Wedi’i sefydlu gan TJ Amas o Nigeria, mae QuoteOnSite yn darparu cyfres unigryw o feddalwedd rheoli dyfynbrisiau yn y cwmwl. Mae’n caniatáu i reolwyr-berchnogion busnesau ddatblygu a chynnig dyfynbrisiau proffesiynol er mwyn tyfu eu busnes. I fusnesau bach a chanolig, a busnesau mwy, mae’r feddalwedd yn ei gwneud hi’n bosib rheoli timau sy’n rhan o’r broses gosod pris.

Er ei bod yn ddyddiau cynnar ar y busnes o hyd, mae wedi denu amrywiaeth o gleientiaid ac mae’n bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy ehangu a chyflogi staff newydd.

Mae’r cwmni wedi cael ei helpu i raddau helaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu i gwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

Yma, mae TJ Amas yn adrodd hanes QuoteOnSite, yn esbonio beth mae’r cwmni wedi’i wneud i oresgyn heriau, ac yn cynnig cyngor i entrepreneuriaid eraill.

 

Dywedwch wrthym ni am QuoteOnSite.
Rydyn ni’n fusnes ifanc ond rydyn ni wedi cyflawni cryn dipyn yn barod – ac mae gennym ni uchelgeisiau i gyflawni mwy o lawer.

Gair amdana’ i i ddechrau – symudodd fy nheulu i Abertawe o Nigeria pan oeddwn yn 17 oed er mwyn i mi allu gwneud fy astudiaethau Lefel A yma. Ni wyddwn hynny ar y pryd ond roedd hynny’n drobwynt hollbwysig, oherwydd dyma fan cychwyn a chartref fy musnes. Roeddwn i ar bigau’r drain eisiau dechrau gweithio ar ôl gorffen yn yr ysgol, felly ‘nes i ddysgu am raglennu a phensaernïaeth meddalwedd yn y gwaith gyda chwmni sydd wedi’i hen sefydlu yma yn Abertawe.

Wedyn fe wnes i ddechrau ymgynghori, a dechrau datblygu ap syml ar gyfer gosod prisiau am waith i bobl hunangyflogedig.

 

‘Nes i ac Elaine, fy ngwraig, benderfynu byddai modd troi’r syniad syml hwn yn fusnes gwych. Ond roedden ni’n gwybod bod angen cymorth arbenigol arnom ni, yn ogystal â buddsoddiad i wthio’r cwch i’r dŵr. Fe wnaethon ni oresgyn yr heriau cynnar hyn ac er ei bod yn ddyddiau cynnar arnom ni o hyd, mae gennym dîm o bedwar, rydyn ni wedi cael buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru ac angel buddsoddi, ac wedi ennill contractau gyda chwmnïau o bob cwr o’r byd – mae rhai ohonyn nhw’n cyflogi dros 400 o bobl.  

Mae’r hyn a ddechreuodd fel adnodd syml bellach wedi datblygu i gynnig amryw byd o adnoddau rheoli dyfynbrisiau – o gynhyrchu cynigion i lofnodi contractau digidol. Dydw i ddim yn gwneud gwaith ymgynghori mwyach. Erbyn hyn mae Elaine a minnau’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar y busnes. Mae gennym ni gyfnod cyffrous o’n blaen ac rydyn ni nawr yn canolbwyntio’n llwyr ar droi ein llwyddiant cynnar yn rhywbeth mwy byth.

 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?
Rydyn ni wedi cael cryn dipyn o lwyddiant hyd yma, er ei bod hi’n ddyddiau cymharol gynnar i ni. Ond rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi denu cleientiaid mawr. Mae hynny wedi bod yn brawf inni fod ein technoleg yn gweithio i amrywiaeth o gwsmeriaid.

Nid dim ond denu cleientiaid sydd wedi rhoi hyder inni yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Roedd sicrhau buddsoddiad gwerth £350,000 nid yn unig yn golygu bod gennym ni’r cyllid ar gyfer cam nesaf ein twf; roedd yn golygu bod gan eraill ffydd yn ein gweledigaeth hefyd. Roedd yn teimlo fel ein bod wedi cael pleidlais o ymddiriedaeth yn ein cynnig.

 

Hefyd roedd ein henwebiad fel un o’r 50 gorau o ran ymyrwyr fintech yn y DU gan Business Cloud yn fwy o gadarnhad byth ein bod yn gwneud argraff yn ein maes.

 

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes?
Roedd ein busnes yn dechrau dod yn fwy poblogaidd ac roedden ni newydd gyflogi dau aelod o staff gwerthu, mis cyn i gyfyngiadau symud COVID-19 gael eu cyhoeddi.

Cafodd yr argyfwng economaidd effaith drom arnom ni i ddechrau. Roedd y bobl a oedd yn ystyried defnyddio ein cynnyrch ni yn gweld eu harchebion a’u gwaith hwythau’n lleihau.

