Mae gofal o ansawdd uchel yn hwyrach mewn bywyd yn bwysig i bawb, ac i Orchard Care, sy’n berchen ar ddau gartref yn ardal Wrecsam, mae darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer eu preswylwyr yn ganolog i’w ethos.

Pan ymunodd Dave a Gemma Atkins â’r sector yn 2009, gwelon nhw ar unwaith yr angen am ddarpariaeth gofal o ansawdd uchel yn Wrecsam, ac roedden nhw’n ceisio rhoi’r ansawdd bywyd gorau posibl i’r rheini a oedd yn byw yn eu cartrefi.

 

Wrth gwrs mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn ar gyfer y sector gofal. Yma mae Dave yn rhannu nid yn unig hanes y busnes, ond hefyd y ffordd mae Orchard Care wedi ymateb yn gyflym i sicrhau bod diogelwch ei staff a’i breswylwyr yn ganolog i’w weithrediadau.

 

Dywedwch wrthon ni am Orchard Care.
Ein busnes ni yw gofalu. Mae hynny’n golygu ymrwymo i’r bobl sy’n byw yn ein cartrefi, yn ogystal ag ymrwymo i’r bobl sy’n gweithio inni.


Rydyn ni bellach wedi bod yn y maes hwn ers dros ddegawd, a phan ddechreuon ni, ein dymuniad oedd bod yn ddarparwr gofal a oedd yn rhoi ansawdd wrth wraidd ein gwasanaeth.

Mae ein stori yn dechrau yn 2009 pan brynon ni Gartref Gofal Cherry Tree. Roedd yn gartref 17 gwely, ond roedden ni’n bwriadu ei wella. O fewn dwy flynedd roedden ni wedi’i estyn i 37 gwely, a gwnaethon ni ehangu’r busnes ymhellach yn 2017 pan brynon ni Bay Tree House.

Ein dymuniad o’r dechrau un oedd creu cartrefi gofal sydd â naws gartrefol lle mae pobl yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u clywed. Mae Bay Tree House mewn ardal breswyl dawel yn Wrecsam, a chyda llawer o waith caled rydyn ni wedi’i ei droi yn gartref gofal arbennig ar ffurf gwesty bwtîc.  

 

Costiodd yn ailwampio £1 miliwn ac roedd yn cynnwys uwchraddio’r cartref yn llwyr i safonau moethus. Yn ystod y broses gwnaethon ni gynyddu ein capasiti o 36 gwely i 46 gwely. Mae ein grŵp bellach yn cyflogi 76 aelod o staff. 

Mae wedi bod yn waith caled ond mae’r canlyniad terfynol wedi bod yn destun llawer o foddhad i Gemma a fi.

 

 

Beth yw eich adegau mwyaf balch ym myd busnes hyd yn hyn?
Heb os pan wnaethon ni orffen y gwaith o droi Bay Tree House, ein hail gartref gofal, yn gartref moethus. Roedden ni mor falch wrth agor yr adeilad hwn.

Cawson ni gyllid gan Santander, ynghyd â’r teulu, i brynu ein cartref gyntaf, Cherry Tree.

 

Wedyn symudon ni i Fanc Barclays i brynu Bay Tree House a chael arian ychwanegol gan Fanc Datblygu Cymru i orffen y gwaith ailwampio.

Doedd hi ddim yn hawdd codi’r arian a oedd ei angen arnon ni, ac mae wedi cymryd ychydig mwy o amser nag ro’n i’n disgwyl. Ond gweithio i wireddu ein gweledigaeth sy’n ein cadw i fynd.

 

Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes?
Mae COVID-19 wedi peri llu o heriau newydd inni fel darparwyr gofal.

Mae nifer y preswylwyr yn ein cartrefi wedi gostwng, ar yr un pryd â chostau’n cynyddu.

Mae llwyth gwaith y busnes yn drymach nawr, oherwydd y gwaith papur ychwanegol a’r polisïau a’r gweithdrefnau rydyn ni’n gweithio gyda nhw – a mae’r polisïau hyn yn newid ac yn datblygu’n barhaus. Mae’n fater o sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf ar bob adeg.

Gwnaethon ni hunanynysu yn llwyr ym mis Mawrth, a bu staff yn byw ar y safle am chwe wythnos. Ers hynny mae’r holl staff wedi bod yn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac yn dilyn gweithdrefnau penodol y cwmni – rydyn ni’n credu bod y fethodoleg hon wedi diogelu staff a phreswylwyr.

 

 

Pe baech chi’n dechrau eto o’r dechrau un, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Mae’n anodd ateb y cwestiwn hwnnw. Rwy’n credu ein bod ni’n asesu’r penderfyniadau rydyn ni wedi’u gwneud yn y gorffennol yn barhaus, a beth yw effaith y penderfyniadau hynny ar y busnes ar hyn o bryd.

Mae’n anodd nodi’r union bethau yr hoffen ni eu newid. Credaf fod symud o fod yn berchen ar un cartref i fod yn berchen ar ddau wedi bod yn dwf o safbwynt y busnes – ond mae wedi bod yn dwf o safbwynt personol hefyd, a ninnau am roi’r gofal gorau posibl i gyfnifer o bobl ag y bo modd yn hwyrach yn eu bywyd.   

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Roedd y cymorth arbenigol gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn fuddiol iawn inni pan oedd angen inni farchnata’r cartrefi a chynyddu nifer y preswylwyr.

Mae gweithio gyda rhaglen Busnes Cymru wedi arwain at gomisiynu rhagor o waith, fel ffotograffau proffesiynol, fideo a diweddariad i’n gwefan. Mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy werth inni dyfu.

 

Pa gyngor ac arweiniad byddech chi’n eu rhoi i fusnesau newydd eraill?

●     Peidiwch byth â rhoi’r gorau iddo. Rwyf wedi wynebu llawer o rwystrau mewn busnes, a rhan o’r hyn sy’n fy ngyrru yn fy mlaen yw ysgogiad a phenderfyniad i lwyddo a pheidio ag ildio bob tro rwy’n wynebu rhwystr. Po anhawsaf y gwaith, po fwyaf y boddhad.

●     Ceisiwch gyngor a chymorth. Mae llawer ar gael, ac mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn adnodd defnyddiol dros ben os ydych yn dechrau busnes newydd.

●     Byddwch yn barod i wneud penderfyniadau anodd. Bu rhaid inni wneud hynny ar ein taith ac mae 2020 wedi bod yn anodd iawn mewn cynifer o ffyrdd. Ond rydyn ni yma i wneud ein gorau glas dros ein preswylwyr, a chredaf fod dilyn gwerthoedd allweddol yn bwysig wrth wneud penderfyniadau anodd.

 

Dysgu mwy am Orchard Care.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page