Yn gynyddol, mae arweinwyr busnes yn deall bod iechyd meddwl gweithlu yn hanfodol i les busnes.

I Ron Davison, rheolwr gyfarwyddwr Gamlins Law yn y gogledd, mae dealltwriaeth reddfol o'r ffaith honno, a welwyd o safbwynt personol iawn, wedi gweld y cwmni'n datblygu cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl i'w staff mewn swyddfeydd ar draws y gogledd, sy'n arwain y diwydiant.

Cefnogwyd Gamlins Law drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r AGP yn darparu cefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

 

Yma, mae Ron Davison yn rhannu ei stori bersonol ac yn esbonio sut mae wedi gosod iechyd meddwl staff yn flaenllaw ac yn ganolog i Gamlins Law yn fwriadol.

 

 

Yn gyntaf, dywedwch wrthym am Gamlins Law?
Rydym yn gwmni cyfreithiol blaenllaw sydd wedi'i leoli ledled y gogledd ac yn ymrwymo i ddarparu cyngor rhagorol, fforddiadwy i gleientiaid corfforaethol a phreifat. Oherwydd bod iaith a diwylliant Cymru yn bwysig iawn i ni, rydym yn cynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog ac ystod lawn o wasanaethau cyfreithiol.

Ers i mi ddod yn Rheolwr Gyfarwyddwr, rwyf wedi canolbwyntio ar fwy na dim ond y materion gweithredol o ddydd i ddydd yn ein cwmni; rwyf wedi ei gwneud hi'n flaenoriaeth i feithrin a gwella iechyd meddwl ein staff. Fel arweinydd cwmni cyfreithiol, bydden i'n ffŵl i gredu nad yw'r 100 person yn ein tîm ni yn ei chael hi'n anodd ar adegau i ymdopi â heriau - nid yn unig y rheiny sy'n gysylltiedig ag ymarfer y gyfraith ond mewn bywyd bob dydd.

 

Yn y bôn, rwy'n credu, yn yr amgylchedd cywir, y gellir grymuso pobl i ymdopi â gofynion o'r fath mewn ffyrdd iachach. Pan fydd pobl yn cael help i adeiladu gwytnwch (gyda'r gefnogaeth gywir), maent yn dod yn fwyfwy abl i lywio amseroedd anodd ac yn y pen draw gallant ffynnu ym mhob rhan o'u bywyd. 

Creu'r amodau i hynny ddigwydd yw, rwy'n credu, yr allwedd i lwyddiant busnes. Felly rwyf wedi ymrwymo i fy nhîm i fod yn agored ac yn onest bob amser a'u trin yn barchus. Ni allaf anwybyddu'r ffaith fod pobl yn wynebu heriau gyda'u hiechyd meddwl. Felly gyda'n gilydd, rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd sy'n hyrwyddo lles unigol a'n llwyddiant ar y cyd.

 

Beth yw eich adegau mwyaf balch mewn busnes hyd yma?
Rwy'n falch ein bod wedi gallu newid ein hamgylchedd gwaith a chreu amgylchedd positif, i feithrin ein staff. Rydym wedi gweithio'n galed i wneud Gamlins yn ofod diogel sydd ddim yn tynnu sylw at bwysigrwydd lles meddyliol. Rydyn ni'n mynd ati i annog pobl i siarad yn agored ac yn onest, ac rydym yn ymdrechu i ddarparu'r gefnogaeth a'r help priodol i aelodau'r tîm sydd ei angen, beth bynnag fo'u swydd a'u cyfnod yn y swydd. 

 

Pa heriau ydych chi wedi eu hwynebu ym myd busnes?
Pan ymunais â Gamlins nid oedd yr amgylchedd gwaith yn agored ac nid oedd cefnogaeth i’w gael.  Yn hytrach, gallai deimlo'n ymosodol ac yn gystadleuol ar adegau. Cafodd gorbryder ac iselder eu trin fel geiriau brwnt, bron yn gyfystyr â gwendid. Fodd bynnag, roeddwn i'n gwybod pe bawn i'n cael y cyfle i arwain y busnes hwn, y byddwn eisiau delio â'r materion hyn a thrin pobl yn ystyriol.

Roeddwn yn hyderus y byddai fy agwedd yn llwyddo ar sail fy mhrofiad yn y gweithle. Cyn i mi ddod yn Rheolwr Gyfarwyddwr, roedd adborth cadarnhaol yn hanfodol i sut roeddwn i'n teimlo amdana i fy hun a fy swydd. Pe bawn i'n cael cefnogaeth, canmoliaeth neu hyd yn oed feirniadaeth adeiladol, byddwn i'n teimlo'n 7 troedfedd o daldra ac yn falch o'm cwmni, fy nhîm ac – yn bwysicaf oll - fi fy hun. O ganlyniad, byddai fy ngwaith yn gwella, a byddwn yn fwy effeithlon a chynhyrchiol. Roeddwn i'n hapusach, a daeth gwaith yn fwy pleserus. Roedd y budd i'r cwmni ac i minnau yn hollol amlwg.

 

Roedd fy mhrofiad fy hun gyda iechyd meddwl wedi creu cyfnod anodd i mi yn y gwaith. Fe wnaeth y profiad hwnnw lywio fy awydd i helpu eraill drwy roi iechyd meddwl yng nghanol ein diwylliant corfforaethol pe bawn i fyth yn cael cyfle.

