Bygythiad i’w iechyd a fyddai wedi newid ei fywyd oedd y catalydd ar gyfer newid i Dean Ward.

Pan sylweddolodd bod pwysau ei swydd wedi achosi’r hyn maen nhw’n tybio oedd strôc, penderfynodd bod hwn yn drobwynt. Dyma oedd sylfaen pennod newydd a chyffrous ar gyfer y gweithiwr proffesiynol profiadol ym maes eiddo. Gan ddefnyddio ei brofiad a’i wybodaeth helaeth am y sector, sefydlodd Dean y Grŵp DCW, cwmni ymgyngoriadau ar eiddo sydd â’r potensial i dyfu’n gyflym iawn diolch i’r datrysiad technegol arloesol sy’n sail i’r busnes.

Cefnogwyd Grŵp DCW drwy Raglen Cyflymu Twf (RhCT) Busnes Cymru. Mae’r RhCT yn rhoi cymorth, wedi’i dargedu, i gwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Caiff y rhaglen ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

Yma, mae Dean Ward, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol y Grŵp DCW, yn esbonio sut ddechreuodd e’r cwmni, sut mae wedi meithrin ei dwf a’i weledigaeth ar gyfer y dyfodol.

 

Dean Ward o Grŵp DCW
Dean Ward o Grŵp DCW

 

Dywedwch wrthym am Grŵp DCW
Dechreuaf gyda’r hyn rydym yn ei wneud. Rydym yn ymgynghoriad ar ddatblygiad preswyl a masnachol, sy’n cefnogi cleientiaid wrth iddynt gyflawni’r broses o gaffael a datblygu tir at ddibenion masnachol. Ond, i mi, mae’r cwmni’n cynrychioli llawer mwy na hynny. Cafodd ei greu o brofiad go iawn a newidiodd fy mywyd. Roeddwn i wedi bod yn gweithio yn y sector eiddo am 18 o flynyddoedd, i gwmnïau fel Barratt Homes, Datblygiad Preswyl Countrywide ac Wates Residential.

Pan oeddwn i’n 36, dioddefais o’r hyn a dybiwyd oedd strôc. Yn ddiweddarach, cefais y diagnosis mai meigryn a fertigo a achoswyd gan straen oedd yn gyfrifol. Arweiniodd hyn ataf yn ailasesu'r hyn roeddwn i’n ei wneud a beth roeddwn i am ei gyflawni yn fy mywyd. Roeddwn i wedi bod yn gweithio am flynyddoedd gydag arweinwyr y diwydiant, ac felly roedd gen i ddigon o brofiad a gwybodaeth. Felly, penderfynais adael fy swydd a dechrau menter fy hun.

 

I ddechrau, sefydlwyd Grŵp DCW fel cwmni ymgyngoriadau, ond roedd y broses o gasglu’r data angenrheidiol a chyflawni diwydrwydd daladwy yn andros o gostus ac yn cymryd amser.

Dechreuais edrych ar ba lwyfannau a gwasanaethau oedd ar gael i hwyluso’r broses gyfan honno. Er syndod i mi, darganfyddais mai dim ond un datrysiad oedd wedi bod erioed! Cwmni o Ganada oedd hwnnw a oedd wedi methu â throi ei gysyniad yn gynnyrch hyfyw.

Cysylltais â Chyn-brif Swyddog Gweithredol y cwmni hwnnw a dysgais fod y cwmni yn y bôn yn colli un elfen allweddol - profiad. Roedd y sefyllfa’n amlwg yn un lle'r oedd technoleg yn ceisio gweithio ym maes eiddo, yn lle’r maes eiddo yn ceisio defnyddio technoleg. Ond yn amlwg, roedd gen i ddigonedd o brofiad!

 

Cefais fy nghymell o’r sgyrsiau hyn i ymgysylltu ag arbenigwyr technoleg i lunio platfform SaaS (software as a service), DCW Insights, gyda’r nod o helpu cleientiaid i gasglu, dadansoddi a phrosesu’r holl wybodaeth angenrheidiol yn hawdd er mwyn cyflymu prosiectau a lleihau costau. Bellach, gall y platfform leihau’r amser arferol y mae’r prosesau hyn yn eu cymryd ar brosiect o fisoedd i funudau, gan arbed £100,000 mewn costau i’r cwsmer cyffredin.

