Heb os golff yw un o'r chwaraeon mwyaf heriol yn y byd, gan estyn y gallu i ganolbwyntio a sgili i'r eithaf  Mae'r awydd i lwyddo a gwella yn ysgogydd cyson i lawer o golffwyr, boed yn chwaraewyr proffesiynol ar binacl eu gêm neu amaturiaid yn eu clybiau lleol.

Mae sylfaenydd Dr Golf, Zach Gould, wedi’i leoli ym Mhenarth, a chymaint roedd yn uniaethu ag awydd pobl i wella eu gêm ac i wella eu hiechyd, nes iddo sefydlu cwmni i helpu cynifer o golffwyr ag y bo modd. Er nad yw wedi gwireddu ei uchelgais i chwarae golf ar y lefel uchaf, a chwarae ochr yn ochr â goreuon y byd, mae'n gobeithio y gall ei fusnes helpu eraill i gyflawni eu potensial – neu efallai gwneud eu gêm ychydig yn well – ac yn fwy pleserus ar yr un pryd.

Mae Dr Golf wedi derbyn cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae Rhaglen Cyflymu Twf yn darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

Guy Dean a Zach Gould
Guy Dean a Zach Gould

 

Yma mae Zach Gould yn egluro ei syniad ac yn disgrifio ei daith fusnes.

 

Dywedwch wrthym am Dr Golf.
Rwy’n dwlu ar golff. Dw i'n frwd dros y gêm, ac roeddwn i wastad am chwarae golff yn broffesiynol a chwarae yn y prif dwrnameintiau fel yr Open a Chwpan Ryder.

Dyma'r brwdfrydedd sydd wedi gyrru fy musnes. Rydyn ni’n gweithredu fel clwb hamdden ar-lein, gan ddarparu hyfforddiant ar-lein o safon uchel i golffwyr elît ac amatur. Mae ein holl hyfforddiant yn cael ei ddarparu o bell – ac mae’n cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr, hyfforddwyr, clybiau, prifysgolion, siroedd a chyrff llywodraethu cenedlaethol drwy eu rhaglenni achrededig. Rydyn ni’n defnyddio technoleg ryngweithiol, gan wella hyfforddiant i ddefnyddwyr a gwella eu gêm hefyd.

Roeddwn i bob amser yn teimlo, yn ystod fy nhaith bersonol fel golffiwr, nad oeddwn i’n cyflawni fy mhotensial llawn. Roedd gwylio fy nghymheiriaid, y rhai roeddwn i wedi dysgu'r gêm gyda nhw, yn symud ymlaen, a minnau heb gyrraedd yr un lefel â nhw yn destun rhwystredigaeth imi.  Maes o law, sylweddolais i nad oeddwn i erioed wedi cael mynediad at yr un lefel o hyfforddiant, yn enwedig o ran cryfder a chyflyru ar gyfer golff. Felly, penderfynais i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw.

Pan oeddwn yn 21 oed, es i yn ôl i'r ysgol ac yn y pen draw i'r brifysgol lle gwnes i PhD mewn cryfder a chyflyru ar gyfer golff. Rwy'n credu mai dyma'r adeg y sylweddolais i faint o angen oedd am fynediad ehangach i hyfforddiant corfforol sy'n gysylltiedig â golff.

Sefydlais i Dr Golf Global yn 2018, gyda fy mhartner busnes, Guy, i ddarparu hyfforddiant o'r radd flaenaf ar gyfer golffwyr ar bob lefel – ble bynnag yn y byd maen nhw'n byw

 

Beth yw eich adeg fwyaf balch ym myd busnes hyd yn hyn?
Rwy'n credu mai rhoi’r cysyniad ar waith fu fy moment fwyaf balch. Gadewais i swydd llawn amser fel darlithydd prifysgol i ddilyn fy mreuddwyd – rwyf mor falch o weld y busnes yn ffynnu a nifer ein cwsmeriaid yn tyfu.

Mae gwneud rhywbeth rwy'n dwlu arno a chael gyrfa mewn gêm rwyf mor frwd drosto yn rhoi llawer o foddhad.

 

Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes?
Mae golffwyr yn tueddu i fabwysiadu technoleg newydd yn hwyr – felly roedd cyrraedd cwsmeriaid a chlybiau a'u perswadio i wylio a rhannu fideo yn anodd ar y dechrau. Ond mae argyfwng COVID wedi gorfodi'r rhai sy'n chwarae'r gêm a'r rhai sy'n gysylltiedig â'r gêm i ystyried cymorth ar-lein – a dysgu sut i’w ddefnyddio’n gyflym. Mae clybiau wedi ceisio parhau i roi gwerth i'w haelodau, ac mae mwy a mwy o bobl yn dod yn gyfarwydd â thechnoleg o bell a dysgu ar-lein. Felly, yn y ffordd honno, credaf fod y pandemig wedi ein helpu ac wedi gyrru'r brosesu o newid i'r model hwn o hyfforddi o bell, a all helpu cynifer o chwaraewyr, yn fy marn i.

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Byddwn i'n rheoli fy nisgwyliadau ychydig yn well.
Roeddwn i’n euog o deimlo rhwystredigaeth oherwydd y diffyg diddordeb ar y dechrau. Roeddwn i'n awyddus, ac roedd fy mrwdfrydedd (rhywbeth rwyf wedi’i sianelu'n gadarnhaol wrth imi ddatblygu'r busnes) yn golygu fy mod yn mynnu llwyddiant ar unwaith. Mae amynedd yn hollbwysig yn y dyddiau cynnar hynny.

Byddai dealltwriaeth o’r broses o sefydlu busnes a'r angen i fod yn hyblyg wedi gwneud y cynllunio'n haws.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Cofrestrais i gyda Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, gan chwilio am y cymorth a'r hyfforddiant yr oedd eu hangen arnon ni wrth imi fentro i fyd entrepreneuriaeth – byd llawn cyffro ond un sy’n gallu bod yn heriol.

Ers hynny, rwyf wedi cael llawer o gymorth, ac mae'r arbenigedd a roddwyd gan y Rhaglen Cyflymu Twf wedi fy helpu i ddatblygu cyflwyniad cryf, gan baratoi’r cwmni ar gyfer buddsoddiadau. Rydyn ni hefyd wedi cael ein cyflwyno i nifer o fuddsoddwyr, ac mae'r mentora rwyf wedi'i dderbyn wedi bod yn amhrisiadwy wrth baratoi ar gyfer hyn.

Alla i ddim argymell Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn ddigon cryf i rywun sy'n awyddus i dyfu busnes fel yr oeddwn i.

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi'n eu rhoi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

●     Rheolwch eich meddylfryd – rheoli eich disgwyliadau a gwybod y bydd yn cymryd amser i gyflawni eich bwriadau.

●     Ceisiwch wybodaeth gan y rhai sy'n chwarae ar y lefel uchaf.

●     Byddwch yn barod am fethiannau – mae methu yn bwysig; dyma sut rydych chi'n tyfu, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn dysgu oddi wrth fethiannau ac yn addasu.

●     Mwynhewch! Mae dechrau a thyfu busnes yn anodd, felly mae'n rhaid iddo fod mewn maes rydych chi'n ei fwynhau – fel arall, a yw'n werth chweil?
 

 

Dysgu mwy am Dr Golf.com
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page