Y cwmni therapi ymddygiadol, Skybound, sydd wedi cael cymorth twf gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, yw'r cwmni diweddaraf sy'n ymddangos yn ein cyfres o flogiau.

Wedi'i sefydlu gan ddadansoddwr ymddygiadol Risca Solomon yn 2012, a oedd yn unig fasnachwr tan 2019 pan ddaeth Skybound yn gwmni cyfyngedig, mae'r cwmni yn cyflogi amrywiaeth o therapyddion sy'n arbenigo mewn sgiliau ymddygiadol, lleferydd, galwedigaethol a chymdeithasol.

Erbyn hyn, mae'r cwmni o Hwlffordd yn cyflogi 14 o staff amser llawn ac wyth yn rhan-amser.

Yma, mae Risca Solomon yn adrodd stori ei busnes ac yn rhannu syniadau a chymorth ar gyfer entrepreneuriaid eraill sy'n cychwyn arni.

 

Dywedwch wrthym am Skybound.

Rydym yn dîm amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol sy'n canolbwyntio ar helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i gyrraedd eu potensial.

Mae ein dull cyflenwi yn seiliedig ar gymorth ymddygiadol cymwysedig cadarnhaol.

Rydym yn anarferol o ran y ffordd yr ydym yn cyflogi therapyddion uchel eu proffil o fewn un cwmni. Gall yr arbenigwyr hyn ddarparu atebion integredig a chymhleth i gleientiaid - mae'n fwy arferol i therapyddion unigol i gael eu busnes eu hunain.

Rydym yn cynnal cyrsiau dwys, yn darparu cymorth gofal arbenigol un i un ar draws y DU a thu hwnt.

Rydym wedi trawsnewid o fod yn unig fasnachwr i'r cwmni yr ydym heddiw i gyd oherwydd cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Pan oeddwn yn unig fasnachwr, roedd fy nhrosiant draean yn llai na'r hyn ydyw nawr. Er y bu hynny'n lwyddiant mawr imi, roedd y strwythur masnachu, y model cyflogi a'r cyn lleied o feddwl strategol oedd ynghlwm wrth hynny wedi amharu'n fawr ar unrhyw dwf yn y dyfodol.

Ers ymuno â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rydym bellach yn gwmni cyfyngedig preifat, sy'n cyflogi nifer mawr o therapyddion medrus yn uniongyrchol ac mae gennym strategaeth dwf ystyrlon.

Rydym wedi gweld cynnydd o 30-35% mewn trosiant, ac rydym bellach yn un o'r prif gwmnïau therapi yn y DU, sy'n gweithredu ym mherfeddion Sir Benfro.

Rydym wedi ein lleoli mewn fferm sy'n berchen i deulu, ac rwy'n credu bod ein cefndir a'n gwerthoedd diwylliannol yn rhan hanfodol o lwyddiant y cwmni.

 

Staff Skybound Therapies
Staff Skybound Therapies

 

Beth ydych chi'n fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yn hyn?

Mae ehangu ein busnes yn golygu y gallwn ddarparu cymorth i fwy o deuluoedd sy'n wynebu anableddau ac ymddygiad heriol bob dydd.

Rydym wedi helpu plant i roi'r gorau i hunan-niweidio ac mae teuluoedd a oedd yn byw mewn ofn gydag ymddygiadau peryglus bellach yn gallu byw'n heddychlon gyda'i gilydd, gan atal eu plentyn rhag gorfod cael gofal preswyl.

Oherwydd y cynnydd mewn prosesau, systemau a staffio, gallwn gefnogi rhai teuluoedd mewn argyfwng yn gyflym ac yn effeithiol.

Rwyf hefyd yn falch iawn o weld y tîm yn tyfu a datblygu ei sgiliau clinigol a rheoli.

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?

Pe bawn wedi gwybod am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ynghynt, byddem wedi manteisio lawer ynghynt arni - a byddai hynny wedi helpu i sbarduno ein datblygiad.

Byddem wedi rhwydweithio'n fwy ac ynghynt, i ddarganfod pa gymorth oedd ar gael a allai fod wedi ein helpu i ddatblygu.

 

Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Ers defnyddio Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rydym wedi cael cymorth ar greu strategaeth, hyfforddiant a datblygu tîm o reolwyr canol, diagnosteg TGCh a gweithredu systemau TGCh newydd, gan arwain at ddefnyddio technoleg yn fwy effeithlon.

Mae trafodaethau rheolaidd bob chwarter gyda'n rheolwr cysylltiadau wedi helpu i lywio cyfeiriad strategol y busnes.

Pan ymunais â'r Rhaglen Cyflymu Twf, roedd gennyf dri gweithiwr cyfwerth ag amser llawn. Bellach mae gennym 14 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn ac wyth yn rhan-amser a rhagwelwn dwf sylweddol pellach yn y dyfodol. Rydym yn gobeithio cyflogi mwy o bobl medrus, gweithio mewn lleoliadau newydd a datblygu gwasanaethau newydd.

Mae'r dyfodol yn edrych yn gyffrous!

 

Staff Skybound Therapies
Staff Skybound Therapies

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

● Rhwydweithio. Mae cymorth ar gael, ond weithiau mae angen ichi chwilio am y cymorth cywir.

● Chwiliwch am rywun a fydd yn eich gwthio i barhau i ddatblygu; mae cynnal cyfarfodydd  rheolaidd gyda rheolwr cysylltiadau da wedi bod yn rhan annatod o'n twf.

● Canolbwyntiwch ar yr hyn yr ydych am ei gyflawni a chadw i fynd.

● Dylech gynnwys eich staff mewn penderfyniadau - nhw yw eich adnodd mwyaf gwerthfawr.

● Sicrhewch eich bod yn dysgu sut i flaenoriaethu'n dda a dysgu i ddirprwyo pan fod hynny'n bosibl.


 

 

Dysgu mwy am Skybound Therapies.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page