Gyda gwastraff plastig yn broblem gynyddol i’r blaned, mae un cwmni o Gymru sy’n datblygu’n gyflym yn cynnig atebion i helpu i fynd i’r afael â’r broblem. 

Y cwmni diweddaraf i’r blog ganolblwyntio arno yw Transcend Packaging sy’n datblygu’n gyflym.  Wedi’i leoli yn Ystrad Mynach, mae Transcend Packaging yn gwmni sy’n canolbwyntio ar ddeunydd pacio papur cynaliadwy a phlastigau bioddiraddiadwy sydd â phroffil amgylcheddol gwell.   

Yma, mae Prif Swyddog Gweithredol Transcend Packaging, Lorenzo Angelucci, yn adrodd hanes y busnes ac yn egluro sut y mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes  Cymru wedi rhoi platfform ar gyfer twf – gyda staff y cwmni yn tyfu 86% ers derbyn cymorth. 

 

Dywedwch ychydig am Transcend Packaging.

Pan ddechreuodd y cwmni, gwelwyd effaith ar unwaith wrth gydweithio â chwmnïau o’r un anian i ddod o hyd i ddeunyddiau cynaliadwy sy’n cynnig dewis arall gwirioneddol i blastig untro yn fasnachol.  Lluniwyd partneriaethau gyda brandiau mawr i leihau neu gael gwared ar filiynnau o wellt plastig untro ledled y byd. 

Cynaliadwyedd oedd y rheswm y dechreuais y cwmni hwn.  Sefydlais Transcend Packaging wedi gweld ffilm o grwban gyda gwelltyn plastig yn sownd yn ei drwyn.  Felly ês allan i ddatblygu gwelltyn papur. 

Rydym yn arloesol ac yn newid y sefyllfa – gan gynnig atebion i’r farchnad. 

Mae ein cwsmeriaid yn ein ystyried yn gwmni sydd â syniadau a chysyniadau pacio doeth.  Gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rydym wedi sicrhau twf i’r cwmni trwy ddefnyddio ein gwybodaeth a datblygu tîm sy’n teimlo’n angerddol dros wneud bethau da. 

 

Transcend Packaging staff
Transcend Packaging staff

 

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yma? 

Mae’r gwaith rydym yn ei wneud bob dydd yn rhoi synnwyr o falchder inni – mae ein cynnyrch yn rhan o’r ateb i’r broblem o wastraff plastig.   

Daeth un o’r hwbiau mwyaf sylweddol i’r cwmni ym mis Mehefin 2018, pan gawsom gontract mawr i gyflenwi gwellt papur i McDonald's yn y DU ac Iwerddon.

Rydym yn falch o helpu brandiau mawr i symud oddi wrth blastig untro. 

Ond nid yw hyn yn gysylltiedig â’n cynnyrch yn unig; mae’n gysylltiedig â bod yn fusnes gwych i weithio iddo.  Dyna pam roedd yn anrhydedd cael ein cydnabod gan Chwarae Teg yn ddiweddar fel Cyflogwr Chwarae Teg.  Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb y rhywiau. 

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol? 

Mae hynny’n anodd i’w ateb.  Mae nifer o benderfyniadau y gallech edrych yn ôl arnynt a meddwl, ddylie ni fod wedi gwneud hynny yn wahanol?  Ond, yr hyn sy’n gwneud ein busnes yr hyn y mae heddiw yw yr holl benderfyniadau hynny – yn iawn neu beidio – y gwnaethom wrth inni ddatblygu. 
 

Sut mae’r cymorth gan Raglen Twf Cyflym Busnes Cymru wedi helpu eich busnes? 

Rydym wedi cyrraedd cerrig milltir sylweddol o ran twf ers ymuno â’r rhaglen ym mis Tachwedd 2018.  Mae’r twf hwnnw wedi golygu ehangu’r gweithlu, ac rydym wedi creu 83 o swyddi ers inni fod yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. 

Mae’r cymorth a gawsom yn cynnwys ymarfer gweledigaeth tair mlynedd Orbit, fu o gymorth i weld ein hamcanion twf yn fwy eglur. 

Mae meysydd eraill o gymorth wedi canolbwyntio ar frandio, ail-ddatblygu’r wefan, systemau AD, prosesau, a pharatoi y busnes ar gyfer twf. 

Hefyd, cawsom gymorth a chyngor ar integreiddio TG, mynediad at gyllid grant ac effeithlonrwydd y broses weithgynhyrchu. 

Mae Transcend Packaging wedi gallu dehongli y cynlluniau ar gyfer twf, ac mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi cymeradwyo cyfeiriad y strategaeth hon i ehangu’r busnes.   

Rydym yn dechrau cyfnod o dwf sylweddol wedi inni ennill contract pedair mlynedd i gyflenwi gwellt papur i McDonald's, ac mae prosiect i’n paratoi ar gyfer newid diwylliannol a datblygu sefydliadol wedi dechrau. 

Roeddem yn canolbwyntio ar gleientiaid angori cynnar, ac rydym bellach angen cyngor a chyfeiriad Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ar y strategaeth er mwyn defnyddio ein sylfaen cleientiaid o’r radd flaenaf ar y cam cychwynnol hwn a sefydlu’r cyfleuster cynhyrchu. 

 

 

Pa gyngor a chanllawiau fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau heddiw?

● Os oes gennych syniad busnes, gwnewch eich gorau i’w wireddu.  Gallai fod yn rhywbeth sy’n newid er gwell, felly magwch yr hyder a’r crêd yn eich gweledigaeth. 

● Anelwch yn uchel. Rydym yn ehangu oherwydd ansawdd y cynnyrch rydyn ni’n ei ddarparu a brwdfrydedd ein gweithlu. 

● Chwilio am gyngor.  Bu’r cymorth a gawsom gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn fwy gwerthfawr na dim i helpu inni weld twf, ac mae hyn wedi cael effaith bositif iawn ar ein lle yn yr economi leol a chenedlaethol.

 

Dysgu mwy am Transcend Packaging.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page