Mae gan Gymru gynnyrch fferm rhagorol, sy’n enwog ledled y byd am ei safon. 

Mae cynnyrch llaeth yn elfen hanfodol o dirwedd amaethyddol Cymru.  Un cwmni sydd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar hynny, gan gynnig cynnyrch llaeth i amrywiol gwsmeriaid, yw Totally Welsh. Dyma gwmni Mark Hunter, sefydlodd ei fusnes yn 1990, ac mae’r brand wedi ei adeiladu ar safon eu cynnyrch a safon eu gwasanaeth. 

Yma mae John Horsman, o Totally Welsh, yn trafod y busnes ac yn cynnig rhai cynghorion i fusnesau eraill sydd am sicrhau twf uchelgeisiol. 

 

Dywedwch wrthym am Totally Welsh.
Rwy’n credu mai’r lle gorau i ddechrau yw gyda’n cynnyrch, gan mai dyna ydym yn y bôn.   Caiff ein cynnyrch llaeth ei gyrchu’n uniongyrchol o’r fferm.  Mae’n llaeth o Gymru o wartheg o Gymru, a chaiff ei botelu yma yng Nghymru hefyd.  Rydym yn falch o hynny, ac mae’n bwynt gwerthu pwysig inni.   

Rydym yn defnyddio ffermydd o fewn radiws o 40 milltir o’n canolfan botelu yn Hwlffordd, gan ddefnyddio ffermwyr yn Sir Benfro, Ceredigion a Chaerfyrddin.  Mae’r tir pori bras yn rhoi cynnyrch o safon uchel ac rydym mewn lleoliad da yng Ngorllewin Cymru i fanteisio ar hyn gyda’n cyfleuserau potelu a’r enw brand adnabyddus. 
 

Trwy gadw pethau’n lleol a lleihau milltiroedd bwyd, rydym yn cynnig llaeth sy’n fwy ffres i’n defnyddwyr ac sy’n well i’r amgylchedd hefyd.  Rydym yn cyflenwi cleientiaid y sector cyhoeddus megis ysbytai ac ysgolion, yn ogystal â manwerthwyr annibynnol. 

Oddeutu 18 mis yn ôl prynwyd adran danfon llaeth at garreg y drws y cwmni Milk and More (Muller) yng Nghymru – sy’n cael ei alw bellach yn Totally Welsh Direct ac sy’n gwerthu cynnyrch amrywiol arall.  Rydym yn awyddus i gynifer â phosibl o’r cynnyrch hwn fod o Gymru.  Yn ystod y cyfnod anodd ac ansicr hwn, mae’r gwasanaeth wedi bod yn werthfawr iawn i nifer -  yn enwedig i’r rhai hynny sydd wedi methu dod allan o’u cartrefi.    
 

Mae’r llwyddiant rydym wedi’i gael wedi golygu ein bod wedi ehangu’r cynhyrchu.  Er enghraifft, rydym wedi gosod llinell botelu fodern sydd wedi cynyddu ein capasiti i gynhyrchu cannoedd o filoedd o litrau ychwanegol o laeth yr wythnos.  Rydym wedi paratoi ar gyfer twf, ac wedi ennill contractau cyflenwi mawr o dan y brand Totally Welsh.

Ond nid contractau mawr yw ein twf i gyd, rydym hefyd wedi cael llwyddiant mawr gyda’n gwasanaeth ar garreg y drws ar yr un pryd.  Rydym wedi bod yn awyddus i ostwng ein hôl troed amgylcheddol, felly rydym yn defnyddio poteli gwydr yn ein gwasanaeth i gartrefi.  Mae ailgylchu ac ailddefnyddio yn ethos sydd bellach yn ganolog i’r cwmni. 

 

 

Beth oedd y cyfnod oeddech chi’n fwyaf balch ohono yn y busnes hyd yma?
Mae hyn yn anodd i fusnes fel ein un ni, gyda chymaint o’n hanes i’w ddathlu.  Ond yn ddiweddar, roedd parhau i gynhyrchu wrth inni osod y system awtomatig yn llwyddiant mawr ac yn deyrnged i waith ein tîm yma.

Pan brynwyd yr hyn sydd bellach yn Totally Welsh Direct, roeddem yn gwybod nad oedd y brand y gallai fod.  Manteisiwyd ar ein gwybodaeth o Gymru a’r cwsmeriaid rydyn ni’n eu gwasanaethu, ac rwy’n teimlo ei fod wedi datblygu (ac yn parhau i ddatblygu!) i’r busnes y gwyddom y gallai fod. 

 

Bu’n rhaid inni newid ein busnes yn gyflym pan ddechreuodd pandemig COVID-19, ac rydym wedi elwa o fod yn hyblyg a deinamig ac wedi llwyddo i weld twf yn ystod cyfnod pan nad oedd bob cwmni yn gallu dweud hynny. 

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Cwestiwn anodd arall! Rwy’n credu ein bod wedi gwneud penderfyniadau anodd ond sydd yn y pen draw wedi bod o fudd i’r busnes.   

Mae prynu busnes newydd fel Totally Welsh Direct wedi bod yn dasg enfawr ond yn un yr ydym yn falch iawn ohono, ac a fydd rwy’n gwybod o fudd i’r cwmni wrth inni symud ymlaen

 

 

Sut mae’r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes? 

Rydym wedi derbyn cefnogaeth enfawr gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ers ymuno â’r rhaglen.  Rydym wedi derbyn cymorth drwy amrywiol feysydd, megis brandio, marchnata a chyhoeddusrwydd drwy ein cylchlythyr newydd.  Roedd hynny o fudd arbennig wrth inni lansio Totally Welsh Direct.

Cawsom hefyd arbenigedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i’n helpu i gynllunio ein storfa oer, sydd wedi gwella effeithiolrwyd. 

Rydym hefyd wedi derbyn cymorth ein strategaeth recriwtio a’n cynllunio ar gyfer olyniaeth ar gyfer staff uwch. 

Bu’n adnodd gwerthfawr iawn ac mae’n brawf y gall pob busnes – mawr, bach, newydd neu wedi hen sefydlu – elwa o arbenigedd o’r tu allan. 

 

Pa gyngor a chanllawiau fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau?

● Recriwtio yn dda a sicrhau bod staff yn frwdfrydig ac yn rhan o’ch prosiect drwy asesu a gwerthuso parhaus. 

 

● Mae Totally Welsh wedi dod yn frand y mae pobl yn ymddiried ynddo, peidiwch â diystyru pa mor bwerus y gall eich brand fod wrth ei ddatblygu. 

 

● Beth bynnag rydych yn ei wneud, boed mewn sector mwy traddodiadol fel ein un ni neu sector fwy newydd, ceisiwch gynnwys hyblygrwydd a sicrhau bod y cwmni yn ddeinamig, gan na fyddwch yn gwybod pryd y bydd angen ichi newid neu symud i gyfeiriad gwahanol. 

Dysgu mwy am Totally Welsh.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page