Mae awtomatiaeth yn rhywbeth sy’n fwyfwy amlwg yn yr economi fodern, a bydd hyd yn oed yn fwy pwysig dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod. 

Bydd busnesau sydd ar flaen y gad ac ym merw’r chwyldro awtomeiddio yn hollbwysig i ffyniant Cymru yn y dyfodol. Mae Nightingale HQ yn un o’r cwmnïau hynny. Mae’r cwmni’n defnyddio’i arbenigedd i helpu eraill i addasu i fyd newydd cyffrous awtomeiddio, nad yw’n ddim i’w ofni, yn ôl sylfaenydd y cwmni, Steph Locke.

 

Rhowch ychydig o hanes Nightingale HQ inni.
Ym maes gwasanaethau ymgynghori mae fy nghefndir. Roeddwn i’n rhedeg busnes yn barod pan sylweddolais i fod cyfle imi integreiddio’r wybodaeth sydd gennyf am wyddor data i faes meddalwedd awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial, a fyddai ar gael i helpu busnesau a sefydliadau mewn unrhyw le. Felly, sefydlais i Nightingale HQ − y nod, yn y pen draw, oedd helpu busnesau i baratoi ar gyfer byd awtomeiddio, sy’n prysur dyfu, a’u dysgu sut gall deallusrwydd artiffisial a thechnoleg fforddiadwy sydd o fewn cyrraedd hwylus eu helpu i dyfu ac i gynhyrchu ar raddfa ehangach − yn y bôn, gwneud mwy gan ddefnyddio llai. 

Rydyn ni’n helpu cwmnïau i ddefnyddio gwyddor data a deallusrwydd artiffisial i baratoi eu busnesau ar gyfer y dyfodol, ac i’w gwneud yn fwy abl i addasu yn wyneb yr effaith y bydd awtomeiddio’n ei chael ar ddiwydiannau ledled y byd. Mae’n waith diddorol iawn, a dw i’n teimlo ein bod ar flaen y gad o ran lle mae byd busnes, a’n cymdeithas, yn mynd ar hyn o bryd. 

 

 

Beth yr ydych yn fwyaf balch ohono ym maes busnes hyd yn hyn?

Heblaw am lansio’r busnes yn y lle cyntaf, yr hyn dw i’n fwyaf balch ohono yw cael grant o £50,000 oddi wrth Lywodraeth y DU i adeiladu cyfres o offer clyfar i helpu busnesau yn y DU.

Mae’r cyllid wedi’n helpu ni i dyfu ac i gael mwy o waith. Mae wedi rhoi hwb aruthrol inni a sylfaen gadarn wrth inni symud ymlaen ac edrych ar yr opsiynau sydd gennym i dyfu.

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Byddwn i’n trïo bod yn llai ceidwadol y tro nesa’ ac yn mynd ati i dyfu’r busnes hyd yn oed yn gynt. I ddechrau, es i ati i gysylltu â chwmnïau llai, oherwydd fy mod yn meddwl mai nhw fyddai’n cael y gwerth mwyaf o fabwysiadu deallusrwydd artiffisial a thechnoleg glyfar. Dysgais i’n gyflym mai’r mentrau mwy o faint oedd yn chwilio am gymorth i bontio i fyd awtomatiaeth.

Pe byddwn i wedi anelu’n uwch yn gynt, dw i’n credu y byddai Nightingale HQ wedi tyfu llawer yn fwy cyflym yn gynt.

 

 

Sut mae cymorth dan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes chi?
Dw i’n credu ei bod yn hanfodol i fusnes gael cymorth yn ei ddyddiau cynnar. Mae arbenigedd o’r tu allan yn hollbwysig er mwyn helpu syniadau da i flodeuo ac i ffynnu. Dw i ddim yn credu y gallwch chi byth fod yn rhy falch fel entrepreneur pan ddaw’n fater o dderbyn cymorth oddi wrth rywun o’r tu allan i’ch cylch personol a’ch cylch busnes chi.   

Roedden ni’n sylweddoli bod angen y cymorth hwnnw arnon ni, ac roedden ni’n awyddus i’w gael. Manteision ni ar raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru drwy Raglen Sbarduno Town Square. Rhoddodd y rhaglen ddealltwriaeth ehangach inni o sut i greu strategaeth twf uchel, a gwelson ni fod cael manteisio ar wybodaeth hyfforddwyr a chynghorwyr profiadol a oedd ar flaen y gad yn eu meysydd nhw yn hollbwysig i’n llwyddiant. 

 

Pa gyngor ac arweiniad byddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy’n dechrau arni?

● Peidiwch â bod yn rhy geidwadol – byddwch yn synhwyrol ond peidiwch â dal eich hun yn ôl os oes cyfle i dyfu’n gyflym. 

● Ewch ati i werthu, gwerthu, gwerthu – gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich gweld a pheidiwch â bod ag ofn cysylltu â’r rheini a allai gweld gwerth yn eich gwasanaethau neu’ch cynnyrch.

● Gwnewch yn siŵr fod pobl dda o’ch cwmpas – ewch ati i chwilio am bobl sydd â doniau nad oes gennych chi. Defnyddio’r doniau hynny yn eich tîm yw’r ffordd orau o dyfu.

 

 

Dysgu mwy am  Nightingale HQ.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page