Mae QuoteOnSite yn wasanaeth sy’n cael ei ddefnyddio yng nghamau cynnar y cylch gwerthu, felly roedd yr effaith ddilynol hon yn anochel. Fe wnaethon ni benderfynu defnyddio’r amser i bwyso a mesur, a symud ymlaen.

 

Roedd ein safle yn Techhub Abertawe wedi cau dros gyfnod y cyfyngiadau symud, felly ar ôl pwyso a mesur ein dewisiadau, dechreuodd pob aelod o staff weithio gartref. Doedd gennym ni ddim dewis ond rhoi pawb ar ffyrlo, heblaw’r datblygwyr meddalwedd.

Ond roedden ni’n gyndyn o ystyried y peth yn argyfwng i’n busnes ac yn hytrach, roedden ni’n ei weld yn gyfle. Roedd yn golygu bod gennym ni’r amser i ganolbwyntio rhagor ar ddatblygu’r cynnyrch. Erbyn hyn mae’r staff wedi dechrau gweithio eto ac rydyn ni’n bwrw ymlaen gyda’r gwaith gwerthu. Mae costau’n dal yn ystyriaeth bwysig i ni, felly rydyn ni wedi penderfynu mabwysiadu model gweithio gartref am weddill y flwyddyn.

 

Rydyn ni wedi llwyddo i oroesi’r flwyddyn heb gyllid allanol, gan gynnwys grant cydnerthedd, oherwydd doedden ni ddim yn bodloni’r meini prawf. Un o fy ngwerthoedd craidd i, ac ein busnes, yw goresgyn rhwystrau ac ystyried heriau’n rhywbeth cadarnhaol, yn hytrach na negyddol. Pe baen ni wedi mynd ati yn 2020 mewn unrhyw ffordd arall, rwy’n credu y byddai ein sefyllfa’n dra gwahanol nawr.

Ar lefel fwy personol, dydw i ddim yn meddwl bod fy magwraeth yn Nigeria wedi fy rhwystro ym myd busnes. Wedi dweud hynny, rwy’n teimlo fel yr eithriad yn yr ystafell yn aml, ac rwyf yn meddwl tybed pam fy mod yn gweld cyn lleied o wynebau du a brown ym myd busnes yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni, fel gwlad, roi sylw i hyn.

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Byddem yn sicr yn gwario llai ar Google Ads yn y dyddiau cynnar ac yn treulio mwy o amser yn ymchwilio – siarad a gwrando ar gleientiaid – er mwyn deall eu marchnadoedd yn well. O edrych yn ôl, rwy’n meddwl y byddem ni wedi treulio mwy o amser yn ystyried pa fath o staff oedd ei angen arnom ni go iawn a deall sut i strwythuro swyddi er mwyn eu cyflawni orau, er mwyn i ni allu rheoli’r staff hynny’n fwy effeithiol.

 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi cymorth ac adnoddau hynod o ddefnyddiol i ni. Heb y rhaglen, byddai wedi bod yn anoddach o lawer sicrhau rhai o’r llwyddiannau mawr hynny ‘nes i sôn amdanyn nhw.

Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf wedi ein helpu i sicrhau buddsoddiadau, sydd wedi bod yn hollbwysig i’n twf a’n gallu i ddatblygu a darparu ein cynnyrch.

Rydyn ni hefyd wedi cael cymorth i ddatblygu ein hunaniaeth brand ar gyfer QuoteOnSite.

Mae cyflwyniad ein cynnyrch a’n busnes yn gysylltiedig â hynny hefyd. Drwy weithio gyda’r Rhaglen Cyflymu Twf, rydyn ni wedi gallu siapio ein llais a’r hyn rydyn ni’n ei ddweud wrth ein cwsmeriaid, a sut rydyn ni’n ei ddweud. Dydw i ddim yn meddwl ei bod hi’n bosib tanbrisio gwerth y pethau hyn i fusnes fel ein un ni. Rydyn ni’n adeiladu brand sy’n golygu bod personoliaeth, llais a chyflwyniad yn hollbwysig i’n twf a’n datblygiad.

Ac wrth gwrs, gan ein bod yn fusnes digidol, mae’r gwaith y mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi’i wneud gyda ni ar ein gwefan a’n presenoldeb digidol wedi bod yn ddefnyddiol dros ben.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni?

●     Ewch ati i siarad â’ch darpar gwsmeriaid i weld beth maen nhw wir ei eisiau, a dod i adnabod y farchnad.

●     Hyd yn oed os gallech chi gymryd rhan ym mhob sector, canolbwyntiwch ar ambell un i ddechrau.

●     Cadwch eich arian drwy beidio â chyflogi gormod o staff yn rhy gyflym.

●     Cymerwch gyngor. Peidiwch â bod ofn gwrando ar eraill.

●     Ewch ar drywydd rhywbeth fel Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, oherwydd byddwch chi’n gwybod bod gennych chi rywun yno i roi cymorth i chi ac i wrando arnoch chi.


 

Dysgu mwy am QuoteOnSite.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page