwy organig dros gyfnod estynedig.

Rwy'n credu y bydden ni hefyd wedi ymddiried yn ein greddf ni fel busnes mewn perthynas â’r model masnachfraint rydyn ni wedi'i ddatblygu, yn hytrach na gwrando ar gyngor allanol.

 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Busnes Butler wedi cael ei gefnogi a'i wella'n sylweddol gan y Rhaglen Cyflymu Twf.

Mae'r rhaglen wedi ein cefnogi gyda mynediad at arian a chyllid grant. Rydyn ni hefyd wedi cael cymorth gyda systemau digidol TG a masnachfreinio.

Yn ogystal, mae gweminarau’r Rhaglen Cyflymu Twf sydd ar LinkedIn a Facebook wedi bod yn fuddiol yn ystod y pandemig.

Byddwn i’n annog unrhyw entrepreneur sydd wedi cael syniad gwych ac sy’n uchelgeisiol i dyfu fanteisio ar y cymorth a'r arbenigedd sydd ar gael drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

Pa gyngor ac arweiniad byddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sydd ar fin dechrau?

● Rhowch amser ac adnoddau i ddatblygu partneriaethau allanol allweddol – byddwch mor drwyadl wrth eu dewis ag y byddech chi wrth recriwtio aelodau newydd o'ch tîm.

● Peidiwch byth â chymryd yn ganiataol yr hyn mae cleientiaid/cwsmeriaid ei eisiau. Gofynnwch iddyn nhw a pharhau i ofyn iddyn nhw. Defnyddiwch yr adborth i addasu eich cynnyrch a'ch gwasanaethau iddyn nhw. Cynhaliwch arolygon gwerthuso a boddhad cwsmeriaid yn rheolaidd.

● Defnyddiwch systemau awtomatig cymaint ag y bo modd – ymchwiliwch i'r feddalwedd sydd ar gael a manteisio arni i gadw costau i lawr a gwella effeithlonrwydd.

● Peidiwch â buddsoddi mewn swyddfeydd drud oni bai bod eu hangen arnoch.

● Adeiladwch eco-systemau lleol sy'n sicrhau cynaliadwyedd ac yn helpu effeithlonrwydd.


 

Dysgu mwy am Business Butler.com
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page