Mae ysbrydoli, addysgu ac arfogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus wrth wraidd 4D Academy

Cafodd y darparwr hyfforddiant ym Mhont-y-clun ei ffurfio pan welodd y partneriaid busnes Mark Davies a Christopher Saunders yr angen am fath newydd o hyfforddiant i fusnesau. Ar ôl dod drwy'r pandemig yn gryfach, mae 4D Academy bellach yn edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous. 

Mae 4D Academy wedi cael cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

Yma, mae'r cyd-sylfaenydd Mark Davies yn rhannu ei daith fusnes, yn esbonio sut y gwnaethant oresgyn y rhwystrau a achoswyd gan y pandemig ac yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair i 4D Academy.

 

 

Dywedwch wrthym am 4D Academy
Mae stori 4D Academy yn mynd yn ôl i 2019 pan wnaeth Christopher a minnau nodi cyfle busnes inni ym maes hyfforddiant.

Mae fy nghefndir proffesiynol fel rheolwr iechyd a diogelwch, ac roeddwn i’n teimlo'n rhwystredig ynghylch pa mor anodd oedd hi i ddod o hyd i hyfforddiant o safon. Dyna sut y gwelsom fwlch yn y farchnad; roedd y ddau ohonom yn teimlo bod lle i gynnig rhywbeth llawer mwy ymarferol ac addas i'r diben.

Rydym wedi ein lleoli ym Mhont-y-clun, gyda phum aelod o staff ar hyn o bryd a nifer o swyddogion cyswllt. Rydym yn disgwyl dyblu'r tîm hwnnw yn y 12 mis nesaf wrth i ni dyfu. Mae'r busnes yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i ddarparu rhaglenni hyfforddi arbenigol amrywiol ledled y DU. Felly rydym yn gyffrous iawn am y dyfodol.

 

Beth yw eich adegau mwyaf balch ym myd busnes hyd yn hyn?
Rwy'n credu bod Christopher a minnau'n fwyaf balch o fod wedi gallu tyfu ein busnes, er gwaethaf y rhwystrau rydym wedi'u hwynebu yn ystod y pandemig. Mae'r cyfyngiadau a gyflwynwyd wedi bod yn anodd i ni, ond fe ddaethom drwyddo, ac rydym wedi gallu tyfu drwy'r cyfnod hwnnw hefyd. 

 

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes? 
Heb os, y rhwystr mwyaf arwyddocaol y mae'r busnes wedi'i oresgyn yw’r argyfwng COVID. Rwy'n siŵr bod hynny'n brofiad y mae llawer o gwmnïau yn ei rannu ar hyd a lled y wlad.

Roeddem yn gweithredu wyneb yn wyneb yn bennaf, ac roedd yn rhaid i hynny newid yn gyflym i fodel o bell wrth i gyfyngiadau’r pandemig ddechrau dod i rym.

 

Felly, roedd yn rhaid i ni ailffocysu a dod o hyd i ffyrdd eraill o ddarparu ein rhaglenni'n gyflym. Roedd yn rhaid i ni hefyd ddod o hyd i ddulliau newydd o farchnata yr hyn oedd gennym i’w gynnig i gwsmeriaid newydd drwy lwybrau llai traddodiadol gan fod cymaint o'n busnes wedi dod drwy atgyfeiriad a chysylltiadau wyneb yn wyneb.

Gwnaethom ganolbwyntio ar ddarparu ar-lein ac o bell, ac roedd hynny’n golygu y gallem sefydlu ein hunain drwy'r rhwydweithiau newydd hyn. Rydym hefyd wedi darganfod bod LinkedIn yn arf defnyddiol wrth roi’r gair ar led am yr hyn rydym yn ei wneud ac ennill busnes newydd. 

Rwy'n credu bod y pandemig wedi cyflwyno heriau enfawr i bob math o fusnesau. Ond, mae cymaint ohonom wedi defnyddio hyn fel cyfle i newid er gwell. Roeddem yn ei weld fel cyfle i fod yn fwy deinamig, ystwyth a meddwl yn wahanol.

 

 

Pe byddech yn ailddechrau, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol? 
Byddem wedi ffocysu'r busnes yn gynt, gan anelu at fod yn fwy rhagweithiol nag adweithiol. Tyfodd y busnes mor gyflym fel y byddai'n well gennym, wrth edrych yn ôl, pe baem wedi rhoi mwy o strwythur ar waith yn gynt. Ni chafodd pethau fel y wefan a'n presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol y sylw yr oeddent yn ei haeddu i ddechrau.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes? 
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi ein cefnogi gyda gwaith ysgrifennu tendrau a chanllawiau busnes cyffredinol. 

Mae hyn i gyd wedi bod yn help enfawr wrth inni sefydlu ein hunain. Roedd hefyd yn amhrisiadwy wrth inni wynebu'r materion y gwnaeth y pandemig eu taflu atom. 

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech yn eu rhoi i fusnesau newydd eraill

  • Yn gyntaf, peidiwch â bod ofn dechrau – mae methu yn rhan o'r broses o dyfu a gall rhoi cynnig ar rywbeth ddim ond eich gwneud yn fwy profiadol.
  • Parhewch i ddysgu a chwilio am gyfleoedd i fagu eich profiad ac ehangu eich sylfaen wybodaeth.
  • Canolbwyntiwch ar rywbeth rydych chi'n ei wneud yn dda ac arbenigo ynddo cyn ehangu – mae'n well gwneud un peth yn dda na sawl peth yn wael.

 

I ddysgu mwy am 4D Academy, ewch yma.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru


Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen tros Gymru a ariennir yn rhannol gan yr Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page