Mae angen parhaol i gadw costau mor isel â phosibl mewn busnes. Fodd bynnag, gall gwneud y gorau o wariant ar gaffael nwyddau fod yn her i fusnesau o bob maint.

Aeth yr entrepreneur o Gaerffili, Phillipe Mele ati i ddatrys y broblem hon i berchnogion busnes prysur, ac yn ystod y broses, dechreuodd ei fusnes ei hun. Mae My Procurement - ffordd newydd, gydweithredol i fusnesau gael bargeinion gwell - yn defnyddio model aelodaeth i roi'r bargeinion gorau i gwmnïau sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Cafodd My Procurement ei gefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.  Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf yn darparu cymorth wedi'i dargedu i gwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu.  Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

Yma, mae Phillipe Mele yn esbonio ei fodel busnes, ei gyffro ynghylch y dyfodol a sut y llwyddodd i lywio drwy'r pandemig a chreu cynnig busnes cryfach o ganlyniad.

 

 

Dywedwch wrthym am My Procurement?
Wel, rwy'n credu bod ein busnes yn un cyffrous iawn, mae'n rhywbeth gwahanol sy'n cynnig cymaint i fusnesau bach a chanolig eu maint. Wrth gwrs, fel arweinydd y busnes hwn, mae'n ddigon posibl y bydd disgwyl i mi ddweud hynny, ond gan fy mod mor wrthrychol ag y gallaf, credaf fod y cyfan yn wir!

Rydym wedi ein lleoli yng Nghaerffili, ac yma yn ne Cymru, mae clwstwr o gwmnïau arloesol yn tarfu ar amrywiaeth o sectorau – boed hynny gyda thechnoleg ariannol neu, fel ni, mewn maes sy’n fwy seiliedig ar wasanaethau. Rydym yn llwyfan caffael ar-lein yn bennaf, ac rydym yn arbed miloedd o bunnoedd i fusnesau bach a chanolig drwy ddod o hyd i gyflenwyr o ansawdd uchel ar gostau a negodwyd ymlaen llaw, is na'r cyfartaledd.

Rydym yn tyfu'n raddol, ac rydym yn bwriadu recriwtio mwy o aelodau staff yn ystod y chwe mis nesaf. Rydym hefyd yn bwriadu cynnig mwy drwy gysylltu mwy o gyflenwyr â chwsmeriaid ar draws gwahanol feysydd. Rydym yn gweithredu o dan fodel aelodaeth, gyda chwsmeriaid yn talu ffi i gael mynediad i'r gwasanaeth caffael strategol.

 

Daeth y syniad busnes i mi pan oeddwn yn brynwr yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Er fy mod yn cydnabod nad oedd busnes ymgynghori yn gallu ehangu’n gyflym, gwyddwn fod marchnad ar gyfer llwyfan caffael strategol hawdd ei ddefnyddio.

Roedd dechrau'n anodd.  Roeddem yn ei chael hi'n anodd denu aelodau ac mewn sefyllfa o fod angen aelodau er mwyn darparu ein gwasanaeth.  Roedd angen denu cyflenwyr ond roedd angen cyflenwyr arnom i'w wneud yn werth cofrestru. 

Bu'n rhaid i ni fod yn ddeinamig ac yn hyblyg yn ein dull o oresgyn hyn. Felly, gwnaethom ganolbwyntio ar fusnesau mwy canolig eu maint, gan olygu bod archebion yn ddigon sylweddol i ddenu prisiau gwell gan fwy o gyflenwyr, a oedd yn denu mwy o ddefnyddwyr i'r platfform.

Gyda chynlluniau ar gyfer ehangu o'n blaenau, credaf fod ein rhagolygon yn edrych yn dda. Rwy'n falch ein bod wedi gallu ymateb a bod yn wreiddiol yn ein hymagwedd at yr heriau niferus rydym wedi'u hwynebu hyd yn hyn!

