Prin fod llawer yn meddwl am y peirianneg manwl sydd ei angen i gynhyrchu’r rhannau mewn cynnyrch trydanol.  Un o’r prosesau angenrheidiol hynny yw stripio weiars – sef tynnu’r haen allanol o blastig oddi ar weiars trydan. I sicrhau cysylltiadau trydanol diogel a da, rhaid stripio’r weiar yn lân ac yn gywir.

A hwythau wedi chwyldroi’r diwydiannau meddygol, data a moduron, diolch i’w technoleg arloesol, mae Laser Wire Solution o Bont-y-pridd yn geffylau blaen yn myd technoleg laser a robot.  

 

Mae’r cwmni’n arweinydd byd am stripio weiars â laser ac mae ganddi wybodaeth anferth am gymwysiadau defnyddio technoleg laser i stripio weiars.

Mae Laser Wire Solutions wedi cael cymorth Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. Mae’r AGP yn targedu cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop sy’n darparu rhan o’i gyllid, trwy Lywodraeth Cymru.

 

 

 

Dyma’r sylfaenydd y Dr Paul Tayor yn esbonio sut mae’r cwmni wedi tyfu yn y blynyddoedd diwethaf, sut y trechodd heriau’r pandemig a’r help y mae wedi’i gael gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

Dywedwch wrthym am Laser Wire Solutions
Ein harbenigedd a’n profiad yw hanfod ein gwaith yn Laser Wire Solutions.  Sefydlais y cwmni fwy na deng mlynedd yn ôl a bellach mae gennym dîm o arbenigwyr sy’n gwybod yn union beth yw anghenion ein cwsmeriaid. Dw i am ddisgrifio’n gwaith i chi’n fanwl gan ei fod yn dechnegol ac yn astrus iawn.  Natur y gwaith hwnnw yw’r rheswm pam mae angen arbenigwyr mor alluog arnom ni i weithio i ni!

Nod ein busnes yw symleiddio’r broses stripio weiars trwy ddylunio a chreu dulliau blaengar ac arloesol sy’n defnyddio technoleg laser. Mae’r dulliau hyn ar gyfer stripio weiars â laser yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn awtomeiddio prosesau gan leihau gwastraff a chynhyrchu mwy ar gyfer ein cwsmeriaid ledled y byd.

 

Mae gan ein tîm o 60 ddegawdau o brofiad o weithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae ein peirianwyr yn dylunio ac yn cynhyrchu systemau wedi’u hawtomeiddio sy’n darparu dull diogel, hawdd ac effeithiol o stripio weiars a cheblau bregus ar gyfer eu defnyddio mewn dyfeisiau meddygol fel cathetrau niwrolegol. Rydyn ni’n darparu hefyd wasanaeth Gweithgynhyrchu ar Gontract o dan drwydded ISO 9001 fel dewis arall i’n cwsmeriaid yn lle buddsoddi cyfalaf.  

Rydyn ni’n masnachu mewn marchnad fyd-eang ac yn allforio i gwmnïau, gan gynnwys Tesla, SpaceX, Abbot and Johnson & Johnson, yng Ngogledd a De America ac Ewrop. Mae gennym hefyd dîm o beirianwyr maes yn y rhanbarthau hynny i helpu’n cwsmeriaid a gwneud yn siŵr bod eu prosesau’n gweithio’n ddidrafferth. Mae ein cwsmeriaid yn arloesi drwy’r amser â ffyrdd newydd o bacio mwy o synwyryddion mewn pecynnau llai – ac mae’n peiriannau ni’n gwneud hynny’n bosib.

 

Beth ŷch chi fwya balch ohono hyd yma?
A ninnau wedi bod wrthi am fwy na degawd, mae yna sawl peth.  Wrth feddwl am ddyddiau cynnar y cwmni, pan gawsom ni ein grant cyntaf a chael pobl i fuddsoddi ynom ni, dangosodd hynny i mi bod rhywun arall yn credu yna’ i. Ro’n i’n newydd i fyd busnes,  felly roedd hynny’n deimlad gwych.

Y garreg filltir nesa oedd ennill fy archeb gynta a chyflenwi’r archeb. Rŷn ni wedi dod mor bell ers y dyddiau cynnar hynny. Roedd cael annerch y tîm yn ein cyfarfod cynta yn y Ganolfan QED – ein ffatri newydd ym Mhont-y-pridd – yn golygu’r byd i fi. Roedd yn brawf ein bod yn flaenllaw yn ein sector arbenigol iawn ni.

 

Pa broblemau ŷch chi wedi’u hwynebu fel cwmni?
Wnaeth neb rhagweld y pandemig a gallai neb fod wedi rhagweld ei ganlyniadau i fusnesau. Roedd Covid-19 yn anferth o her. Effeithiwyd ar bob un o’n marchnadoedd allforio dros nos a bu’n rhaid rhewi llawer o’n contractau.

