Mae cwmni technegol o Abertawe wedi ymuno â’r Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe i ymchwilio sut gallai dyfeisiau gwisgadwy drawsnewid gofal iechyd digidol drwy ganiatáu staff y GIG a staff gofal cymdeithasol i fonitro cleifion o bell.
 


 

Mae CPR Global Tech, sydd wedi’i leoli ym Mharc Technoleg Lakeside, wedi ymuno â Phrifysgol Abertawe ar gyfer Partneriaeth Rheoli Trosglwyddo Gwybodaeth Innovate UK, sy’n cysylltu busnesau sy’n meddwl ymlaen â phartneriaid academaidd i gyflawni prosiectau arloesi a arweinir gan fusnesau. Bydd y prosiect dwy flynedd, sydd wedi’i ariannu hyd at £143,000 gan Innovate UK, yn gweld y cwmni’n gwerthuso effaith posibl dyfeisiau iechyd gwisgadwy ar sector iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

Sefydlwyd CPR Global Tech yn 2010 ac mae ganddo hanes cryf o ddatblygu cynhyrchion sy’n arloesi ar gyfer bywyd bob dydd. Mae ystod cynnyrch y cwmni yn cynnwys technoleg blocio galwadau a ddefnyddir gan dros filiwn o gwsmeriaid ledled y byd.

Yn fwy diweddar, mae’r tîm wedi datblygu a chyflwyno’r Gwarcheidwad CPR, larwm argyfwng personol â rhybudd synhwyrydd cwympo. Mae’r Gwarcheidwad CPR yn cynnig synhwyrydd cwympo cywir, larwm personol, gwasanaeth olrhain lleoliad, monitor cyflymder y galon a gwasanaeth monitro 24 awr y diwrnod. Wedi’i gynllunio ar gyfer oedolion sy’n agored i niwed, gweithwyr unigol a’r rhai sy’n byw gyda Dementia ac Alzheimer, bydd y Gwarcheidwad CPR yn ffurfio sail i’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd arbenigwyr yn gwerthuso sut y gallai’r GIG ac adrannau gofal cymdeithasol ddefnyddio’r dechnoleg i fonitro cleifion sy’n agored i niwed yn eu cartrefi, gan wella gofal a chanlyniadau cleifion.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredu Chelsea Davies: 

“Yn CPR Global Tech, rydym yn falch o ddatblygu cynhyrchion sy’n seiliedig ar ein hethos o ofalu, diogelu a chysuro. Felly, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ein partneriaeth newydd â Phrifysgol Abertawe, sy’n ymwneud â defnyddio pŵer technoleg iechyd gwisgadwy i wella canlyniadau cleifion - nid yn unig mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ond hefyd yng nghartre’r claf.

“Er enghraifft, mae cwympiadau ymysg pobl hŷn yn bryder iechyd cyhoeddus sylweddol yng Nghymru, gyda thraean o bobl dros 65 oed a hanner o’r rhai dros 85 oed yn cwympo bob blwyddyn. Mae cwympiadau yn cael effaith ariannol sylweddol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gostio tua £2.3 biliwn i’r GIG bob blwyddyn. Mae ein technoleg yn rhybuddio cysylltiadau brys drwy neges destun â diweddariad lleoliad manwl gywir pryd bynnag y bydd cwymp yn digwydd, sy’n sicrhau bod anafiadau mwy difrifol sy’n gysylltiedig ag arosiadau hirach yn cael eu hosgoi.

“Wrth weithio gyda’r tîm Innovation ILA ym Mhrifysgol Abertawe, darparwyr iechyd lleol a chleifion, byddwn yn sefydlu treialon ac yn casglu adborth manwl gan randdeiliaid. Drwy’r gwaith hwn, ein nod yw casglu set ddata gadarn a fydd yn helpu i lywio sut y gall technoleg gwisgadwy helpu i wella gofal a chanlyniadau cleifion.

“Mae’r prosiect hwn yn bwysig yn strategol inni fel busnes ac i gymdeithas Cymru yn gyffredinol. Mae gan ein prosiect y potensial i wneud gwelliannau sylweddol i’r ffordd y mae’r GIG yn delio â chwympiadau, gan gyflawni canlyniadau gwell i gleifion ac arbedion costau hanfodol i’n gwasanaeth iechyd.”

Enillodd CPR Global Tech, sy’n cyflogi 20 o bobl ar draws rolau gwerthu, cymorth technegol a datblygu cynnyrch, Wobr y Frenhines am Fenter yn 2018 a 2020.

Mae CPR Global Tech wedi’i gynorthwyo gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu i gwmnïoedd uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae’r rhaglen wedi’i ariannu yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.



Gallwch ddysgu mwy am CPR Global Tech yma.

Mae mwy o wybodaeth ar Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yma.
 

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen Cymru gyfan wedi’i ariannu yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page