 

Beth yw eich adegau mwyaf balch mewn busnes hyd yn hyn?
Rwy'n falch o oresgyn yr heriau sy'n codi yn sgil y pandemig – mwy am hyn wedyn! Ond rwy'n credu bod goresgyn yr heriau hynny, gweithio fel tîm, a thyfu fel busnes drwy'r cyfnod anodd hwnnw, yn brawf bod yr hyn rydym yn ei adeiladu yma yn werth chweil. Rwy'n hyderus y bydd y cwmni'n llwyddiant mwy hyd yn oed yn y dyfodol. Rydym yma i herio, tyfu a bod yn llwyddiant i Gymru.

 

Pa heriau ydych chi wedi'u hwynebu mewn busnes?
Roedd Covid yn her enfawr i ni fel busnes, fel cynifer o bobl eraill allan yno. Roedd llawer o'n cwsmeriaid yn dod o'r diwydiant awyrofod, a gafodd ei lesteirio gan y cyfyngiadau yn gynnar yn y pandemig.

Bu'n rhaid i'n tri cwsmer mwyaf dynnu'n ôl o'r platfform yn y cyfnod hwn, felly roedd yn gyfnod anodd, fel y gallwch ddychmygu.

 

Roedd llawer o'n cyflenwyr hefyd yn gosod staff ar ffyrlo, a oedd yn amharu ar y gadwyn gyflenwi. Er mwyn goresgyn hyn, bu'n rhaid i ni fod yn adweithiol, yn rhagweithiol ac yn arloesol. Felly, gwnaethom ailffocysu'r busnes ac arallgyfeirio'r sectorau a gefnogwyd gennym, gan newid ein targedu at ddiwydiannau lluosog, gan gynnwys gweithgynhyrchu, garddwriaeth, saernïo a chyfleustodau.

Ers y newid tactegol hwn, rydym wedi mynd o nerth i nerth ac wedi cynyddu rhoster a sylfaen cwsmeriaid ein cyflenwyr. Yr oedd yr argyfwng yn ein gorfodi i ailystyried pethau, gweithredu a bod yn bendant, a chredaf fod gennym fodel busnes mwy cadarn o ganlyniad.

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?
Byddwn wedi dechrau'n gynt – ac wedi gweithio ar y prosiect wrth wneud fy ngwaith blaenorol cyn ei lansio. Rwy'n credu y byddai hyn wedi bod yn bosibl a byddai wedi fy ngosod ar y llwybr hwn yn llawer cyflymach.

Rwy'n credu y byddwn hefyd wedi arallgyfeirio'r sylfaen cleientiaid yn gynt drwy chwilio am feysydd twf posibl. Fel y soniais yn gynharach, bu'n rhaid imi ailystyried sut i dyfu'r busnes oherwydd natur ein pwynt gwerthu unigryw.  Mae cael delwedd arbenigol yn digwydd yn hawdd yn y sector gwasanaethau. 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydym wedi cael cryn dipyn o becynnau gwaith defnyddiol a chefnogol iawn drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae wedi caniatáu inni gael gafael ar gymorth arbenigol a phwrpasol yn gysylltiedig â meysydd busnes penodol fel cyllid a chymorth TG.  Hefyd, rydym yn cael cyngor strategol ar feithrin ein twf fel busnes fu hefyd yn amhrisiadwy.

Mae'r cyngor a'r gefnogaeth a gawsom wedi bod yn wych. Byddwn yn annog unrhyw entrepreneur yng Nghymru i chwilio am y cymorth sydd ar gael, a all helpu eich busnes i dyfu a datblygu.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi'n eu rhoi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

● Yn gyntaf, dechreuwch cyn gynted â phosibl – hyd yn oed os oes rhaid i chi weithio'n rhan-amser wrth ddatblygu eich cysyniad.

● Nodi sut y gellir cymhwyso'r gwerth y gallwch ei ddarparu i eraill ar raddfa ehangach – bydd hyn yn eich galluogi i fod yn fwy gwydn a rhoi mynediad i chi at sylfaen cwsmeriaid posibl ehangach.

 

I ddysgu mwy am My Procurement, ewch yma.
 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen tros Gymru a ariennir yn rhannol gan yr Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page