Mae'r ffordd y cyflwynir dysgu yn esblygu'n gyson. Mae'r esblygiad hwn wedi cyflymu yn y degawdau diwethaf ochr yn ochr â datblygiadau technolegol, sydd wedi arwain at bosibiliadau niferus o ran datblygu adnoddau addysgol.

Mae'r cwmni technoleg addysgol CDSM Interactive Solutions o Abertawe wedi bod yn flaenllaw iawn o ran y newid hwnnw, gan gefnogi busnes a'r llywodraeth i ddarparu addysgu a dysgu digidol i ystod eang o ddefnyddwyr.

Mae CDSM Interactive Solutions wedi cael ei gefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r Rhaglen yn rhoi cymorth wedi'i dargedu i gwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Yma, mae Joe Diamond, Rheolwr Marchnata Digidol CDSM, yn adrodd y stori y tu ôl i CDSM ac yn dweud sut mae'r cwmni wedi goresgyn rhwystrau ar eu taith.

 



Dywedwch wrthym am CDSM Interactive Solutions.
Dechreuodd y cyfan ym 1998 pan welodd Dan a Cathy Sivak, y ddau ddarlithydd coleg ar y pryd, botensial technolegau digidol newydd i ddarparu dysgu o bell. O ganlyniad i deimlo eu bod wedi'u cyfyngu gan yr amgylchedd dysgu traddodiadol, dechreuwyd adeiladu tîm o arbenigwyr technoleg i wireddu eu gweledigaeth. O'r fan hon, ganwyd CDSM.

Mae CDSM wedi cael effaith ar y farchnad technoleg dysgu ac mae wedi datblygu sylfaen gleientiaid ar draws y sectorau addysg, gofal iechyd a chorfforaethol. Mae ein busnes yn trawsnewid sut mae sefydliadau'n datblygu ac yn cyflwyno dysgu. Rydym yn creu canlyniadau gwych, ac mae yr effaith a grëwn yn creu argraff ar gleientiaid.

Mae gennym 52 o weithwyr, ac rydym yn tyfu'n barhaus – mae gennym aelodau newydd o'r tîm yn ymuno yn ystod y misoedd nesaf.

Mae sawl cam yn hanes CDSM.

Yn ein degawd cyntaf, roedd ein syniadau arloesol o flaen eu hamser – fel ein porth rhwydweithio cymdeithasol arobryn Technoleg Cymru 2003 ar gyfer Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Roedd hwn, yn ei hanfod, yn fersiwn o Facebook cyn i Facebook hyd yn oed fodoli!

Yng nghanol y 2000au, cafodd llwyfan dysgu cyntaf CDSM, My Learning Space, ei adeiladu ar gyfer sawl awdurdod lleol yn y DU.

Erbyn diwedd y ddegawd, dechreuwyd gweithio gyda rhai cwsmeriaid mawr yn y sector masnachol, yn fwyaf nodedig Honda Motors Europe. Buom yn gweithio gyda Honda am bum mlynedd lwyddiannus, a daeth i ben gyda ni yn ennill gwobr Technoleg Dysgu yn 2014 ar gyfer y rhaglen ddysgu Gwerthiant a Gwasanaeth Ar-lein Ewropeaidd a gynlluniwyd gennym. Cyflwynodd y rhaglen hon sgiliau a gwybodaeth newydd hanfodol i 10,000 o weithwyr Honda ledled Ewrop ac mae'n parhau i fod yn rhywbeth rydym yn hynod falch ohono.

Yn 2013, rhyddhawyd y fersiwn gyntaf o system rheoli dysgu gwbl newydd o'r enw Thinqi. Roedd y datblygiad hwn yn newid pethau i ni. Roedd yn dechnoleg newydd, ddeinamig, effeithlon ac ymatebol a oedd yn galluogi trawsnewid sefydliadol ac addysgol.

Yna, yn 2014, enillon ni'r hawl i gyflenwi a chyflwyno Llwyfan Dysgu Hwb Llywodraeth Cymru ar gyfer pob un o 1,500 o ysgolion Cymru. Roedd y gwaith hwn yn llwyddiant ysgubol, a rydym newydd sicrhau contract pum mlynedd newydd gyda Llywodraeth Cymru. Bydd hyn nawr yn ein galluogi i barhau i ddatblygu a chyflwyno Hwb ar gyfer ysgolion ledled Cymru.

