Mae’r farchnad diodydd crefft yn un sy’n datblygu’n gyflym.  Caiff pob mathau o ddiodydd eu cynhyrchu gan fragwyr a distyllwyr gydag awydd I ddarparu diodydd o safon gan ganolbwyntio ar gynnyrch brodorol, arloesi a blas. 

Mae In The Welsh Wind, a sefydlwyd gan Alex Jungmayr ac Ellen Wakelam, yn manteisio ar boblogrwydd gin, gan gynhyrchu gwirodydd gyda brand arbennig I ddwsinau o gleientiaid. 

Yma, mae Ellen Wakelam yn egluro stori y cwmni ac yn datgelu cynghorion ar gyfer entrepreneuriaid eraill. 

 

Dywedwch wrthym am In The Welsh Wind.
Dechreuodd ein stori pan y bu inni gyfarfod, ond nid wyf yn credu bod yr un ohonom yn ystyried y byddem yn mynd ar daith fusnes anhygoel gyda’n gilydd, wedi’I ysbrydoli gan daith wych ledled Cymru ar droed. 

Bu inni gyfarfod yn Llangrannog. Roeddwn yn byw yno, ac roedd rhieni Alex wedi symud I’r pentref yn ddiweddar.  Ond ni wnaethom aros am hir gan symud I Loegr gyda’n gilydd cyn inni ddod yn ôl I orllewin Cymru.  Dyma sylweddoli mai dyma ble yr oeddem am fyw, a ble yr ydym yn perthyn iddo. 

 

Er ein bod yn gwybod ein bod am fod gyda’n gilydd, nid oeddem yn siŵr beth yr oeddem am ei wneud.  Felly aethom I gerdded o amgylch Cymru am dri mis.  Roedd yn brofiad a newidiodd fywydau y ddau ohonom.  Yn nhawelwch a llonyddwch yr antur hwnnw, cryfhaodd ein hymrwymiad I’n gilydd, ac roeddem yn gwybod ein bod am greu bywyd a busnes a fyddai’n ein cadw ar arfordir Cymru.  Y cwestiwn bellach oedd beth?

Flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach ar daith i’r Alban, daethom ar draws ddistyllfeydd gin crefft yr Ucheldiroedd.  Daethom yn ôl yn benderfynol o greu distyllfa Gymreig unigryw. 
 

Rydym wedi creu busnes yn seiliedig ar y delfrydau yr ydym yn parhau i’w dilyn.  Mae wedi arwain at greu cwmni sy’n gallu darparu cymorth technegol, brandio a marchnata, datblygu blasau, distyllu, a photelu a labelu â llaw.  Daw cleientiaid atom gyda syniad gan adael gyda cynnyrch sy’n barod am y farchnad.  

Rydym bellach yn cynhyrchu 30 o wirodydd wedi’u brandio’n arbennig – yn eu plith gin Dinbych y Pysgod, ac rydym hefyd yn cynhyrchu Declaration Gin Michael Vaughan, cyn-gricedwr Lloegr, sy’n boblogaidd iawn. 

 

Daw pobl i’r ddistyllfa hefyd i greu eu potel gin eu hunain yn un o’r ddistyllbeiriau bach copr pwrpasol sydd gennym yn ein labordy gin. 

Rydym hefyd yn lansio ‘steil bersonol’, gan ddod â phopeth rydym wedi’i ddysgu i ddatblygu ein gin ein hunain, fydd yn ein barn ni yn gynnyrch neilltuol. 

 

Rydym bellach yn gwneud pethau cyffrous iawn gyda’n cwmni.  Rydym wedi prynu y cwmni Eccentric Gin ac wedi symud y cynhyrchu o Gaerffili i Orllewin Cymru.  Mae’r cynnyrch wedi’i ail-frandio ac i gael ei ail-lansio yn fuan. 

Ond nid dyna’r cyfan!  Nid ydym yn cyfyngu ein hunain i gin, gan ein bod bellach wedi dechrau meddwl am wisgi.   Rydym am gynhyrchu wisgi sy’n hollol Gymreig, ac nid ydym yn credu bod hyn wedi’i wneud o’r blaen.  Nid yn unig byddwn yn defnyddio barlys wedi’i dyfu yng Nghymru, ond bydd pob cam o’r broses yn digwydd yng Nghymru – gan gynnwys y bragu. 