Mae’r platfform wedi bod yn boblogaidd tu hwnt, ac o fewn munudau i’r Cynnyrch Sylfaenol Hyfyw (CSH) gael ei roi ar waith, roedd ganddo 328 o ddefnyddwyr – o bosibl £3.2m mewn refeniw – wedi cofrestru i’w ddefnyddio.

 

Gyda rhagor o ddatblygiad rydym yn hyderus y gallai’r busnes gael trosiant mwy na £380m y flwyddyn a chynhyrchu 200 o swyddi yn y broses. Un o’r penderfyniadau roedd yn rhaid i mi ei wneud yn gynnar oedd gwrthod cynnig cychwynnol i gaffael. Yn fy marn i roedd hyn yn eithaf dewr ond hefyd yn angenrheidiol i gael y busnes i’r maen yr hoffwn iddo fod.

Ar ôl popeth rwyf wedi bod trwyddo i gyrraedd y pwynt hwn, rwy’n hynod gyffrous am yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol.

  

Pa gyflawniadau ym myd busnes rydych chi fwyaf balch ohonynt hyd yn hyn?
Mae gwobrau’n adlewyrchiad da o sut mae pobl yn gweld eich busnes ac yn ddiweddar cawsom y fraint o ennill dwy o Wobrau Busnesau Newydd Cymru, sef busnes newydd y flwyddyn Bae Abertawe a Gwobr Busnes i Fusnes. Rwy’n hynod falch o hynny, ac rwyf hefyd yn falch o’r rhwystrau rwyf wedi’u goresgyn i wireddu fy syniad. Mae bod yn entrepreneur wedi bod yn brofiad hynod o werth chweil hyd yn hyn, a dim ond rhan o’r daith honno yw ennill gwobrau.

 

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes?
Yn amlwg roedd y bygythiad i fy iechyd yn her enfawr, ond dyna hefyd wnaeth fy sbarduno i newid fy mhrofiad yn rhywbeth cadarnhaol.

Rwy’n credu gall heriau yn aml gael eu troi’n gyfleoedd, yn enwedig o ran entrepreneuriaeth. Rwy’n teimlo fel fy mod wedi dod mor bell ers y foment honno roeddwn i’n meddwl fy mod wedi cael strôc.

 

Pe byddech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Rwy’n falch iawn o fod wedi hunanariannu’r busnes, ond rwy’n credu byddai cael buddsoddwyr wrth law o’r dechrau wedi hwyluso pethau o ran llif arian, a byddai wedi fy ngalluogi i ddysgu gwersi, yn enwedig mewn perthynas â’n technoleg, yn gyflymach o lawer.

 

Sut mae cymorth gan RhCT Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydym wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf (RhTC) Busnes Cymru sydd wedi bod yn hynod o werthfawr. Er enghraifft, roeddem yn gallu cael gafael ar gymorth o ddatblygwr technoleg ardderchog a wnaeth ein helpu i oresgyn rhai rhwystrau hanfodol a newidiodd fy syniad yn gynnyrch hyfyw yn barod i gleientiaid ei ddefnyddio.

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi’n ei roi i fusnesau newydd eraill?

●     Gwnewch eich ymchwil – dysgwch bopeth am y farchnad yr hoffech weithredu ynddi.

●     Dysgwch pwy yw eich cystadleuaeth a pheidiwch â bod ofn siarad â nhw – mae’n gyfle gwerthfawr iawn i ddysgu.

●     Arhoswch yn y maes rydych yn ei wybod ac yn ei fwynhau – bydd hyn yn eich helpu pan fydd cyfnodau anodd.

●     Peidiwch â thanseilio chi eich hun na gwrando ar deimladau ‘syndrom ffugiwr’ (imposter syndrome).

●     Peidiwch â chael meddylfryd cymysglyd – mae’r gallu i addasu a bod yn hyblyg yn hanfodol i oresgyn heriau ym myd busnes.

 

 

Dysgu mwy am Grŵp DCW.

 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page