Mae llif o gyllid yn hanfodol i sicrhau economi sy’n gweithio, lle y mae modd buddsoddi a dod i gytundebau. I fenthyg a benthyca, a chael mynediad i gronfeydd mae angen llawer iawn o wybodaeth a phrofiad. 

Sefydlwyd Pure Commercial Finance gan y bancer proffesiynol Ben Lloyd. Ei weledigaeth oedd sefydlu busnes a allai gael mynediad i gyllid a ganfyddir yn “rhy anodd” i fenthycwyr prif ffrwd. Mae eisoes wedi bod yn stori lwyddiant fawr. 

Yma, mae Ben yn rhannu ei brofiad fel entrepreneur, yn rhannu ei awgrymiadau ag  eraill ac yn amlinellu pa mor fanteisiol y mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod i dyfu ei gwmni. 

 

Dywedwch wrthym am Pure Commercial Finance.
Weithiau amseru sy’n gyfrifol am droi syniad busnes gwych yn rhywbeth sy’n gweithio. Roedd hynny’n sicr wedi gweithio o’m plaid pan ddechreuais Pure Commercial Finance (PCF). Roedd gennyf yrfa bancio lwyddiannus, ond sylwais ar fwlch yn y farchnad a sylweddolais y gallaf greu busnes llwyddiannus drwy fynd ati ar fy mhen fy hun.

Dechreuais PCF ym mis Mehefin 2013, drwy gyflwyno dull benthyca arall. Sefydlais dîm o bobl o’m cwmpas, gan ddefnyddio’r cysylltiadau a greais fel gweithiwr mewn banc. Tyfodd y busnes yn gyflym ac mae wedi ennill gwobrau am fod yn arloesol ac yn gadarn o ran darparu pecynnau cyllid cywir ar gyfer ein cleientiaid.

 

Yn gyntaf, gwnaethom ganolbwyntio ar gytundebau ar sail eiddo, sy’n parhau i fod yn rhan graidd o’n busnes, ond rydym wedi ehangu i reoli cyfoeth a llinellau cyllido eraill. Mae fy nhîm bellach yn cynnwys 26 aelod staff yng Nghaerdydd yn bennaf, gyda chynrychiolwyr yn Llundain hefyd. 

Yn gynnar yn y broses, sylweddolom fod angen treulio mwy o amser i ddod i gytundebau fel y gellid eu deall a’u pecynnu ar gyfer benthycwyr er mwyn iddynt wneud penderfyniad gwybodus i fenthyca ai peidio. Mae fy nhîm wedi creu enw da am fynd i bob twll a chornel cyn cyflwyno cytundeb posibl i gyllidwr. 

 

Mae gan fenthycwyr ffydd ynom i gyflwyno’r cytundebau cywir iddynt, ac mae hyn yn rhoi hygrededd inni yn y farchnad. Mae’n gylch rhinweddol ac yn un sy’n atgyfnerthu ein harbenigedd, ein profiad a’n gwybodaeth fel ein hasedau mwyaf.

 

 

Beth yw eich adegau busnes mwyaf balch hyd yma?
Rydym wedi ennill sawl gwobr yn y sector ariannol. Ond, rydym yn fwyaf balch o ennill ein gwobr genedlaethol gyntaf yn y diwydiant yn y Gwobrau Pontio a Masnachol.

Mae cael cydnabyddiaeth gan gydweithwyr eich sector yn gymaint o hwb ac mae wir wedi ein sbarduno i wneud mwy. 

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Roedd y busnes wedi tyfu’n gyflym iawn, ac ni fyddwn wedi newid hynny! Ar y cychwyn, roedd seilwaith a gweinyddiaeth y tîm gwerthiannau wedi’i hestyn. Roedd y broses yn aneffeithlon i ryw raddau am fod y tîm yn ymdrin â gwaith gweinyddu yn hytrach na gwerthu.

Yn ddelfrydol, byddem wedi ehangu’r swyddogaethau gweinyddol ar yr un gyfradd â’r rhai gwerthu. Byddai sicrhau cydbwysedd ariannol wrth greu’r tîm cymorth delfrydol wedi bod yn ddiddorol. Wrth gwrs, fyddwn ni byth yn gwybod nawr!

 


 

Sut y mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydym wedi bod yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru am bedair blynedd. Ac rydym wedi cael amrywiaeth o ymgynghorwyr i’n helpu i sicrhau bod ein gwerthiannau yn cynyddu ac i sefydlu strwythur y tîm yn ogystal â’n strategaeth fusnes. Ond y gwahaniaeth cadarnhaol mwyaf i’r busnes yw cymorth ein rheolwr cysylltiadau.

Rwyf wedi defnyddio fy rheolwr cysylltiadau fel mentor, bwrdd seinio, cyfrinachwraig a rhywun i herio fy mhenderfyniadau. Ni fyddem wedi bod mor llwyddiannus ag ydym heddiw heb gymorth Rhaglen Gyflymu Twf Busnes Cymru. 

 

Pa gyngor a chyfarwyddyd y byddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy’n cychwyn arni?

● Peidiwch â bod ofn gwneud penderfyniadau. Peidio â gwneud penderfyniad yw’r penderfyniad gwaethaf.

● Pan fo angen ichi wneud penderfyniadau anodd, gwnewch hwy gan wybod eich bod wedi ymchwilio iddynt fel eich bod yn gallu eu cyfiawnhau i’ch hunan ac eraill.

● Defnyddiwch gynghorwr yr ydych yn ymddiried ynddo sy’n gwbl annibynnol ac sydd wir yn gwrando arnoch.

● Buddsoddwch yn eich staff. Cofiwch pa mor bwysig ydynt i’ch busnes.

 

Dysgu mwy am Pure Commercial Finance.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page