I Haitham Shamsan, mae ei fusnes yn cwmpasu popeth y mae'n teimlo’n angerddol amdano – dylunio, diwylliant a chyfrifoldeb.

Dyna yw hanfod ei frand ffasiwn newydd, Double Crossed – cwmni o Gaerdydd sydd am fynd ymhell. 

Mae Double Crossed wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r Rhaglen yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n awyddus i dyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae Haitham Shamsan yn mynd ati isod i roi cipolwg inni ar ei daith hyd yma ac ar yr hyn sy'n ei symbylu i lwyddo ym maes busnes. 

 

 

Wnewch chi roi ychydig o hanes Double Crossed inni?

Mae’n debyg mae’r hyn sy’n gwneud synnwyr yw imi sôn ychydig amdanaf fi fy hun yn gyntaf. Mae gennyf gefndir ym maes dylunio graffig, a hynny sydd wedi llywio’r busnes wrth iddo esblygu.

Fel dylunydd graffig, rwyf wedi defnyddio fy sgiliau a'm harbenigedd i greu brand dillad sy'n seiliedig ar hanes a gwaddol diwylliant y Dwyrain ac sydd wedyn yn cyfuno’r nodweddion hynny â ffasiwn modern, gorllewinol.

 

Rydym yn gweithio o Gaerdydd, ac rydym am fod yn wirioneddol fyd-eang, gan weithgynhyrchu'r cynhyrchion ym Mhortiwgal a'u rhoi at ei gilydd yma cyn eu hallforio i bedwar ban byd.

A minnau’n ddylunydd, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hunaniaeth brand, felly euthum ati i chwilio am ddillad a oedd yn cynrychioli gwerthoedd sy’n bwysig imi; gwerthoedd fel cynaliadwyedd a pharch at ddiwylliant. Yn anffodus, ychydig iawn o opsiynau oedd ar gael; mae llawer o frandiau'n tueddu i bwyso ar ddelwedd diwylliant trefol a dwyreiniol ond nid ydynt yn cynrychioli'r cymunedau hynny nac yn rhoi unrhyw beth yn ôl iddynt. Roeddwn am newid hynny.

Lansiais i Double Crossed er mwyn creu dillad modern sy'n ymgorffori ymdeimlad o dreftadaeth ac a fyddai hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl i gymunedau. Ac rydym yn mynd i wneud hynny drwy rannu’r elw a geir drwy NFTs (tocynnau anghyfnewidiadwy), drwy roddion elusennol a thrwy ymgyrchu a chefnogi mentrau gweithredu cadarnhaol. Gallwch weld ein hanes ar Instagram @designerhks a dilyn yr holl ddatblygiadau diweddaraf!

 

Pa bethau rydych chi’n fwyaf balch ohonynt hyd yn hyn?

Mae’n ddyddiau cynnar arnom fel busnes, ond pan aethom ati’n ddiweddar i dynnu lluniau ar gyfer y brand, buom yn gweithio gydag 16 o ddylanwadwyr a phum ffotograffydd. Daeth hynny â'r weledigaeth sydd gennyf ar gyfer Double Crossed yn fyw. Mae gweld y busnes yn datblygu yn rhywbeth rwy'n hynod falch ohono.

 

Pa heriau rydych chi wedi'u hwynebu mewn busnes?

Roedd y busnes yn wynebu sawl rhwystr, â COVID yn achosi oedi yn ein cadwyni cyflenwi. Wrth lwc, drwy gynllunio a pharatoi'n ofalus, llwyddais i oresgyn yr heriau hynny ac mae gennyf gynlluniau i dyfu'r busnes.

 

Pe byddech chi'n dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?

Mae dal yn ddyddiau cynnar arnom yn Double Crossed, ond rwy'n credu bod yr holl waith cynllunio cyn dechrau’r busnes yn golygu fy mod wedi bod mor barod â phosibl. Felly, yn yr ystyr hwnnw, nid wyf yn credu y gallwn neu y dylwn fod wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol. Y nod yw mwynhau'r daith! 

 

Sut mae cymorth o dan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes?

Rydym wedi cael cymorth arbennig o dda o dan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru – yn enwedig o ran cael cyngor ariannol a chymorth gyda chynllunio ariannol. Byddwn yn cael cymorth hefyd gyda chysylltiadau cyhoeddus wrth inni fynd ati i hyrwyddo cydweithrediad rhwng diwylliannau drwy ein brand ffasiwn modern. Mae'r gefnogaeth honno wedi bod yn hynod bwysig oherwydd ein bod yn fusnes ifanc. Fel entrepreneur sydd newydd ddechrau ar y daith o arwain cwmni, rwyf wedi bod yn awyddus i fanteisio ar yr holl arbenigedd y gallaf ddod o hyd iddo! Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn hollbwysig o ran fy rhoi mewn cysylltiad ag arbenigwyr a'm helpu i gael fy nhraed oddi tanaf.

 

Pa gyngor ac arweiniad byddech chi'n eu rhoi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni?

  • Yn gyntaf, dylech ganolbwyntio ar eich brandio – mae’ch delwedd yn gweithio drwy’r amser, a thrwy’ch brand y bydd y byd yn eich adnabod.
  • Gwnewch yn siŵr bod y gynulleidfa yn ganolog i'r brand hwnnw – eich cynulleidfa yw sylfaen eich busnes.

 

Ddysgu mwy am Double Crossed.

 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen tros Gymru a ariennir yn rhannol gan yr Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page