Mae dau o gleientiaid Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi cipio Gwobrau uchel eu bri y Frenhines.

Sefydlwyd y gwobrau gyntaf yn 1965, ac maen nhw’n dathlu llwyddiant busnesau cyffrous ac arloesol sy’n arwain y ffordd gyda’u cynhyrchion a gwasanaethau blaengar, yn datblygu rhaglenni symudedd cymdeithasol effeithiol neu’n dangos eu hymrwymiad i arferion datblygu cynaliadwy rhagorol.  

Eleni mae 220 o fusnesau yn y DU wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniadau at fasnach ryngwladol, arloesi, datblygu cynaliadwy a hyrwyddo cyfleoedd drwy symudedd  cymdeithasol. Mae wyth o’r cwmnïau hyn yng Nghymru, ac mae dau ohonyn nhw’n gleientiaid y Rhaglen Cyflymu Twf – Ruth Lee o Gorwen a CPR Global Tech o Abertawe.

 

 

Lleolir Ruth Lee yng Nghorwen ac maen nhw’n gwneud manicins hyfforddi i ddarparu anafedigion realistig ar gyfer hyfforddiant achub a diogelwch. Dechreuodd y sylfaenydd, Ruth Lee, gynhyrchu’r manicins hyfforddi yn y 1980 pan ofynnodd ffrind y teulu a oedd yn gweithio i Wasanaeth Tân Glannau Mersi a allai drwsio un o hen fanicins y frigâd a wnaed o sachlieiniau hesian a hen hosanau. Gwelodd Ruth y cyfle i greu rhywbeth gwell, ac arweiniodd hyn at fanicin hyfforddi cyntaf Ruth Lee.

Mae’r busnes bellach yn cyflogi 30 o bobl ac mae wedi mynd yn ei flaen i fod yn un o arweinwyr y byd wrth ddylunio a chynhyrchu manicins hyfforddi ar gyfer diwydiannau megis y gwasanaethau brys, y lluoedd arfog, achubwyr bywydau, y sector morol ac iechyd a gofal cymdeithasol. Mae 70% o’r holl gynhyrchion yn cael eu hallforio, ac mae’r ffigur hwn yn cynyddu bob blwyddyn. Ar hyn o bryd mae Ruth Lee Ltd yn gwerthu i dros 50 gwlad, drwy rwydwaith o fwy na 40 o ddosbarthwyr, ac mae wedi anfon manicins i bob cyfandir ar y blaned. 

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Ruth Lee, Paul McDonnell: "Mae derbyn y newyddion hyn yn ystod yr adeg anodd hon yn destun llawer o bleser a balchder inni. 

"Mae ein llwyddiant allforio wedi’i adeiladu ar sylfeini cryf o ran ansawdd uchel a gwasanaeth i gwsmeriaid – mae ein cwsmeriaid rhyngwladol yn ein hadnabod ni ac yn ffyddiog y byddwn ni’n cyflenwi’r cynhyrchion gorau posibl ar gyfer hyfforddiant achub, diogelwch a chodi a chario.

"Rydyn ni’n gweithio gyda rhwydwaith gwych o ddosbarthwyr ledled y byd i gyflenwi manicins i sefydliadau sydd wedi ymrwymo i wella eu safonau diogelwch a hyfforddiant. Rhaid inni ddiolch iddyn nhw am eu hymrwymiad i hyfforddiant.

"Ond yn bwysicach holl, rhaid imi ddiolch i’n tîm rhagorol yma yng Nghorwen. Dw i’n falch o waith caled ac ymrwymiad pawb – dyma sydd wedi arwain at lwyddiant Ruth Lee Ltd heddiw.

"Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi derbyn un o’r acolâdau busnes uchaf yn y wlad, a byddwn ni’n parhau i weithio i ddangos bod Cymru yn chwarae rhan allweddol mewn masnach ryngwladol.”

 

 

Mae CPR Global Tech Ltd wedi cael ei gydnabod unwaith eto am ei ragoriaeth mewn Masnach Ryngwladol, ar ôl ennill yr un wobr uchel ei bri yn 2018. Cafodd CPR Global Tech ei sefydlu yn 2010 i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol o alwadau niwsans. Mae’r cwmni yn cynhyrchu amrediad o ddyfeisiau blocio galwadau pwrpasol sy’n plygio i mewn i ffonau llinell dir ac yn galluogi’r defnyddiwr i ddod â galwadau niwsans a galwadau twyllodrus i ben a’u blocio’n barhaol.

Wrth i alwadau niwsans gynyddu yn broblem fyd-eang, mae CPR wedi ymuno â marchnadoedd tramor fel UDA, Awstralia a gwledydd ledled Ewrop.

Dywedodd Andrew Sandbrook, Prif Swyddogol Gweithredol Global Tech:

“Roedd cael ein cydnabod yn 2018 am ein masnachu byd-eang yn wych. Mae cael ein cydnabod unwaith eto eleni yn fraint enfawr. Rydyn ni’n falch iawn ac yn llawn cyffro wrth dderbyn cymeradwyaeth mor uchel ei pharch – am yr ail dro. Mae’n dyst i’r holl waith caled rydyn ni wedi’i wneud fel cwmni dros yr wyth mlynedd diwethaf i fynd i’r afael â galwadau niwsans a galwadau twyllodrus.

“Ni fydd y broblem o alwadau niwsans yn diflannu, a byddwn ni’n parhau i weithio’n ddiflin i amddiffyn y rheini sy’n eu derbyn yn rheolaidd, yn enwedig y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.”

Dywedodd Richard Morris o’r Rhaglen Cyflymu Twf:

“Mae Gwobr y Frenhines yn cydnabod y gwaith rhagorol ac arloesol mae Ruth Lee a CPR Global Tech wedi’i wneud. Gan weithio gyda’r Rhaglen Cyflymu Twf, mae’r cwmnïau hyn wedi llwyddo i gynyddu eu hallforion a datblygu eu busnes tramor. Mae helpu cwmnïau fel y rhain yn rhoi busnesau Cymru ar flaen y gad mewn marchnadoedd rhyngwladol. Mae gan y ddau gwmni ddyfodol cyffrous ac rydyn ni’n gobeithio parhau i’w cefnogi wrth iddyn nhw dyfu.”

 

Dysgu mwy am Ruth Lee.

Dysgu mwy am CPR Global Tech.

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page