Mae mwy a mwy o ddewisiadau eraill yn hytrach na ffasiwn cyflym prif ffrwd ar gyfer y rhai sy'n chwilio am wardrob sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd. Ac eto, gall dod o hyd i offer hyfforddi ecogyfeillgar fod yn anoddach i'r rhai sy'n chwilio am ddillad athletaidd.

Nawr, mae brand Cymreig wedi’i lansio i gyflenwi cit i redwyr sy'n edrych ac yn teimlo'n dda ac sy'n dda i'r blaned. 

Mae Dryad yn y Fenni wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. Mae'r AGP yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Caiff y rhaglen ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

 

 

Yma, mae'r cyd-sylfaenydd Matthew Thomas yn adrodd hanes Dryad a'r ethos cynaliadwy sy'n sail i bopeth y mae'n ei wneud.

 

Dywedwch wrthym am Dryad

Cynaliadwyedd, cynaliadwyedd, cynaliadwyedd. Dyna graidd y busnes. 

Pan ges i a Joby'r syniad ar gyfer Dryad, roedden ni am ddarparu rhywbeth gwirioneddol gynaliadwy, y gwrthwyneb i ffasiwn cyflym mewn marchnad a oedd yn ddiffygiol iawn o ran dewis. 

Gwnaethom sefydlu’r cwmni yn 2020 a'i lansio ym mis Rhagfyr 2021. 

Beth rydyn ni yn ei gynnig? Mae gennym amrywiaeth o offer rhedeg llwybrau i fenywod wedi'u gwneud o ffibrau ail oes. Pan gafodd y cwmni ei sefydlu, roedden ni am greu brand chwaraeon gyda sawl nod: 

  • Gwneud y dillad chwaraeon mwyaf  cynaliadwy posibl i fenywod.
  • Bod mor dryloyw â phosibl, gyda chadwyn werth yr oedd modd ei holrhain yn llwyr er mwyn sicrhau bod pawb yn y gadwyn gyflenwi yn cael eu trin yn deg. 
  • Dyrannu cyfran o'r elw i gynyddu cyfranogiad merched a menywod ym maes chwaraeon.
  • Darparu cyflogaeth leol drwy ddod â diwydiant gweithgynhyrchu dillad  uwch-dechnoleg yn ôl i Gymru. 
  • Arddangos ein hamgylchedd hardd ym Mannau Brycheiniog


Roedden ni am fynd yn erbyn y dull traddodiadol ar gyfer brandiau menywod, a’r dull confensiynol o’i wneud yn binc ac yn llai, lle mae brandiau’n cael eu creu ar gyfer cynulleidfa wrywaidd cyn cael eu haddasu ar gyfer menywod.

Rwy'n athletwr brwd fy hun, ond mae fy nghefndir gyrfaol mewn cynaliadwyedd, gan ganolbwyntio ar gadwyni cyflenwi. Ar ôl sylwi ar y tebygrwydd rhwng anghydraddoldeb i fenywod mewn cadwyni cyflenwi a chwaraeon, cafon ni’r syniad ar gyfer Dryad. Creu brand chwaraeon cynaliadwy sy'n rhoi menywod yn gyntaf.

 

Pa gyflawniadau ym myd busnes rydych fwyaf balch ohonynt hyd yn hyn?
Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi lansio - mae dechrau busnes ynddo'i hun yn anodd, ac nid oedd yn hawdd wynebu rhwystrau ychwanegol Brexit a Covid.

Rydyn ni’n falch o'r gymuned fach rydyn ni wedi'i sefydlu hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at gwrdd â mwy o bobl o'r un anian.

Buom yn gweithio gydag asiantaeth ddylunio i greu'r gyfres gyntaf o ddillad rhedeg gyda chynaliadwyedd a chylchred oes deunyddiau wrth wraidd yr ethos dylunio.
 
Er mwyn lleihau’r effaith a sicrhau tryloywder o fewn ein cadwyn werth, daethom o hyd i ffabrigau cynaliadwy anhygoel o felinau tecstilau arloesol. Hefyd, gwnaethom drefnu i’r cynnyrch gael eu gweithgynhyrchu yn un o ffatrïoedd gorau Ewrop. 
 
Lansiodd y brand ei set gyntaf o ddillad ar gyfer rhedeg ar lwybrau  adeg y Nadolig. Mae'n cynnwys chwe eitem mewn dau liw, gan gynnwys topiau, siorts a theits rhedeg.
 

Pa heriau rydych wedi'u hwynebu ym myd busnes?
Mae Brexit a Covid wedi effeithio'n aruthrol ar ein busnes. Rydyn ni wedi bod yn sefydlu ein hunain drwy ddau ddigwyddiad cymdeithasol ac economaidd seismig. Ond, gwnaeth yr oedi roedd yn rhaid i ni eu hwynebu gynnig cyfleoedd hefyd.

Rydyn ni wedi gwella ein gwefan ac wedi cael mwy o amser i ddeall cymhlethdodau mewnforio nwyddau i'r DU. Arweiniodd Brexit a Covid at gymhlethdodau gyda gwaith cyflenwi a gweithgynhyrchu, ond gwnaethom ddefnyddio’r cymhlethdodau hyn er ein budd.
 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Rwyf wrth fy modd gyda'r cynhyrchion a hunaniaeth y brand rydyn ni wedi’u creu, ond y brif wers rydyn ni wedi'i dysgu yw nad oes ots os nad oes unrhyw un yn gwybod bod eich cwmni'n bodoli.

Wrth edrych yn ôl, bydden ni wedi gwneud llawer mwy o ymdrech i godi ymwybyddiaeth o’r brand yn gynharach. Mae twf wedi bod yn sefydlog ac yn organig hyd yn hyn, ond byddai wedi bod yn braf petawn ni wedi sefydlu cymuned fwy helaeth wrth lansio.
 

Sut mae cymorth gan AGP Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Gwnaethom lansio gyda chymorth AGP Busnes Cymru, ac rydyn ni wedi cael ein cefnogi drwy raglen Cyflymu TownSq a chyda chyngor ac arweiniad busnes cyffredinol.

Rydyn ni wedi cael cyngor marchnata amhrisiadwy a chymorth mentora cyflenwi strategol drwy AGP Busnes Cymru.

Mae'r cyfan wedi helpu i gryfhau ein cwmni ifanc, a byddwn yn annog unrhyw un mewn sefyllfa debyg i ofyn am y cyngor a'r gefnogaeth wych sydd ar gael.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi'n eu rhoi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

  • Daliwch ati! Gall fod yn anodd ar adegau, ond mae cam bach yn gam i’r cyfeiriad cywir.
  • Defnyddiwch eich adnoddau'n ddoeth – mae gan y rhan fwyaf o fusnesau newydd gyllideb gyfyngedig; ystyriwch hyn fel cyfle i feddwl yn fwy creadigol; Po fwyaf y gallwch chi ei wneud eich hun, y mwyaf y byddwch chi'n deall am eich busnes.
  • Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau; mae'n anochel, felly dysgwch oddi wrthynt.
  • Dechreuwch godi ymwybyddiaeth o’ch cynnyrch/busnes cyn gynted â phosibl; mae adeiladu cymuned yn cymryd amser.
  • Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth; mae'n anodd dechrau busnes, ac mae pobl sydd wedi gwneud hyn yn gwybod beth rydych chi'n mynd drwyddo

     

    I ddysgu mwy am Dryad, ewch yma.

    Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.


     

    Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen tros Gymru a ariennir yn rhannol gan yr Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page