Mae gan yr entrepreneur Richard Lee syniad mawr, ac mae'n benderfynol o’i droi'n fenter ar-lein lwyddiannus. Mae Richard wedi sefydlu Venyu, llwyfan archebu ar-lein sy'n anelu at fod y brif frand yn ei sector – gan symleiddio'r broses i bobl chwilio, archebu a chynllunio digwyddiadau.

Mae Venyu wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. Mae AGP yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sydd am dyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Yma, mae Richard Lee yn adrodd ei stori hyd yn hyn ac yn rhoi cyngor i eraill sy'n ystyried dechrau a thyfu eu busnes eu hunain.


 

Richard Lee
Richard Lee

 

Dywedwch wrthym am Venyu.
Ble sydd orau i ddechrau? Gyda fy uchelgais siŵr o fod – rwyf am i'r busnes hwn fod yn gyfwerth ag Airbnb ar gyfer y diwydiant digwyddiadau. Beth yw'r pwynt o beidio â chael dyheadau mawr? Rwyf wir yn credu yn fy nghwmni a'r weledigaeth sydd gennyf ar ei gyfer.

Rydym yn darparu platfform sy'n caniatáu i ddefnyddwyr archebu lleoliadau a gwasanaethau digwyddiadau, drwy system rheoli archebion hawdd ar gyfer y lleoliadau a'r gwasanaethau digwyddiadau. Mae'n berffaith i unigolion sydd am gynllunio partïon, digwyddiadau gwaith a dathliadau. Ac rydym yn dal i fod yn y cyfnod datblygu cyn y byddwn yn ei lansio yn nes ymlaen wrth i ni groesawu mwy o ddefnyddwyr.

 

Dechreuodd stori Venyu pan oeddwn yn gweithio fel cyfrifydd i Deloitte ac yn archwilio rhai o fusnesau mwyaf y byd. Fel un o aelodau iau'r tîm, roeddwn yn aml yn gweld y byddai'n syrthio arnaf i gynllunio gwaith a digwyddiadau cymdeithasol.

A darganfyddais, gyda chymaint o bobl i’w hystyried, fod cynllunio digwyddiad yn llawer o waith ac ymdrech ac yn aml yn cynnwys oriau o sgrolio drwy Google, ffonio lleoliadau posibl, a cheisio llunio dyddiadau a chostau. Rhaid bod yna ffordd well o wneud hyn i gyd!

Roeddwn am greu platfform a fyddai’n symleiddio’r broses i bobl sydd heb y rhwydwaith sydd gan gwmnïau digwyddiadau mawr ac sy’n dangos lleoliadau sydd am hyrwyddo eu bod ar gael. Felly, ym mis Medi 2019, dechreuais weithio ar Venyu, ac rwyf wedi bod wrthi ers hynny. Mae wedi bod yn broses gyffrous iawn, gyda sawl uchafbwynt ac isafbwynt ar hyd y ffordd. Rwy’n frwd am y syniad a’i wneud y llwyddiant y gall fod.

 

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono yn eich busnes hyd yma?
Rhaid imi ddweud, croesawu’r defnyddwyr cyntaf oedd yr hyn yr oeddwn yn fwyaf balch ohono. Mae’r platfform bellach yn tyfu, ac rwy’n gwybod bod digon o gerrig milltir eraill o’n blaenau – roedd gweld y lleoliadau cyntaf yn cofrestru yn cydnabod bod y cysyniad nid yn unig yn hyfyw ond bod galw amdano. Mae wedi bod yn amser mor gyffrous i mi fel entrepreneur – gweld ffrwyth fy llafur a darganfod marchnad i’m cynnyrch.

 

Pa heriau y mae eich busnes wedi’u hwynebu?
Mae Covid wedi cyflwyno anawsterau enfawr i’n busnes pan oeddwn yn dechrau sefydlu’r brand. Achosodd darfu mawr am resymau amlwg. Mae’r diwydiant digwyddiadau wedi teimlo effaith y pandemig yn fwy na sawl sector arall.

Yn y bôn, roedd wedi achosi oedi yn fy nghadwyn gyflenwi ac effeithio ar yr union gynulleidfa yr oeddwn am ei defnyddio. I fod yn onest, roedd cadw’r busnes i fynd drwy’r sawl cyfnod clo a’r holl gyfyngiadau yn anodd. Ond, gyda phethau’n llacio, mae cyfle i helpu lleoliadau sydd yn awr yn ailddechrau, ac rydym yn gallu helpu pobl sy’n trefnu digwyddiadau wyneb yn wyneb am y tro cyntaf.

Felly, do, buodd anawsterau y llynedd yn realiti go iawn i ni. Ond, rydym bellach yn edrych yn ffyddiog at y dyfodol, ac mae gennyf ymdeimlad newydd o egni ar gyfer y busnes. Rwyf wir yn edrych ymlaen at y dyfodol!

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?
Roedd bod yn entrepreneur ar ben fu hun o'r dechrau'n anodd, mae'n rhaid i mi gyfaddef. Roedd yn anodd gorfod treulio cymaint o amser ar y busnes gyda rhwydwaith cyfyngedig. Ond rydw i bellach mewn sefyllfa lle gallaf dyfu'r tîm. Pe bawn i'n dechrau eto, efallai y byddwn yn edrych ar botensial sefydlu'r cwmni gydag unigolyn o'r un anian a fyddai'n gallu rhannu'r llwyth gwaith, y cysylltiadau a'r pwysau eraill sy'n dod law yn llaw â rhedeg cwmni a chael gwynt o dan adain y busnes.

 

Sut mae cymorth Rhaglen AGP Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rwyf wedi cael cymorth gan Syniadau Mawr Cymru, yn ogystal â rhaglen Cyflymu Twf TownSq.

Mae Rhaglen AGP Busnes Cymru wedi darparu digon o gyngor a chymorth busnes. Er enghraifft, diolch i'r rhaglen, rwyf wedi cael cymorth technolegol a datblygu gwe gan ddylunwyr gwe o Gaerffili, Big Lemon. Mae'r lefel hon o gymorth wedi bod yn amhrisiadwy o ran cael fy mhlatfform i sefyllfa lle gall dyfu. Byddwn yn annog busnesau newydd eraill i geisio cymorth Rhaglen AGP Busnes Cymru gan ei fod yn rhaglen mor wych sy'n eich cysylltu â'r arbenigwyr sydd eu hangen arnoch ar yr adeg iawn.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi'n eu rhoi i fusnesau eraill sy'n dechrau?
 

● Dod o hyd i rywun i weithio gydag ef yn gynnar i helpu i ledaenu'r llwyth gwaith a darparu mwy o gysylltiadau a chyfleoedd rhwydweithio.

● Siaradwch â'ch cynulleidfa darged yn gynnar. Arnyn nhw y byddwch chi'n canolbwyntio wrth i chi barhau i ddatblygu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando ar eu hanghenion ac yn siarad eu hiaith.

 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).
 

Share this page

Print this page