Bydd busnesau teuluol yn parhau yn hollbwysig o fewn economi Cymru.  Mae nifer ymhlith y cwmnïau mwyaf arloesol a blaengar o fewn eu sectorau. 

Mae Healthcare Matters yn un cwmni o’r fath.  Mae’n cynnig cynnyrch a gwasanaethau o safon i’r GIG a’r sector gofal. 

Mae gan y cwmni llwyddiannus o Wrecsam, sydd wedi dod yn gyflogwr hollbwysig yn yr ardal, ethos deuluol yn y bôn. 

Yma, mae’r cyfarwyddwr gwerthiant, Adam Spiby yn rhannu hanes Healthcare Matters ac yn rhoi cyngor i arweinwyr busnesau eraill sydd am ehangu a datblygu.

 

Dywedwch fwy wrthym am Healthcare Matters.
Dechreuodd ein hanes gyda fy nhad, Phil, yn 2005.  Mae’n beth od i feddwl na fyddai’r cwmni yma, sy’n cyfIogi 42 o bobl, yn bodoli heb y digwyddiad trawsnewidiol 15 mlynedd yn ôl. 

Y flwyddyn honno cafodd Phil drawiad ar y galon a bu rhaid iddo gael llawdriniaeth ddargyfeiriol drifflyg i’r galon.  Gwnaeth hyn nid yn unig arbed ei fywyd, ond rhoddodd amser iddo ystyried hefyd – gan ddechrau edrych ar ei ddyfodol newydd. 

Wrth iddo ddod ato ei hun o’r llawdriniaeth, penderfynodd ei fod am weithio iddo ei hun.  Sefydlodd Healthcare Matters, wedi gwneud gwaith ymchwil, yn ddiweddarach y flwyddyn honno.  Roedd yn gobeithio gallu cyflogi fy chwaer a minnau yn y pen draw. 

Pedair mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach, mae fy nhad yn rheolwr gyfarwyddwr busnes llwyddiannus – ac mae’n cyflogi nid yn unig mi a’m chwaer, Leigh ond hefyd ei nai, Liam.

Pan oedd yn dechrau’r cwmni, roedd ein tad wedi edrych ar yr amrywiol farchnadoedd i weithio ynddynt – ond dewisodd ofal iechyd.  Gwelodd bod yno lawer o botensial ar gyfer twf yn y dyfodol. 

Heddiw rydym wedi ennill gwobrau, lluosi ein staff, a dod â dull o weithio newydd i’r sector oedd yn galw am y gweithgarwch, yr eglurder a’r gwasanaeth i gwsmeriaid sy’n cael ei gynnig gennym.  Rydym yn parhau i fod yn fusnes teuluol, yn bennaf.  Rwy’n credu mai dyna sut yn y bon, yr ydym wedi gallu creu busnes mor gryf sydd â hanes mor wych o ran bodloni cwsmeriaid, ac sydd ag uchelgais am ragor o dwf. 

 

 

Beth ydych fwyaf balch ohono hyd yn hyn?
Rydym wedi cael cymaint o adegau i fod yn falch ohonynt gyda Healthcare Matters, megis ennill y Gwobrau Rhagoriaeth wrth Gyflenwi, cadw contractau ac ennill tendrau.  Ond y pethau sy’n ein gwneud yn fwyaf balch yw y pethau o ddydd i ddydd.  

Diwylliant y busnes oedd gwneud ychydig yn fwy na’r disgwyl i fodloni cwsmeriaid, a dyna’r diwylliant sydd gennym hyd heddiw.  Golyga hyn fod ein cwsmeriaid uniongyrchol wedi cael profiad gwych, fel y cleientiaid, y cleifion neu ddefnyddwyr gwasanaeth ein cwsmeriaid.  Rydym bob amser yn derbyn adborth gwych gan ein cwsmeriaid. 

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech chi wedi’i wneud yn wahanol?
Byddem wedi defnyddio atebion technegol yn gynt. 
Rydym wedi dechrau defnyddio system reoli awtomatig, ac rydym bellach yn defnyddio cyfrifon cwmwl.  Golyga’r pethau newydd hyn bod modd inni ganolbwyntio ar brofiad y cwsmer.  Mae’r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u gwneud mewn meysydd eraill o fewn y cwmni yn golygu y gallwn wneud yr hyn sy’n cyfrif o ran sicrhau llwyddiant. 

 

 

Sut mae’r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydym wedi sicrhau twf uniongyrchol diolch i’r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, roddodd safbwynt ffres inni ar yr hyn yr oeddem yn ei wneud, ac ar yr un pryd helpu inni sicrhau twf mewn marchnadoedd newydd. 

Bu’n rhaid inni ail-frandio, derbyn cymorth busnes a chymorth ar deithiau masnach, ac mae popeth wedi helpu inni gynyddu’r refeniw ac ehangu ein gweithle.  

 

Pa gyngor a chanllawiau fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau? 

● Deall na all pob penderfyniad fod yn iawn.  

● Ceisio gwneud y pethau iawn, ond os nad ydych yn llwyddo, dysgu ohono a symud ymlaen.   

● Peidio meddwl gormod am y camgymeriadau.

 


 

Dysgu mwy am Healthcare Matters.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page