Dair blynedd yn ôl, enillwyd yr hawl gennym i gyflenwi a chyflwyno ein llwyfan dysgu i Weinyddiaeth Addysg yr Aifft ar gyfer tua 50,000 o ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae'n ddigon posibl mai dyma'r ffordd fwyaf cynhwysfawr o weithredu system rheoli dysgu yn genedlaethol unrhyw le yn y byd. Rydym bellach yn falch o gefnogi mwy nag 20 miliwn o fyfyrwyr ac athrawon sydd â mynediad at Thinqi.com.

Mae ein llwyddiant yn parhau i ddenu staff talentog sy’n hoffi ein diwylliant cadarnhaol, galluog a'n hangerdd dros ddarparu atebion arloesol i broblemau ein cleientiaid.

 


Beth ydych mwyaf balch ohono mewn busnes hyd yn hyn?
Gweld y gwerth y mae Thinqi.com yn ei roi i gyflawniad a chyrhaeddiad addysgol  pobl ifanc a phlant. Yng Nghymru (Hwb) a'r Aifft (EKB), rydym yn parhau i ddarparu addysg ddigidol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc.

Er gwaethaf heriau pandemig COVID-19, mae Thinqi.com yn gallu ateb y galw enfawr. Gall myfyrwyr a ddaeth i ddibynnu ar ein technoleg barhau â'u datblygiad personol ac academaidd, ble bynnag y bônt. Mae hynny'n wych, gwybod bod ein technoleg yn cael effaith mor sylweddol ar gynifer o fywydau.

Ein cenhadaeth erioed fu gwella cyfleoedd bywyd pobl ifanc drwy ddarparu mynediad cyfartal at gyfleoedd a phrofiadau dysgu o ansawdd uchel.

 

Pa heriau ydych chi wedi'u hwynebu mewn busnes?
Fel sy'n wir am lawer o fusnesau, mae'r pandemig wedi creu ei heriau ei hun. Rydym wedi gorfod addasu'n gyflym drwy newid y ffordd rydym yn gweithio a newid sut rydym yn cyfathrebu'n fewnol a chyda'n cleientiaid.

Er gwaethaf hyn, rydym wedi llwyddo i oresgyn yr anawsterau hyn ac wedi dod drwy'r argyfwng yn fwy cadarn ac yn barod i'w ehangu ymhellach.

 

Petaech yn dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?
Ganed y busnes hwn mewn ymateb i rwystredigaethau ein sylfaenwyr yn eu swyddi. Gyda safon y cymorth busnes sydd ar gael yng Nghymru nawr, gall strategaethau ymadael o yrfaoedd ac entrepreneuriaeth amser llawn fod yn llawer llai dyrys a 'blêr' na phan oedd ein sylfaenwyr yn dechrau.

Y dyddiau hyn, drwy raglenni fel y Rhaglen Cyflymu Twf, mae cymorth bellach ar gael i bobl sydd â chynllun busnes clir, gweledigaeth ac angerdd. Mae'n golygu y gall entrepreneuriaid ganolbwyntio ar adeiladu eu busnes gyda chymorth arbenigol, gan eu galluogi i gyrraedd cerrig milltir allweddol a sicrhau llwyddiant yn gyflymach.

Byddai wedi bod yn wych pe bai cefnogaeth fel hyn wedi bod ar gael pan oeddem ni yn dechrau!

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn hanfodol yn ein cefnogi wrth i ni ymgymryd â staff newydd ac ehangu'r busnes. Cawsom hefyd ddefnyddio Twf Swyddi Cymru, a oedd yn ein galluogi i gyflogi pobl ifanc dalentog sy'n dechrau ar eu gyrfaoedd technoleg.

Mae cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn fuddiol iawn, gan roi'r gefnogaeth a'r anogaeth gywir i ni dyfu a chreu swyddi.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi'n eu rhoi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

● Darllenwch y cyfarwyddiadau! Cael mentor sydd â phrofiad o sefydlu a rhedeg busnes tebyg.

● Datblygu'r cynllun yn gyntaf. Nid yw'n costio fawr ddim ond gall arbed ffortiwn i chi yn y pen draw. Sicrhewch eich bod yn gwneud cymaint o ymchwil ag y gallwch.

● Manteisio ar y cymorth sydd ar gael drwy gyllid, arbenigedd a thechnoleg Llywodraeth Cymru.

● Peidiwch ag ofni dyled. Mae cyfraddau llog yn isel, a cyhyd ag y bo'r cynllun yn cynnwys hyn, nid yw dyled yn ddim i'w ofni.

● Yn olaf, peidiwch â disgwyl cysgu llawer!


 

Dysgu mwy am Thinqi.com
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page