Daeth y cyfle hwnnw yn 2015 pan ddeuthum yn Rheolwr Gyfarwyddwr Gamlins Law. Fy nod oedd creu amgylchedd diogel, oedd yn meithrin staff ac yn rheoli risg a chreu'r amodau i'n pobl ffynnu.

 

Nid oes ateb hawdd i'r her hon – ond efallai mai'r peth pwysicaf fel arweinydd yw bod yn agos-atoch ac yn onest am eich gwendidau. Mae fy nrws bob amser yn agored i bwy bynnag sydd eisiau dod am sgwrs. Rwy'n credu bod bod yn agored wedi helpu teulu ehangach Gamlins Law. O ganlyniad, rydym wedi cymryd sawl cam cadarnhaol a bellach yn darparu ystod llawer mwy cynhwysfawr o gefnogaeth i'n staff.

Er enghraifft, rydym yn cynnig cwnsela a bellach yn rhoi mynediad i bawb at Everymind, sy'n cynnig gweminarau rhyngweithiol, ap lles a gweithdai hyfforddiant. Mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu aelodau'r tîm i berchnogi eu hiechyd meddwl, yn enwedig yn ystod y pandemig. Mae hefyd wedi helpu i sbarduno ymwybyddiaeth ac addysg drwy'r cwmni. 

 

Mae gennym galendr cymdeithasol bywiog ac rydym yn annog ein staff i ymwneud â mentrau cymunedol sy'n bwysig iddynt gyda'n cefnogaeth lawn. Rydym hefyd yn mesur iechyd meddwl yn ein tîm i ddilyn tueddiadau a mynd i'r afael â materion wrth iddynt godi. 

Mae gennym bedwar aelod staff cymorth cyntaf iechyd meddwl cymwys, gan gynnwys mi fy hun, ac yn ddiweddar mae ein dosbarthiadau pilates newydd wedi bod yn hynod boblogaidd. 

 

Yr hyn sy'n bwysig i mi yw bod yn agored, gonestrwydd ac addewid y byddwn yn sefyll yn erbyn sefyllfaoedd sy’n cael eu derbyn yn y sector cyfreithiol a chreu cwmni cyfreithiol yr ydym i gyd yn wirioneddol falch o'i gynrychioli. Rwy'n falch o helpu nifer o staff i ymdopi ag amseroedd anodd yn eu bywydau, a gallaf weld y gwahaniaeth mae arweinydd cefnogol yn ei wneud i bobl ar eu hisaf. 

Rydym yn monitro trosiant staff ac rydym yn falch iawn bod ein ffigurau cadw yn parhau i wella. Mae dyddiau salwch hefyd yn cael eu monitro'n agos, ac rydym yn parhau i weld canlyniadau positif yn y maes hwn.

 

Bu yn daith hir ac yn un mor werth chweil. Rwy'n credu'n gryf pe bai busnesau yn y sector cyfreithiol yn cymryd agwedd fwy goleuedig, rhagweithiol tuag at les staff, y byddem yn gweld llai o staff yn dioddef straen a throsiant staff is. Yn y pen draw, byddai gennym bobl hapusach ar ein cyflogres – ac onid yw hynny'n werth yr ymdrech?

 

Petaech chi'n dechrau eto, beth fyddet chi'n ei wneud yn wahanol?
Rydym wedi bod yn agored i newid ers i mi ddod yn Rheolwr Gyfarwyddwr, ac rwy'n credu gyda'r didwylledd hwnnw daw cydnabyddiaeth y gallwn adolygu yn barhaus y penderfyniadau a wnaed yn y gorffennol. Mae wastad lle i wella, ac nid yw newid yn cyfaddef methiant – mae’n golygu addasu i wybodaeth newydd a gwybodaeth sy'n dod i'r amlwg. Gellir ailedrych ar y systemau a'r polisïau sydd wedi bod yn sail i arferion gwaith a diwylliant busnes bob amser, eu hailgynllunio neu hyd yn oed eu dileu. Mae hynny'n ffordd aeddfed a hunanystyriol o weithio, sydd yn bwysig iawn yn fy marn i wrth wneud penderfyniadau busnes.

 

Sut mae cefnogaeth gan AGP Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi darparu ystod eang o gefnogaeth yn ein taith, gyda phob un ohonynt wedi bod o gymorth mawr yn ein datblygiad. Mae wedi bod yn fuddiol i gael cyngor gan arbenigwyr busnes profiadol ym mhob maes gan ein bod wedi canolbwyntio ar drawsnewid ein diwylliant. 

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi'n ei roi i fusnesau eraill ddechrau?

• Rhowch staff yn ganolog i’ch gweithrediadau.  Maent yn greiddiol i bopeth rydych chi'n ei wneud, felly dylai eu lles fod yn ganolog i'ch ffordd o feddwl.

• Byddwch y newid rydych am ei weld. Os ydych chi eisiau gweld newid, gallwch wneud iddo ddigwydd. Mae arwain cwmni cyfreithiol, neu unrhyw fusnes o ran hynny, yn fraint – gwnewch iddo gyfri. 

• Dewch â'ch staff gyda chi. Os ydych chi eisiau newid diwylliant y gweithle, mae'n rhaid i chi ddod â phobl gyda chi. Allwch chi ddim gorfodi newid ar bobl yn effeithiol o'r top.

 

I ddysgu mwy am Gamlins Law, ewch yma.

 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru


 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen tros Gymru a ariennir yn rhannol gan yr Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r Lywodraeth Cymruv.

Share this page

Print this page