Er gwaetha’r effeithiau cynnar hyn, gwnaethon ni asesu a meithrin ein perthynas â’n cyflenwyr i sicrhau bod yr effaith ar ein cynhyrchu mor fach â phosib. Bu’n rhaid i ni roi staff ar ffyrlo, ond rŷn ni wedi ailgodi ers hynny, diolch i ansawdd ein cynnyrch a’n henw da am arloesi. 2002 oedd y flwyddyn orau yn ein hanes, ac rŷn ni’n dal i dyfu.

Nid yw hi wedi bod yn rhwydd bob amser i reoli’r twf hwnnw. Gwnaethon ni droi at atebion tymor byr i ddechrau, gan roi adrannau gwahanol i weithio mewn adeiladau gwahanol. Er gwaetha’ ymdrechion y tîm i barhau i gydweithredu, fe sylweddolon ni’n o glou nad oedd hon yn ffordd gynaliadwy o weithio. Roedd angen cartre parhaol arnom, lle gallai’r tîm cyfan weithio dan yr un to.

Er gwaetha’r heriau economaidd, cymeron ni’r cam pwysig o brynu’r Ganolfan QED ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest ym Mhont-y-pridd, lle buodd Llywodraeth Cymru un tro. Mae’n lle addas felly ar gyfer ein pencadlys newydd. Ro’n i yn y Ganolfan QED 12 mlynedd yn ôl pan wnes i gais am grant i ddechrau’r busnes. Trwy brynu’r safle, rydyn ni’n ymrwymo i dyfu busnes fydd yn gynaliadwy ac yn tyfu yn y tymor hir yn y De.

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n wneud yn wahanol?
Mae adeiladu busnes yn broses barhaus ac ni fydd yr hyn all weithio heddiw o reidrwydd wedi’n helpu yn gynharach yn y broses.  O ystyried sut mae pethau wedi bod, dw i wedi dysgu gwersi mawr ar hyd y ffordd. Yn gynta, canolbwyntiwch bob tro ar benodi pobl am eu sgiliau a’u hagwedd. Mae modd dysgu gwybodaeth i bobl, ond mae’r sgiliau a’r agweddau iawn yn bethau prinnach. Yn ail, pe bawn wedi’u dysgu am systemau rheoli fel ISO9001, byddai hynny wedi sicrhau bod holl aelodau’r tîm ar yr un trywydd.  Yn olaf, wrth i bobl newydd gyrraedd, gall pethau’n droi’n anhrefnus yn rhwydd iawn os nad oes gennych drefn gynefino syml iddyn nhw ei dilyn.

 

Sut mae AGP Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes?
Cysylltais â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru cyn ffurfio’r cwmni. Diolch i’r help cychwynnol hwnnw, cefais y buddsoddiad oedd ei angen i ddatblygu’r cynnyrch cyntaf. I ddechrau, ffurfiais dîm bychan mewn meysydd fel peirianneg, marchnata, cyllid a datblygu busnes. Wrth i’r busnes dyfu, tyfu hefyd wnaeth ein tîm a bellach rŷn ni’n cyflogi 60 o beirianwyr, gwyddonwyr, peirianwyr cynhyrchu a staff cymorth.

Mae yna broblemau wedi codi ar hyd y ffordd ond bob tro, rŷn ni wedi troi at Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru am help.  Un trobwynt mawr oedd pan sylweddolais i na allwn i arwain pob agwedd ar y busnes. Gyda help Rheolwr Cysylltiadau AGP, lluniais strategaeth ar gyfer aildrefnu’r cwmni’n llwyr a recriwtio uwch arweinwyr. Dw i nawr wedi gallu gollwng y tasgau pob dydd a chanolbwyntio ar yr hyn sy’ fwya at fy nant – arloesi a chreu strategaeth ar gyfer y dyfodol.

 

Pa gyngor ac arweiniad byddech chi’n eu rhoi i fusnesau newydd eraill?

  • Peidiwch byth â danto (rhoi i fyny). Cyn belled â’ch bod yn dal i symud ymlaen – dyna’r cyfan sy’n bwysig.
  • Cyfathrebwch yn glir ac yn aml. Mae busnes yn gallu mynd yn gymhleth – mae angen helpu’ch tîm i weld pethau’n glir.
  • Ystyriwch eich cwsmeriaid fel rhan o’ch busnes a’u trin fel partneriaid gwerthfawr – dylen nhw ymateb i hynny. 
  • Byddwch yn barod i’ch rôl newid. Bydd eich swydd yn wahanol bob blwyddyn y bydd eich busnes yn tyfu.




I ddysgu mwy am Laser Wire Solutions, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 


 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Rhaglen ledled Cymru a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yw Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page