 

Ers yr argyfwng COVID-19, nid dim ond cynhyrchu diodydd o safon sydd wedi’i wneud gennym.  Roedd yn amlwg ein bod mewn sefyllfa ddelfrydol i gynhyrchu hylif diheintio dwylo ar fformiwla Sefydliad Iechyd y Byd.  Rydym wedi cynhyrchu bron 10,000 litr sydd wedi mynd i helpu’r rhai mwyaf bregus a gweithwyr allweddol.  Rydym wedi cefnogi canolfannau meddygon, wardiau ysbytai, RLNI, Gwylwyr y Glannau, yr heddlu, cartrefi gofal, fferyllfeydd – mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd. 

Mae hyn i gyda yn bell iawn o ble y dechreuom – mewn hen sied wartheg gyda benthyciad o £25,000.  Roeddem yn rhy fawr i’n cartref cyntaf yn weddol fuan a chawsom y lês ar y Gogerddan Arms yn Nhan y Groes, i’r gogledd o Aberteifi, ym mis Mawrth 2019.

 

Mae gennym bellach bedwar aelod staff llawn-amser, gan gynnwys ni’n dau, ond rydym yn y broses o ddatblygu cynllun prentisiaeth a phecyn profiad gwaith.  Rydym am gynnig cyfleoedd ar gyfer uwch-sgilio mewn maes ble y gallai gwaith parhaol gyda sgiliau fod yn anodd i ddod o hyd iddo.

 

 

Beth ydych yn fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yma? 

Sefydlwyd y Welsh Wind Distillery ym mis Ionawr 2018, mewn hen sied wartheg gyda benthyciad o £25,000 i ddechrau busnes.

Wedi ail-wneud y sied wartheg, roedd yn rhy fach yn fuan iawn, ac ym mis Mawrth 2019 roedd yn bosibl inni gael lês gyda’r opsiwn o brynu y Gogerddan Arms ar yr A487 ar ffordd yr arfordir rhwng Aberystwyth a Hwlffordd.  Mae’n lle delfrydol. 

Er mwyn prynu ac adnewyddu, crëwyd cyfle gennym i fenthyca, gan wahodd buddsoddiad gan deulu a ffrindiau y ddistyllfa yn gyfnewid am ei ddychwelyd 100% dros gyfnod amhenodol yn seiliedig ar ganran yr elw.  Bu hyn yn bobologaidd iawn, a chodwyd buddsoddiad sylweddol. 

Cafwyd benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru fel bod modd parhau gydya’r adenwyddu, y gweddill yn ddibynnol ar gyrraedd targedau perfformiad dros gyfnod y cytunwyd arno.  Drwy gyrraedd y targedau hynny, llwyddwyd i gael gweddill y benthyciad ddiwedd Mawrth 2020. 

Roedd y ddwy fenter ariannol yma’n golygu y gallem ddefnyddio’r opsiwn o brynu Gogerddan Arms a chael cartref ar gyfer ein busnes.  Roedd hyn nid yn unig yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ond yn hynod gyffrous inni! 

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol? 

Pe byddem wedi cael mynediad at wybodaeth benodol o fewn y diwydiant diodydd ar yr ochr gyfreithiol, HMRC a thollau byddem wedi osgoi rhai o’r camgymeriadau bychain a wnaethpwyd gennym ar y cychwyn.  Ond rydym yn defnyddio’r wybodaeth honno i lunio gwasanaeth newydd i gwsmeriaid, gan roi’r wybodaeth iddynt nad oedd gennym ni. 

 

 

Sut mae’r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Rydym wedi cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru mewn amrywiol feysydd, ac maent wedi bod o fudd mawr i’n datblygiad a’n twf cyflym. 

Rydym wedi derbyn cynllun busnes manwl a chymorth ariannol, gyda mynediad at arbenigwyr ariannol ac Adnoddau Dynol gyda chontractau gwaith.  Rydym hefyd wedi elwa o ddeiagnosteg marchnata a brandio. 

Mae mewnbwn ein rheolwr cysylltiadau wedi ei werthfawrogi’n fawr bob tro ac wedi bod yn allweddol i dderbyn y cymorth sy’n iawn ar gyfer ein twf. 

Rydym wedi bod i nifer o ddosbarthiadau meistr gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ac wedi dod yn ôl bob tro gyda gwybodaeth newydd a brwdfrydedd i wella ein busnes.  Rydym hefyd wedi bod ar nifer o gyrsiau y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau. 

 

Pa gyngor a chanllawiau eraill fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau? 

● Cynnal gwaith ymchwil a gofyn i gynifer o bobl â phosibl am eich cynllun er mwyn cael adborth. 

● Gwneud yn siŵr bod eich llygaid a’ch clustiau ar agor i bopeth. 

● Dim ond gyda gwyleidd-dra y gallwch ddod o hyd i’r bobl iawn i sicrhau bod eich menter yn llwyddo.  

 

Dysgu mwy am In The Welsh Wind.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page