Mae delio â chanser yn brofiad hynod drawmatig i gleifion ac i’w teuluoedd. Ac mae’n brofiad a oedd wedi cyffwrdd sylfaenydd y busnes nesaf sy’n cael sylw yn ein cyfres o flogiau ar y cwmnïau sydd wedi cael cefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Dechreuodd Jo Riley CancerPal ar ôl i’w mam gael diagnosis o ganser. Wrth iddi ymchwilio i faterion ar-lein roedd hi’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i atebion i gwestiynau penodol, ac yn anoddach fyth dod o hyd i gynnyrch a fyddai’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â symptomau’r canser. 

Yma, mae Jo Riley yn adrodd stori CancerPal ac yn cynghori pobl eraill sy’n meddwl cychwyn busnes.

 

Dywedwch wrthym am CancerPal.

Mae CancerPal yn llwyfan ar-lein sy’n darparu cyngor a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau’r rheini sydd wedi cael diagnosis o ganser. 

Mae ein gwefan yn gwerthu amrywiaeth o flychau cymorth canser y gall pobl eu rhoi i’w hanwyliaid. Mae’r rhain yn cynnwys blychau Cryfder Mewnol sy’n dal detholiad o eitemau sydd wedi cael eu dewis yn ofalus ar gyfer pan fydd rhywun yn cael eu diagnosis cychwynnol. Rydyn ni hefyd yn cynnig Blychau Cemotherapi a Radiotherapi, sy’n cynnwys cynnyrch cefnogol fel melysion sinsir ar gyfer salwch, balmau ar gyfer croen sych ac aloe ar gyfer llosgiadau.

Ar ôl i mam gael diagnosis o ganser, fe wnes i sylweddoli pa mor anodd yw delio â diagnosis o ganser. Er enghraifft, dim ond ar ôl treulio oriau’n darllen fforymau cymorth wnes i allu dod o hyd i ba fath o siampŵ fyddai’n addas i rywun sy’n colli eu gwallt.

Fe wnes i greu “blwch canser” i mam, ac roedd yn cynnwys eitemau i’w chefnogi hi yn ogystal ag eitemau bach iddi eu cadw. Roedd yn help enfawr iddi, o ran cefnogaeth ymarferol, ond hefyd oherwydd y meddwl a’r gofal a oedd y tu ôl i’r blwch.

Yn anffodus, bu mam farw, ac ar ôl dychwelyd i yrfa gorfforaethol, fe wnes i benderfynu fy mod i eisiau cychwyn busnes a fyddai’n gwneud gwahaniaeth.

Gan gofio pa mor anodd oedd dod o hyd i gyngor a chefnogaeth i ffrindiau ac i deuluoedd y rheini sydd wedi cael canser, fe wnes i benderfynu cychwyn CancerPal, er mwyn darparu adnodd ar-lein a marchnad i gefnogi ac i ofalu am eu hanwyliaid.

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?

Rydw i mor falch o’r adborth rwyf wedi’i gael gan aelodau teulu cleifion canser. I ddechrau, roedd ffrindiau yn prynu o’r safle ac yn rhoi adborth i mi fod y blychau yn gwneud byd o wahaniaeth.  Ond wrth i’r busnes dyfu, roeddwn i’n dechrau cael archebion o bob rhan o’r DU, ac yn ddiweddar rwyf wedi cael archebion o UDA, ac rwy’n allforio blychau i gwsmeriaid ar draws y dŵr. Mae gwybod bod fy syniad busnes yn helpu pobl yn y DU a thramor yn fy ngwneud i mor falch.

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?

Fe wnes i adeiladu’r busnes o ddim, gan gynnwys y wefan a’i chynnwys. Wrth edrych yn ôl, byddwn i wedi gofyn am gefnogaeth gan raglenni fel Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn gynt o lawer, oherwydd byddwn i wedi gallu adeiladu’r busnes yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Fe gefais gefnogaeth drwy Town Square Spaces, ac fe wnaeth hynny fy arwain at gofrestru ar gyfer Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Megis dechrau mae’r busnes o hyd, ar ôl i ni lansio’n feddal ym mis Tachwedd 2019. 

Os bydd y busnes yn parhau i dyfu yn unol â’r bwriad, rwy’n gobeithio cyflogi rhywun amser llawn yn ystod y 12 mis nesaf a byddaf yn ceisio gwneud i’r wefan edrych a gweithio’n well.

 

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni?

● Gofynnwch am help yn gynnar. Mae cofrestru ar raglen sydd ag arbenigwyr a chynghorwyr dibynadwy, fel Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn gallu bod yn amhrisiadwy.

● Dewch o hyd i gymuned. Mae cael cefnogaeth cymuned o sylfaenwyr busnes eraill yn gallu eich helpu i drafod syniadau, ac yn ffordd dda o gael adborth a chefnogaeth sy’n arwain at dwf cyflymach.

● Gosodwch nodau realistig. Mae hyn yn eich helpu i symud ymlaen. Mae’n iawn anelu’n uchel, ond os na fyddwch chi’n gosod targedau rhesymol, gallwch chi deimlo nad ydych chi’n llwyddo, hyd yn oed pan fyddwch chi.

 

Dysgu mwy am CancerPal.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page