Mae’r blaenyrwyr llwythi o Gaerdydd, Freight Systems Express Wales (FSEW), wedi gosod archeb gyntaf y DU ar gyfer unedau tractor trydan trwm, fel rhan o ymrwymiad y cwmni i leihau ei allyriadau carbon 50% o fewn blwyddyn. Mae FSEW yn gwmni logisteg a blaenyrru llwythi rhyngwladol a leolir ar safle Freightliner yng Ngwynllŵg, Caerdydd. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi tua 76 o bobl, ac yn darparu gwasanaethau cludo llwythi i gleientiaid yn y DU, Ewrop a ledled y byd.

Gwelodd FSEW, y mae ei gleientiaid yn cynnwys Tesco, Hoover Candy a Ford, ei werthiannau’n cynyddu 25% i £15 miliwn yn 2020, ac mae'n rhagweld twf pellach o 33% yn ystod 2021. Yn unol â'r twf hwn, ehangodd y busnes ei dîm yng Nghaerdydd yn ddiweddar i wasanaethu portffolio cynyddol o gleientiaid byd-eang newydd.

Mae’r cwmni eisoes wedi ennill Gwobr Twf Cyflym Cymru a gwobr Cludwr Cydweithredol y Flwyddyn Tesco, ac mae ganddynt gynlluniau uchelgeisiol hefyd i ddatblygu'r ganolfan e-gludiant gyntaf yn Ewrop, a fydd yn helpu i hybu’r broses o newid i gerbydau carbon isel ar draws y diwydiant cludo llwythi masnachol.

 

L-R (gyda cherbyd trydan newydd DAF): Simon Griffin, Pennaeth Delwriaeth DAF Watts Truck & Van Andrew Padmore, Prif Weithredwr Egnida Geoff Tomlinson, Rheolwr Gyfarwyddwr FSEW
L-R (gyda cherbyd trydan newydd DAF): Simon Griffin, Pennaeth Delwriaeth DAF Watts Truck & Van Andrew Padmore, Prif Weithredwr Egnida Geoff Tomlinson, Rheolwr Gyfarwyddwr FSEW

 

Y cerbydau trydan DAF CF newydd mae FSEW wedi’u harchebu yw cam mawr cyntaf y cwmni tuag at newid holl fflyd ei fusnes cludo llwythi i gerbydau dim allyriadau. Mewn cydweithrediad ag arbenigwyr cerbydau trydan Egnida a DAF Trucks, cynhaliodd y bartneriaeth werthusiad a oedd yn para am fis cyfan ac yn ystyried pob agwedd ar fusnes FSEW, gan gynnwys dadansoddiad manwl o deithiau a chymharu'r opsiynau posibl ar gyfer cerbydau a gwefru, gan gynnwys cynnig cymorth parhaus.

Defnyddiodd Egnida y canlyniadau i greu model busnes carbon isel proffidiol ar gyfer FSEW, er mwyn cael y manteision mwyaf posibl o'u cerbydau trydan newydd a darparu gwasanaeth dim allyriadau – fel yr oedd niferoedd cynyddol o gwsmeriaid FSEW yn mynnu. Mae’r cwmni yn cael ei ysgogi gan awydd i ddatgarboneiddio, ac mae'r ddwy lori drydan DAF CF sydd bellach wedi cael eu harchebu yn rhan o gynllun uchelgeisiol FSEW i ddisodli dros 40 o gerbydau diesel â cherbydau carbon isel. Pan fydd y cwmni wedi dod i arfer â’r ddau gerbyd trydan hwn, mae FSEW wedi dweud y byddant yn cyflwyno deg cerbyd arall i leihau eu hallyriadau carbon dros 50% yn ystod y naw mis nesaf. Mae'r cwmni'n dweud mai ei nod yn y tymor hwy fydd cyflawni 'sero-net' mewn dwy flynedd a hanner.

Yn ogystal â gwneud ei fflyd ei hun yn wyrdd, mae'r cwmni'n bwriadu datblygu canolfan e-gludiant yng Nghaerdydd. Bydd y ganolfan yn cynnwys cyfleuster gwefru ar gyfer cerbydau cludiant carbon isel at ddefnydd pob cludwr llwythi a gweithredwr masnachol a threfol, gan gynnwys bysiau a lorïau sbwriel. Yn ogystal, byddai'r ganolfan e-gludiant yn cynnwys system storio arloesol i fanteisio i’r eithaf ar ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol, yn ogystal â chanolfan cynnal a chadw a chydosod newydd ar gyfer cerbydau carbon isel.

 

Dywedodd Geoff Tomlinson, Rheolwr Gyfarwyddwr FSEW:

"Fel y prif flaenyrwyr llwythi preifat yng Nghymru ac un o'r busnesau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, rydyn ni’n yn awyddus i chwarae rhan flaenllaw wrth sicrhau bod y diwydiant cludo llwythi’n mynd i'r afael ag allyriadau carbon.

"Dechreuodd ein taith ddwy flynedd a hanner yn ôl, ac mae pawb yn y busnes yn cyfrannu at y broses. Os bydd ein tryciau trydan newydd yn perfformio fel y dylen nhw – ac rydyn ni’n gwbl hyderus o hynny yn dilyn rhaglen werthuso drylwyr – yna hoffen ni archebu deg arall.

"Rydyn ni wedi cael cymorth gwerthfawr gan Lywodraeth Cymru i helpu i ariannu seilwaith gwefru cychwynnol. Bydd ein cynlluniau i ddatblygu'r ganolfan e-gludiant gyntaf yn Ewrop yn sicrhau bod nwyddau sy’n cael eu cludo i Gymru ar y rheilffyrdd yn gallu cyrraedd depos, cyflenwyr ac yn y pen draw cwsmeriaid gan ddefnyddio cerbydau carbon isel o ddechrau i ben y daith – mae hyn yn gam hanfodol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

"Mae ein cynlluniau'n dibynnu ar nodi lleoliad sy'n agos at y derfynell cludo llwythi ar y rheilffyrdd yng Ngwynllŵg, sydd â mynediad effeithlon i'r grid trydan a cheblau cysylltu. Rydyn ni’n yn cynnal trafodaethau agos â Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru i nodi safleoedd posibl, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i hybu’r newid hollbwysig hwn ar draws y sector cludiant masnachol.

"Fel perchennog busnes cludo nwyddau ar y ffyrdd, ac fel tad i ddau o blant bach, mae gen i gyfle enfawr, a rhwymedigaeth, i gael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd, ac rwy’n llawn gyffro ynghylch y posibilrwydd o arwain y newid i gerbydau dim allyriadau ym maes cludo nwyddau."

 

Mae FSEW wedi derbyn cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
 

Dysgu mwy am FSEW.com
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page